Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru F8.0 2024
Cynnwys
Cafodd y ddogfen hon ei lawrlwytho o LLYW.CYMRU, efallai nad dyma’r fersiwn mwyaf
diweddar. Ewch i https://www.llyw.cymru/hysbysiad-preifatrwydd-cofnod-dysgu-gydol-oes-cymru-f80-2024-html i weld y fersiwn ddiweddaraf.
Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+)
Yn achos rhaglenni TSC+ yn unig, mae’n orfodol i’r contractwr sicrhau bod pob unigolyn ar y rhaglen yn gweld yr hysbysiad preifatrwydd yn ystod y cyflwyniad i’r cynllun datblygu unigol.
Pob rhaglen arall
Mae’n orfodol i bob dysgwr weld Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru yn ystod y broses gofrestru, ynghyd â’r unigolion hynny sydd eisoes wedi dechrau dysgu.
Hysbysiad Preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru: rhan un (fersiwn fer)
-
Mae’r rhaglen ddysgu yr ydych ar fin ymrestru ar ei gyfer yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru (LlC).
Er mwyn cymryd rhan yn y rhaglen hon, bydd yn rhaid i chi ddarparu data
personol. Rydym yn dibynnu ar erthygl 6(1)(e) o Reoliad Cyffredinol y DU ar
Ddiogelu Data fel sail gyfreithiol i brosesu eich data personol. Mae hyn yn
caniatáu i ni fodloni ein dyletswyddau cyfreithiol a gweinyddu a monitro’r cyllid a ddarperir gennym. Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth categori arbennig, fel ethnigrwydd, bydd yn cael ei phrosesu am resymau diddordeb cyhoeddus sylweddol (o dan Erthygl 9(2)(g) a dibenion ystadegol (o dan Erthygl 9(2)(j). Ceir rhestr lawn o ddata categori arbennig yn ‘rhan dau/fersiwn iawn’ o’r hysbysiad preifatrwydd.Llywodraeth Cymru fydd yn rheoli unrhyw ddata personol a ddarperir gennych o 1 Awst 2024 hyd at 1 Ebrill 2025. Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu data ar ei rhan ei hun ac ar ran corff hyd braich newydd o’r enw Medr (enw Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil Cymru). Bydd Medr yn prosesu data yn ymwneud â phrentisiaethau, addysg bellach a dysgu oedolion yn y gymuned ar ran Llywodraeth Cymru.
Gan fod eich rhaglen yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, efallai y bydd eich darparwr dysgu yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ychwanegol megis pasbort, slip cyflog diweddar neu dystysgrif cymhwyster i sicrhau eich bod yn gymwys.
-
Bydd Llywodraeth Cymru a Medr yn defnyddio eich data at ddibenion ariannu, cynllunio a datblygu polisi yn ogystal â monitro deilliannau dysgwyr (megis ennill cymwysterau, cynnydd dysgwyr a chyrchfannau).
Yn ychwanegol, bydd eich data yn cael eu defnyddio mewn ystadegau ac
ymchwil swyddogol, gan gynnwys sut y mae iechyd ac amgylchiadau unigol yn cael effaith ar ddeilliannau addysgol dysgwyr yng Nghymru. Mae ein hadroddiadau ystadegau swyddogol yn rhoi darlun cyffredinol o ddysgwyr yng Nghymru, beth y maent yn eu hastudio, eu canlyniadau a’u cyrchfannau ar ôl iddynt adael. Er enghraifft, maent yn cynnwys, gwybodaeth am batrymau o ran rhyw ac oedran dysgwyr a’r cymwysterau, pynciau a’r lefelau y maent yn eu hastudio. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o’r cyhoeddiadau hyn.Fel rhan o ffrwd cyflogaeth Twf Swyddi Cymru Plws (TSC+), defnyddir data i bennu taliadau cymhorthdal cyfradd cyflog Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyflogaeth, er mwyn sicrhau bod y cyflog cywir yn cael ei dalu i’r cyfranogwr.
Bydd data cyflogwyr hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi, monitro a phennu cyrchfan y cyfranogwyr hynny drwy gyflogaeth. Bydd sefydliadau ymchwil hefyd yn defnyddio data dysgwyr ôl-16 er mwyn gwerthuso rhaglenni a pholisïau addysg yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith gwerthuso, efallai y byddant yn cynnal arolygon dysgwyr dewisol, a fydd yn asesu effaith rhaglen ar y dysgwr unigol yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu
polisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.Er mwyn i Lywodraeth Cymru asesu’r effaith y mae eu rhaglenni yn ei chael ar grwpiau o ddysgwyr penodol, byddwn yn cysylltu’ch data gyda chofnodion addysgol eraill a gedwir gennym, megis y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru a’r Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch. Rydym yn defnyddio hyn i’n helpu i ddeall cynnydd a deilliannau dysgwyr yng Nghymru, er mwyn llywio ein hymchwil, mesurau perfformiad a chyhoeddiadau ystadegol. Efallai y byddwn yn rhannu hyn hefyd gydag ymchwilwyr a chyda’n partneriaid, gan gynnwys Estyn a Cymwysterau Cymru, er mwyn eu cynorthwyo i gynnal eu dadansoddiad nhw o’r data i lunio arolygiadau ac adolygiadau. Ni ellir adnabod dysgwyr unigol o’r data hyn yr ydym yn eu rhannu â’n partneriaid.
Am restr fanylach o sut y mae eich data yn cael eu defnyddio, cyfeiriwch at y ‘rhan dau/fersiwn lawn’ o’r hysbysiad preifatrwydd hwn.
-
Gweld y ‘rhan dau/fersiwn lawn’ o’r hysbysiad preifatrwydd am esboniad llawn o bwy rydym yn rhannu eich data â nhw a pham.
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data gallwch:
- weld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch chi
- ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gywiro unrhyw wallau yn y data hynny
- gwrthwynebu unrhyw achos o brosesu’r data, am resymau’n ymwneud â’ch sefyllfa benodol chi (mewn rhai amgylchiadau)
- cyfyngu ar waith prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
- gofyn i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
-
Y math o
ddataCyfnod
cadw
dataDefnyddio’r data Addysg Bellach a
Dysgu OedolionBydd eich
data’n cael eu dileu ar
ôl 10 mlyneddMae’n galluogi Llywodraeth Cymru i ddadansoddi data dysgwyr a chreu adroddiadau dros gyfnod o amser. Bydd yr adroddiadau hynny yn cael eu defnyddio i helpu i lywio penderfyniadau ynghylch polisïau neu ragweld cyllid yn y dyfodol. Os caiff y dysgu ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, cedwir data fel bod modd eu gwirio a’u harchwilio. Yr
Undeb Ewropeaidd sy’n penderfynu ar y cyfnodau amser ar gyfer cadw data.Rhaglen
Comisiynu
PrentisiaethauBydd eich
data’n cael eu dileu 10 mlynedd
ar ôl diwedd cyfnod y
contractTwf Swyddi
Cymru Plws
(TSC+)Bydd eich
data’n cael eu dileu ar
ôl 10
mlyneddCedwir eich data am gyfnod hirach at ddibenion ystadegol a dibenion ymchwil. -
I wybod mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac at ba ddiben, neu os hoffech arfer eich hawl o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQE-bostiwch: dataprotectionofficer@gov.wales
I gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, gweler y manylion isod:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF029 2067 8400 (llinell gymorth Cymru) neu 0303 123 1113 (llinell gymorth y
Deyrnas Unedig)Gwefan: https://ico.org.uk
-
Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ddiwethaf ym mis Mehefin 2024 ac rydym yn ei adolygu’n gyson i sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn gywir. Byddwn wastad yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’r defnydd a wnawn o’ch data drwy’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn a’ch darparwr. Bydd pob achos o brosesu data gan Lywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth gyfredol ym maes diogelu data.
Os hoffech beidio â chyflwyno eich data categori arbennig ar unrhyw adeg,
dylech gysylltu â’ch darparwr dysgu a fydd yn diweddaru’ch cofnod.
Hysbysiad preifatrwydd Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru rhan dau (fersiwn lawn)
-
Cesglir data personol amdanoch gan y darparwyr ac fe’u hanfonir at Lywodraeth Cymru ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, y system gasglu data ar gyfer Addysg Bellach, Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau a Dysgu Oedolion. Yn ôl diffiniad y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, eich data personol yw:
- dynodydd unigryw’r dysgwr (sy’n cael ei greu gan Lywodraeth Cymru)
- rhif adnabod y dysgwr (a grëwyd gan eich darparwr dysgu)
- cyfenw
- enw(au) cyntaf
- cyfeirio
- cod Post
- rhif ffôn
- rhif Yswiriant Gwladol
- cenedl
- eich cyfenw yn 16 oed
- dyddiad geni
- hunaniaeth genedlaethol
- yr ysgol ddiwethaf yr aethoch iddi
- y flwyddyn y gadawsoch yr ysgol
- rhif dysgwr unigryw (a grëwyd gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
- p’un a ydych yn weithiwr mudol
- dangosydd anhawster neu anabledd dysgu
- cod post (ar ddechrau’r rhaglen ddysgu)
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn prosesu’r data categori arbennig hyn am ddysgwyr:
- ethnigrwydd
- math o anabledd
- cyflwr iechyd
Nid oes yn rhaid i chi ddarparu’r data hwn.
Gweler Atodiad A am restr o feysydd data amhersonol y mae Llywodraeth
Cymru yn eu casglu. -
- Mewn gwaith gwerthuso rhaglenni a phrosiectau, er mwyn llunio polisïau ar gyfer dysgu ôl-16 yn y dyfodol.
- Er mwyn mesur y deilliannau ar gyfer dysgu ôl-16, gan gynnwys
cyflawniadau dysgwyr o ran cymwysterau, cynnydd a chyrchfannau. - Er mwyn helpu i ddyrannu a monitro cyllid ar gyfer dysgu ôl-16.
- Gan archwilwyr Llywodraeth Cymru, sy’n gwirio’r data yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod darparwyr y Rhaglen Comisiynu Prentisiaethau yn cyflawni’r hyn a amlinellir yn eu contract neu’u cytundeb ariannu gyda Llywodraeth Cymru.
- Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o ran dysgu ôl-16 drwy Gymru, er mwyn sicrhau cydymffurfedd â Deddf Cydraddoldeb 2010.
- Er mwyn creu ystadegau swyddogol dienw ynghylch dysgu ôl-16 yng
Nghymru. - Er mwyn cysylltu â setiau data eraill at ddibenion ystadegol ac ymchwil, gan gynnwys cynhyrchu’r Set Data Addysg Cyfatebol (MED). Mae’r MED yn cysylltu Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru â’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion, Cyfrifiad Addysg Heblaw yn yr Ysgol, Cronfa Ddata Arholiadau Cymru, Casgliad Data ôl-16 a data yr Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch, sydd yn eu tro yn cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru iddeall cynnydd dysgwyr drwy’r system addysg a’u cyrchfannau ar ôl iddynt adael eu dysgu.
-
- Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu’ch data yn fewnol a chyda chyrff allanol y llywodraeth megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, er mwyn asesu effaith rhaglenni dysgu fel prentisiaethau.
- Gan gwmnïau ymchwil sy’n cael eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal gwaith gwerthuso ar raglenni fel Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau. Efallai y bydd hyn yn cynnwys cysylltu â dysgwyr o’r gorffennol a rhai cyfredol i gymryd rhan mewn arolygiadau, er y bydd gennych wastad yr opsiwn i wrthod cymryd rhan os cysylltir â chi.
- Gan y Swyddfa ystadegau Gwladol, er mwyn cyhoeddi ystadegau crynswth mewn perthynas â’r economi, y boblogaeth a chymdeithas ar lefel y Deyrnas Unedig, Cymru a lefel leol. Cyhoeddir yr ystadegau hyn mewn modd sy’n sicrhau nad yw’n bosibl adnabod unigolion. Un o brif gynhyrchion ystadegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol yw Cyfrifiad 2021. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn defnyddio’r data i wella cywirdeb Cyfrifiad 2021. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn defnyddio’r data i gynnal ymchwil, neu er mwyn rhoi data dienw i ymchwilwyr sydd wedi’u cymeradwyo (fel y’u diffinnir yn Neddf yr Economi Ddigidol), drwy ei hamgylchedd digidol diogel. Bydd prosiectau ystadegol y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’r prosiectau ymchwil yn ymwneud â chysylltu data â ffynonellau data eraill er mwyn helpu i ddeall y cyswllt rhwng y system addysg a materion eraill, megis iechyd, lles neu’r economi. Cynhelir yr holl waith ystadegol ac ymchwil mewn ffordd sy’n cynnwys cynnal gwiriadau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o
ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad. - Gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a fydd yn gweithio ag Amgylchedd Ymchwil Ddiogel i gysylltu’ch data gyda gwybodaeth ddienw amdanoch sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, y GIG a sefydliadau cyhoeddus eraill, gan sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad.
- Gan Brifysgol Abertawe, mewn Amgylchedd Ymchwil Ddiogel, lle mae modd gwneud ymchwil gan ddefnyddio gwybodaeth ddienw a chynnal gwiriadau i sicrhau nad oes modd adnabod unigolion o ganlyniadau unrhyw ddadansoddiad. Bydd eich enw, eich cyfeiriad a’ch cod post wastad yn aros ar wahân i’ch data, ac ni fyddant ar gael yn yr Amgylchedd Ymchwil Ddiogel. Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio at ddibenion ystadegol ac ymchwil yn unig. Un enghraifft o gwestiynau ymchwil allweddol a fydd yn cael eu hateb gan waith fel hyn yw sut y mae iechyd ac amgylchiadau unigol yn
effeithio ar gyrhaeddiad dysgwyr yng Nghymru. - Gan Cymwysterau Cymru i gynnal dadansoddiad o nifer y dysgwyr sy’n cofrestru ar gyfer cymwysterau a deilliannau mewn lleoliadau ôl-16. Bydd y data yn cyfrannu at raglen Cymwysterau Cymru o adolygiadau sector ac ymchwil arall ar gymwysterau ôl-16.
- Gan Estyn i gynnal arolygiadau o safonau fel rhan o’i ddyletswydd statudol i arolygu darparwyr ôl-16. Bydd dadansoddiadau o’r data hefyd yn cael eu defnyddio i gynllunio arolygon, adolygiadau thematig ac adroddiadau blynyddol.
- Gan Adran Addysg Llywodraeth y DU, i’w defnyddio yn yr Astudiaeth Deilliannau Addysg Hydredol (LEO). Mae hyn yn cynnwys cysylltu cofnodion dysgwyr â chofnodion cyflogaeth, enillion a budd-daliadau a gedwir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a CThEF (Saesneg yn unig), a hynny at ddiben nodi a dadansoddi i ba gyfeiriad y mae dysgwyr yn mynd o ran dysgu pellach a/neu gyflogaeth.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi’r data cysylltiedig hyn at ddibenion ystadegol,. Bydd hyn yn cynnwys eu defnyddio i asesu effeithiolrwydd polisi ym maes addysg a hyfforddiant, er enghraifft, faint o bobl sydd â chymwysterau penodol sy’n mynd ymlaen i gael swyddi penodol, cymharu deilliannau pobl sy’n mynd at wahanol ddarparwyr addysg neu hyfforddiant, neu p’un a yw cynlluniau penodol wedi cyflawni’r hyn yr oeddent i fod i’w gyflawni.
- Gan IFF Research (Saesneg yn unig) sy’n cynnal arolygon ymchwil er
mwyn rhoi darlun cyfredol o gyflogau prentisiaid yng Nghymru na thrwy Brydain Fawr ac i helpu o ran datblygu a monitro polisïau sy’n ymwneud â phrentisiaethau a’r isafswm cyflog cenedlaethol. - Gan KPMG, PwC, BTP Associates Ltd, Mazars ac RSM UK, archwilwyr
cyllid addysg bellach, sy’n sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu asesu a yw data sy’n cael eu dychwelyd gan sefydliadau yn sail resymol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch cyllid. - Gan Gyrfa Cymru, er mwyn cyflawni ei amcan o ddarparu cymorth i rwpiau penodol o unigolion sy’n wynebu risg uchel o ymddieithrio o addysg, cyflogaeth a hyfforddiant.
- Defnyddir data Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru er mwyn eu paru â
chofnodion cleientiaid sydd gan Gyrfa Cymru eisoes. Bydd rhywfaint o’r wybodaeth amhersonol a ddarperir i Gyrfa Cymru ar gael i Gyrfa Cymru o ddydd i ddydd felly. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am gyrsiau, dyddiad cychwyn ac ati. Mae manylion ynghylch sut y bydd Gyrfa Cymru yn defnyddio eich gwybodaeth i’w gweld yn ei hysbysiad preifatrwydd.
-
Mae gan Lywodraeth Cymru gytundeb rhannu data ffurfiol yn ei le pan fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd parti. Mae rhan o’r cytundeb yn golygu y bydd yn rhaid i drydydd parti lofnodi cytundeb cyfrinachedd ynghylch eich data er mwyn dangos ei fod yn gweithredu gweithdrefnau boddhaol ar gyfer diogelwch gwybodaeth, y byddant ond yn defnyddio eich gwybodaeth mewn ffyrdd a ragnodir, ac y byddant yn dinistrio ei gopïau o’ch data pan na fydd arnynt angen y data mwyach.
-
Bydd y data y mae Llywodraeth Cymru yn ei gasglu amdanoch yn cael ei storio mewn cronfa ddata ddiogel y caiff mynediad iddi ei reoli ac y caiff profion eu cynnal yn rheolaidd arni er mwyn sicrhau ei diogelwch a’i hintegriti.
Crynodeb o’r newidiadau i hysbysiad preifatrwydd CDGOC rhwng fersiwn 7.0 a 8.0
- Mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop bellach wedi dod i ben.
- Bydd archwiliadau dysgu seiliedig ar waith bellach yn cael eu cynnal yn rheolaidd yn hytrach nag yn fisol.
- Mae’r Set Ddata Addysg Gyfatebol (MED) bellach yn cael ei chreu yn fewnol yn hytrach nag yn allanol.
Atodiad A
-
Data amhersonol Nodiadau Dangosydd achredu dysgu drwy brofiad blaenorol Cydnabod y sgiliau a’r wybodaeth y mae’r dysgwr eisoes wedi llwyddo i’w cael at ddiben cymhwyster. Oriau gwaith gwirioneddol neu mewn canolfan Actual synchronous Hours Actual work or centre based
hoursRecords how much time the learner has spent learning at an employer or at a college or other learning centre. Amended work or centre based guided contact hours Assessable learning Whether learning is assessable, allowing identification of learning activities which should have linked awards (qualifications). Attainment indicator Award credit level/value Award entry identifier Identifier for each award entry for this learning programme. Award learning aim reference Identifier for learning activity drawn from Qualifications Wales or a Welsh Government defined generic code. Caring responsibility Records whether ESF-funded learners have caring responsibilities. Completion status Country of domicile Credit level/value of learning
activityDate commenced and
terminated learning activity/
programmeDestination within three
months of leavingEmployer name/postcode Employment status at start of
programme/before learningEmployer ID A unique ID allocated to the employer by the lead contractor. Expected asynchronous hours Estimated work/centre-based
hoursRecords an estimate of how much time the learner is likely to spend learning at an employer or at a college or other learning centre. Expected end date of learning
activityExpected synchronous hours Furlough indicator Hours worked per week Household status Records whether ESF-funded learners are from jobless
households.Immediate destination Destination of learner within four weeks of leaving the
programme.Individual development plan
indicatorRecords whether a learner has an individual
development plan (IDP).JGW+ activity descriptors Records the activity descriptions for learners on the
JGW+ programme.Learner provision funding Learning aim reference Identifier for learning activity drawn from Qualifications
Wales or a Welsh Government defined generic code.Learning programme code/activity reference used by
providerLearning programme expected
end dateLearning programme identifier Learning reference used by
providerLength of employment with
same employerLevel of highest qualification
achieved prior to learning
programmeLearning difficulty or disability
indicatorMajor source of fees Method of delivery Records whether learning is delivered in classrooms, in
the workplace or in other ways.Postcode (at start of learning
programme)Programme start date Proportion of learning activity
delivered through the medium
of WelshProvider delivering learning Reason for termination of
learning programmeResult and date of result Sector framework codes Size of employer/Small to Medium Enterprise (SME)
codeState aid Subcontractor delivering
programmeSubject of learning/title of
award/learning activityTotal fees paid for learning
programmeType of highest Welsh
qualification achieved prior to
learning programmeType of learning programme/
activity/awardType of Welsh medium
learningUnitary authority code Wage contribution Wage rate Wage subsidy ID Welsh speaker indicator Work or centre based guided
contact hoursRecords how much time the learner is likely to spend
learning at an employer or at a college or other learning
centre.