Prentisiaid Coleg Sir Gâr yn serennu yng ngwobrau 2025



Mae prentisiaid yng Ngholeg Sir Gâr wedi derbyn gwobrau yng Ngwobrau Prentisiaeth a Dysgwyr Twf Swyddi Cymru+ 2025.
Yn bresennol yn y cinio gwobrwyo ym Mharc y Scarlets roedd y prentisiaid Evan Edwards, Guto Rogers a Sophie Owen a enillodd wobrwyon mewn gwahanol gategorïau yn ystod y digwyddiad.
Ac yntau’n wynebu pedwar cystadleuydd arall ar gyfer Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn, llwyddodd Euan Edwards, prentis rheoli adeiladu, i ennill y teitl.
Mae Euan yn cael ei gyflogi gan Morganstone Construction ac mae’n astudio prentisiaeth lefel uwch ar lefel pump.
Dechreuodd ei brentisiaeth heb unrhyw brofiad blaenorol mewn rheolaeth adeiladu ond llwyddodd i addasu’n gyflym i ofynion y rôl.
Mae Euan wedi dangos cryfder a gwytnwch rhyfeddol ac mae ei daith prentisiaeth yn enghraifft o rym dyfalbarhad, dysgu rhagweithiol a meddylfryd twf.
Daeth Sophie Owen i’r brig yng Ngwobr Seren Ddisglair Twf Swyddi Cymru+, am ei lleoliad mewn meithrinfa lle dangosodd fenter aruthrol a moeseg gwaith cryf, gan gymryd yr awenau wrth greu cynlluniau gwersi a gweithgareddau.
Yn ei henwebiad ar gyfer y rhestr fer, dywedwyd bod Sophie wedi ychwanegu gwerth at y sefydliad drwy wella’r profiadau addysgol.
Hefyd, enillodd Sophie radd gyfwerth â C mewn mathemateg a Saesneg TGAU a thrwy ei gwaith caled a’i gwytnwch a thrwy gymryd perchnogaeth o’i dysgu a’i heriau, mae hi wedi sicrhau prentisiaeth gofal plant.

Enillodd Guto Rogers, a oedd yn cystadlu yn erbyn unigolion o Goleg Sir Benfro a chwmni hyfforddi annibynnol, y Wobr Gymraeg.
Ar hyn o bryd mae e’n cwblhau prentisiaeth lefel tri mewn gwaith saer ar safle ac mae’n dod o aelwyd sy’n siarad Cymraeg.
Ac yntau’n gweithio mewn cymunedau gwledig, roedd Guto yn teimlo ei bod yn hanfodol iddo barhau â’i brentisiaeth yn ddwyieithog, nid yn unig o ran astudiaethau ei brentisiaeth, ond ar gyfer ei ddatblygiad proffesiynol hefyd.

Roedd nifer fawr o brentisiaid Coleg Sir Gâr, dysgwyr seiliedig ar waith a dysgwyr Twf Swyddi Cymru+ wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau’r gystadleuaeth.
Gyda 12 categori, roedd Brandon Davies (rheolaeth adeiladu) ar y rhestr fer ar gyfer Prentisiaid Uwch y Flwyddyn, ac roedd Twm Jones (gwaith saer ar safle) ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Seren Ddisglair y Prentisiaid.
Cafodd George Mckevitt-Powell, sy’n hyfforddi ym maes cymorth addysgu ar gyfer ysgolion, ei ddewis ar y rhestr fer ar gyfer dysgwr Cynnydd y flwyddyn Twf Swyddi Cymru+.
Roedd Harry Coppack, sy’n gweithio mewn planhigfa, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Seren Ddisgalir Twf Swyddi Cymru+ yn ogystal ag Aden James, sydd ar leoliad mewn ysbyty ar hyn o bryd.
Meddai Gareth David, pennaeth dysgu seiliedig ar waith yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion: “Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd wych o dynnu sylw at waith a llwyddiant rhaglenni dysgu seiliedig ar waith a’r dysgwyr sy’n rhagori ac yn ffynnu arnynt.
“Rydym yn hynod falch o weld yr effaith go iawn y maen nhw’n ei chael yn eu gweithleoedd.
“Mae gweld eu twf a dathlu sut mae dysgu seiliedig ar waith yn grymuso dysgwyr i gyflawni eu potensial llawn yn ysbrydoledig.”
