Polisi Ymddygiad Cadarnhaol 2023 - 2025
Introduction
-
-
1.1 Mae’r Coleg yn cydnabod bod ganddo ddyletswydd i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ac i greu ethos o barch, goddefgarwch a dinasyddiaeth ymhlith cymuned y Coleg.
-
1.2 Mae’r Coleg yn cydnabod y bydd yna achosion lle mae angen camau disgyblu er mwyn gwarchod hawliau dysgwyr, staff, ymwelwyr a’r gymuned ehangach.
-
1.3 Diben y Polisi Disgyblu hwn yw gosod gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi a’u trin yn deg, yn gyson ac mewn modd amserol.
-
-
-
2.1 Nodir y prif ddisgwyliadau o ran ymddygiad dysgwyr yng Nghod Ymddygiad y dysgwyr. Bydd canllawiau eraill ar gyfer ymddygiad dysgwyr yn cael eu cyhoeddi yn ôl yr angen a’u cymeradwyo gan dîm adran Weithredol y Coleg.
-
2.2 Mae Cod Ymddygiad y Dysgwyr wedi’i seilio ar 3 prif egwyddor:
-
Yn barod
-
Parch
-
Bod yn Ddiogel
-
-
2.3 Nid yw Cod Ymddygiad y dysgwyr yn rhestr gynhwysfawr ac mae’r Coleg yn cadw’r hawl i roi cosbau am dramgwyddau eraill y mae’n credu eu bod yn groes i ysbryd y Cod Ymddygiad.
-
2.4 Mae’r Polisi Ymddygiad Cadarnhaol hwn yn berthnasol i’r holl ddysgwyr sydd wedi’u cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr llawn amser a rhan-amser; dysgwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni Dysgu Seiliedig ar Waith a dysgwyr Addysg Uwch.
-
2.5Mae dysgwyr Addysg Uwch hefyd yn ddarostyngedig i’r rheoliadau a nodir yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd PCYDDS.
-
2.6 Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i osod canlyniadau disgyblu ar gyfer tramgwyddau sy’n digwydd i ffwrdd o’r Coleg ( neu ar-lein ) lle mae gan weithredoedd o’r fath y potensial i ddwyn anfri ar y Coleg neu i effeithio ar ddiogelwch a / neu hawliau dysgwyr eraill, staff neu ymwelwyr.
-
2.7 Mae gan bob aelod o staff a phob dysgwr rôl i’w chwarae wrth hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel.
-
2.8 Mae cymhwyso’r Polisi Ymddygiad Cadarnhaol yn gyson yn allweddol i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel. Bydd Timau Rheoli’r Coleg yn sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o’r polisi ac yn deall yr egwyddorion sy’n sail i’w gymhwyso.
-
2.9 Bydd y Coleg yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod dysgwyr yn cael gwybod am, ac yn deall, y disgwyliadau a nodir yn y Cod Ymddygiad ac unrhyw ganllawiau eraill.
-
2.10 Ymdrinnir ag achosion mân o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad yn anffurfiol. Fel rheol, bydd achosion mwy difrifol o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad yn arwain at Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol. (gweler yr atodiad am enghreifftiau)
-
2.11 Mae’r Coleg yn cydnabod yr angen i gymhwyso ei Bolisi Ymddygiad Cadarnhaol gan ddefnyddio barn broffesiynol ac i ystyried amgylchiadau personol ac esgusodol. Bydd y Coleg hefyd yn gwneud “addasiadau rhesymol” wrth gymhwyso’r polisi hwn lle mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud hynny’n ofynnol.
-
2.12 Hefyd rhoddir ystyriaeth i fesurau cefnogol ar gyfer dysgwyr sy’n destun camau disgyblu. Gallai hyn gynnwys cefnogaeth mentor, cynghori, cymorth gan Diwtoriaid Personol neu atgyfeiriadau i asiantaethau allanol.
-
2.13 Bydd y Coleg yn arfer ei hawliau o dan y polisi hwn yn seiliedig ar egwyddorion tegwch, tryloywder, yr angen i wrando ar bob parti a’r angen i ddod i benderfyniad mewn modd amserol.
-
2.14 Gall panel Diogelu’r Coleg wneud penderfyniad i wahardd / tynnu nôl dysgwyr lle mae gan y panel reswm i gredu na ellir eu perswadio’n ddigonol eu bod yn gallu cyflawni eu Dyletswyddau Diogelu i’r Coleg.
-
-
-
3.1 Mae’r broses ddisgyblu yn cynnwys y lefelau canlynol:
- Anffurfiol - Yr aelod staff sy’n gyfrifol am y grŵp Tiwtorial o ddysgwyr yw’r pwynt cyswllt cyntaf bob amser a bydd yn rheoli ymddygiad gan ystyried unrhyw anghenion ychwanegol o eiddo’r dysgwyr. Gall hyn gynnwys cyfeirio neu weithio gyda budd-ddeiliaid allanol a gwasanaethau cefnogi( er enghraifft rhieni / gwarcheidwaid / gweithwyr cefnogi ) - nid oes angen i hyn fod drwy achos pryder.
- Bydd pob dysgwr yn cael tiwtorial, ble caiff gyfleoedd i ddysgu am ddatblygiad personol a materion amserol a bydd yn cael sesiynau 1 i 1 i fonitro ac olrhain cynnydd. Mae hwn yn gyfle i roi unrhyw gamau cefnogol yn eu lle.
-
3.2 Nodiadau Achos Pryder – ar gyfer cofnodi achosion mân o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad Ffurfiol (Dim ond ar ôl gorffen Canfod ffeithiau y gellir penderfynu ar lefel hyn).
-
3.3 Cam 2 Rhybuddion Ysgrifenedig Cyntaf – ar gyfer cofnodi tor-rheolau mwy difrifol
-
3.4 Cam 3 Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol – ar gyfer cofnodi tor-rheolau difrifol a sylweddol
-
3.5 Panel cynhwysiant - Gwaharddiad – ar gyfer delio â materion y bernir eu bod yn “gamymddwyn difrifol”
-
-
-
4.1 Ymdrinnir ag achosion mân o dorri’r Cod Ymddygiad yn anffurfiol a chofnodir hynny ar y system Gwybodaeth myfyrwyr ynghyd â chynllun gweithredu os oes angen.
-
4.2 Gall unrhyw aelod o staff roi nodyn Achos Pryder a bydd Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs, Ymgynghorydd Hyfforddi neu debyg yn trafod hyn gyda’r dysgwr.
-
4.3 Bydd Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs, Darlithydd, Ymgynghorydd Hyfforddi neu debyg yn ymdrin ag achosion mân o dorri’r cod ymddygiad dro ar ôl tro ac mae’n ofynnol iddynt gynhyrchu cynllun gweithredu a chyfathrebu â rhieni lle bo’n briodol.
-
4.4 Ymdrinnir â thorri’r Cod Ymddygiad yn barhaus trwy Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol.
-
4.5 Fel rheol bydd tri Nodyn Achos Pryder gwahanol o fewn un hanner tymor yn cael eu trin fel “achosion mân o dorri rheolau dro ar ôl tro” a bydd Tiwtoriaid Personol neu Diwtoriaid Cwrs yn cyfeirio unigolion at dimau Rheoli Maes Cwricwlwm ar gyfer camau gweithredu priodol.
-
4.6 Bydd staff yn arfer barn broffesiynol wrth ystyried a ddylid cyfeirio “achosion mân o dorri rheolau dro ar ôl tro” ar gyfer camau gweithredu mwy ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried anghenion dysgu unigol y dysgwyr ac unrhyw amgylchiadau personol ac esgusodol. Anogir staff i drafod achosion unigol gyda’r tîm Cefnogi Dysgwyr (Lles) neu’r tîm Cymorth Dysgu (ADY) os oes unrhyw bryder ynghylch priodoldeb dilyn camau disgyblu mwy ffurfiol.
-
4.7 Bydd Timau Rheoli Maes Cwricwlwm yn gyfrifol am fonitro cofnodion ar y system Gwybodaeth myfyrwyr er mwyn sicrhau cysondeb.
-
4.8 Caiff staff sy’n delio gyda dysgwyr sydd wedi derbyn 3 neu fwy o nodiadau Achos Pryder eu hannog i nodi p’un a oes unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a all fod angen addasiadau rhesymol.
-
4.9 Anogir y tiwtor / aseswr i gysylltu â rhieni /gofalwyr y dysgwr (os yw dan 18 oed ) cyn ei atgyfeirio i gam disgyblu ffurfiol.
-
-
- Dim ond ar ôl Canfod ffeithiau y gellir pennu lefel disgyblu ffurfiol ac yna rhoddir argymhelliad ynghylch ar ba gam y mae angen gwrando ar yr achos disgyblu (os caiff yr achos ei gadarnhau).
Penodir aelod staff i weithredu fel Swyddog Canfod Ffeithiau (FFO).- Ar gyfer honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Cyntaf, fel arfer y Tiwtor personol, y Tiwtor cwrs neu’r Ymgynghorydd Hyfforddi fydd y Swyddog Ymchwilio (IO).
- Ar gyfer honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Terfynol fel arfer aelod o Dîm Rheoli’r Maes Cwricwlwm fydd y Swyddog Ymchwilio.
- Ar gyfer honiadau sy’n debygol o arwain at Waharddiad fel arfer aelod o Dîm Rheoli’r Maes Cwricwlwm fydd y Swyddog Ymchwilio.
- Rhaid i’r FFO a’r DO geisio cyngor gan y timau Lles ac ADY er mwyn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu bodloni os caiff addasiadau rhesymol eu nodi.
- 5.1 Gwneir y penderfyniad i fynd ymlaen i Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol ar ôl cynnal ymarfer Canfod ffeithiau.
- 5.2 Cynhelir Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol lle bernir bod achos o dorri’r Cod Ymddygiad yn gwarantu gweithredu mwy ffurfiol.
- 5.3 Wrth wneud y penderfyniad i fynd ymlaen i Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol, bydd y canllawiau a amlinellir (yn adran 6) isod yn cael eu defnyddio i bennu cam priodol y gwrandawiad a’r canlyniad posibl.
- 5.4 Fel arfer y staff canlynol fydd y Swyddog Disgyblu (DO) ar gyfer Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol. Mae’r canlynol ar gyfer arweiniad yn unig a gall amrywiadau gael eu cytuno rhwng y Penaethiaid Cwricwlwm a‘r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr neu’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm.
- 5.4.1 Cam 2 - Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf – Pennaeth Cwricwlwm (DO)
- 5.4.2 Cam 3 - Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol - Cyfarwyddwr Cynorthwyol (DO)
- 5.4.3 Panel cynhwysiant - Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr (DO)
- 5.5 Ar bob cam, lle nodir angen dysgu ychwanegol neu angen cefnogaeth mae’n hanfodol cynnwys aelod staff o’r tîm ADY a/neu’r Tîm Lles, i gefnogi’r dysgwr a hefyd rhoi cyngor ar unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen.
- 5.6 Bydd y FFO yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu’r achos a’r dystiolaeth sy’n cefnogi cymryd camau disgyblu gan ddefnyddio’r templed. Yn nodweddiadol bydd yr adroddiad ysgrifenedig yn cynnwys cofnod y dysgwr o’r system gwybodaeth myfyrwyr gan gynnwys presenoldeb, perfformiad cyffredinol ar y cwrs ac unrhyw nodiadau Achos Pryder cyfredol neu rybuddion blaenorol. Hefyd bydd yn edrych i mewn i unrhyw anghenion cefnogaeth ychwanegol a all fod gan y dysgwr. Yn ogystal dylai hyn gynnwys y FFO neu’r DO yn trafod gyda rhieni ( os dan 18 oed ) os ceir datgeliad geiriol o unrhyw anghenion dysgu ychwanegol.
- 5.7 Fel rhan o’r ymarfer Canfod ffeithiau, bydd y FFO yn cyfweld y dysgwr sy’n destun unrhyw honiad(au) ac unrhyw dystion, gan gynnwys y Tiwtor Cwrs a / neu Diwtor Personol er mwyn cael darlun cyffredinol o berfformiad cyfredol, agwedd ac unrhyw amgylchiadau esgusodol posibl.
- 5.8 Bydd y FFO yn gwneud penderfyniad ar sail tystiolaeth a gasglwyd ynghylch a oes sail ddigonol i fynd ymlaen i Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol ac yn gwneud argymhelliad ynghylch ar ba gam y dylid cynnal y gwrandawiad.
- 5.9 Darperir cyfathrebiad ysgrifenedig i ddysgwr sy’n wynebu Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol. Bydd y cyfathrebiadau yn rhoi manylion yr honiadau yn erbyn y dysgwr; lefel y canlyniad y gellir ei roi yn dilyn y gwrandawiad; copi o’r Polisi Disgyblu hwn; hysbysiad o’r hawl i gael ei gynrychioli (gweler adran 7 isod); manylion y FFO a’r rheolwr sy’n cynnal y gwrandawiad (DO); ac adroddiad yr ymarfer Canfod ffeithiau ( yn ddienw ); yr angen i’r dysgwr gadarnhau presenoldeb yn y gwrandawiad; hysbysiad o unrhyw dystion y gall fod eisiau eu galw.
(Noder fod angen ystyried anghenion dysgu unigol y dysgwr yn y cyfathrebiad sy’n cael ei rannu) - 5.10 Dylid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol gydag o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd.
- 5.11 Bydd copïau o unrhyw ohebiaeth yn cael eu hanfon at rieni / gofalwyr unrhyw ddysgwr sydd dan 18 oed.
- 5.12 Rhaid i ddysgwr sy’n methu â mynychu apwyntiad ar gyfer Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol gysylltu â’r rheolwr sy’n cynnal y gwrandawiad os oes angen trefnu dyddiad arall. Mae gan y rheolwr sy’n cynnal y gwrandawiad yr awdurdod i roi apwyntiad arall fel y gwêl yn ddoeth.
- 5.13 Lle mae dysgwr yn methu â mynychu Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol, heb wneud cysylltiad, mae gan y rheolwr sy’n cynnal y gwrandawiad yr awdurdod i glywed yr achos yn ei absenoldeb.
- 5.14 Bydd y FFO yn cyflwyno adroddiad i’r gwrandawiad. Bydd adroddiad ar gael i’r dysgwr fel rhan o’r cyfathrebiad . Bydd y DO sy’n cynnal y gwrandawiad yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y dysgwr yn deall yr adroddiad a’r canlyniadau posibl. ( Efallai bydd angen cyngor yma gan y tîm Cymorth Dysgu neu’r tîm Cefnogi Dysgwyr ).
(Noder fod angen ystyried anghenion dysgu unigol y dysgwr yn y cyfathrebiad sy’n cael ei rannu) - 5.15 Mae’r dull o gynnal y gwrandawiad a’r drefn y bydd pob parti yn cyflwyno tystiolaeth wedi’i gynnwys yn Atodiad 17.3. Er hynny dylid ystyried unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol ac efallai bydd angen i’r DO wneud addasiadau rhesymol wrth ystyried anghenion y dysgwr.
- 5.16 Bydd penderfyniadau a wneir yn dilyn Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol ar sail yr egwyddor o bwysau tebygolrwydd. Nid yw’n fwriad bod yn rhaid profi honiadau “tu hwnt i bob amheuaeth resymol”.
- 5.17 Ar ddiwedd Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol gall y rheolwr sy’n cynnal y gwrandawiad hysbysu’r partïon ei fod am gymryd cyfnod o hyd at 3 diwrnod gwaith i ddod i benderfyniad.
- 5.18 Bydd canlyniadau’r Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol yn cael eu cyfleu yn ysgrifenedig i’r dysgwr, a rhieni / gofalwyr os dan 18 oed, o fewn 3 diwrnod gwaith i’r penderfyniad. Bydd canlyniadau Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol yn cael eu cofnodi ar y system cofnodion myfyrwyr. Y rheolwr sydd wedi cynnal y gwrandawiad fydd yn cofnodi’r rhybuddion ar y system. Hefyd caiff copïau o’r canlyniadau eu rhannu gydag unrhyw asiantaeth gefnogi yn ôl disgresiwn y dysgwr neu bryderon diogelwch cysylltiedig.
- 5.19 Rhaid gofyn i ddysgwyr a ydynt yn dymuno i’w gwrandawiad disgyblu gael ei gynnal yn Gymraeg a rhaid darparu’r gwasanaeth hwn os dyna yw eu dymuniad.
- Dim ond ar ôl Canfod ffeithiau y gellir pennu lefel disgyblu ffurfiol ac yna rhoddir argymhelliad ynghylch ar ba gam y mae angen gwrando ar yr achos disgyblu (os caiff yr achos ei gadarnhau).
-
- 6.1 Darperir yr enghreifftiau canlynol fel arweiniad wrth ystyried lefel y gwrandawiad neu gosb i’w rhoi am doriadau nodweddiadol i reolau’r Cod Ymddygiad. Ni fwriedir i’r rhestr fod yn gynhwysfawr. Bydd rheolwyr yn ystyried difrifoldeb ac effaith unrhyw dor-rheolau honedig ar ddysgwyr, staff a’r Coleg wrth benderfynu pa lefel o gosb i’w rhoi.
- 6.1.1 Cam 2 - Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf - yn nodweddiadol ar gyfer achosion mân o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad; absenoldeb islaw targed y Coleg, heb esboniad digonol, mewn unrhyw gyfnod o 4 wythnos; fêpio yn yr adeilad, fêpio y tu allan i ardaloedd dynodedig yn gyson; ysmygu y tu allan i ardaloedd dynodedig; gollwng sbwriel; ymddygiad anfoesgar ac aflonyddgar; torri rheoliadau gyrru a pharcio; torri polisi Cyfryngau Cymdeithasol a/neu TG y Coleg; torri canllawiau ar ymddygiad sy’n gysylltiedig â chludiant, defnydd o’r llyfrgell / Canolfannau Adnoddau Dysgu, mannau cymdeithasol, ac ati;
- 6.1.2 Cam 3 - Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol - yn nodweddiadol am fethu â gwella neu am ailadrodd tor-rheolau a wnaeth arwain at rybudd blaenorol; iaith neu ymddygiad sarhaus neu wahaniaethol; gweithredoedd sy’n dwyn anfri ar y Coleg; trais; ymddygiad bygythiol; llên-ladrad; twyll (gan gynnwys ffugio llofnodion ar gyfer taliadau LCA); tor-rheolau mewn perthynas â lleoliad gwaith; iaith neu ymddygiad sy’n cael effaith sylweddol ar ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr neu’r gymuned ehangach; gweithredoedd neu ymddygiad sy’n peri risg i ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr, neu’r gymuned ehangach.
- 6.1.3 Panel cynhwysiant - Gwaharddiad am Gamymddwyn Difrifol - yn nodweddiadol ar gyfer methu â gwella yn dilyn Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol; ailadrodd gweithredoedd a arweiniodd at Rybudd Ysgrifenedig Terfynol; trais; dwyn; gweithredoedd gwahaniaethu difrifol; gweithredoedd bwlio neu aflonyddu difrifol; gweithredoedd difrifol sy’n dwyn anfri ar y Coleg; achosion difrifol o dorri polisïau TG neu gyfryngau cymdeithasol y Coleg; ymddygiad rhywiol amhriodol neu sarhaus difrifol; difrod bwriadol i eiddo’r Coleg; analluogrwydd difrifol oherwydd alcohol neu fod o dan ddylanwad, neu fod â, chyffuriau anghyfreithlon yn eu meddiant; esgeulustod sy’n achosi colled, niwed neu anaf difrifol; iaith neu ymddygiad sy’n peri risg difrifol a sylweddol i ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr neu’r gymuned ehangach.
- 6.2 Cynlluniau Gweithredu – rhoddir y rhain ochr yn ochr â rhybudd ysgrifenedig neu derfynol neu waharddiad dros dro gan osod allan y gwelliannau mewn ymddygiad a ddisgwylir gan ddysgwr. Fel rheol bydd y rhain yn cael eu cofnodi ar y system cofnodion myfyrwyr ac yn cael eu monitro gan y Tiwtor Cwrs, Tiwtor Personol, Ymgynghorydd Hyfforddi neu debyg. Bydd y dysgwr, rhiant / gofalwr a’r rheolwr sydd yn cynnal y gwrandawiad yn llofnodi copi o’r cynllun gweithredu.
- 6.3 Cyfiawnder Adferol - lle bernir y byddai
- ymagwedd Cyfiawnder Adferol yn helpu i sicrhau nad yw tramgwyddau’n cael eu hailadrodd
- yn galluogi dysgwr i gymryd cyfrifoldeb a deall ei weithredoedd, a / neu
- dangos i’r rheiny y mae gweithredoedd dysgwr yn effeithio arnynt, gall dysgwr sy’n destun rhybudd disgyblu
cael ei gyfeirio at y tîm Lles neu’r tîm Cymorth ADY ar gyfer Ymyriad Cyfiawnder Adferol.
- 6.1 Darperir yr enghreifftiau canlynol fel arweiniad wrth ystyried lefel y gwrandawiad neu gosb i’w rhoi am doriadau nodweddiadol i reolau’r Cod Ymddygiad. Ni fwriedir i’r rhestr fod yn gynhwysfawr. Bydd rheolwyr yn ystyried difrifoldeb ac effaith unrhyw dor-rheolau honedig ar ddysgwyr, staff a’r Coleg wrth benderfynu pa lefel o gosb i’w rhoi.
-
- 7.1 Mae gan ddysgwr sy’n wynebu Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol yr hawl i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.
- 7.2 Fel arfer un person o’r categorïau canlynol fydd cynrychiolydd y dysgwr: rhiant / gofalwr, cyd-ddysgwr, Swyddog Undeb y Myfyrwyr, ffrind, neu aelod o’r tîm Cymorth Dysgu (ADY) / tîm Cefnogi Dysgwyr (Lles), neu asiantaeth gefnogi berthnasol.
- 7.3 Nid yw’n cael ei ystyried yn briodol i ddysgwr sy’n wynebu Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol gael ei gynrychioli gan gyfreithiwr neu berson arall sy’n gweithredu yn rhinwedd swydd gyfreithiol broffesiynol.
-
- 8.1 Mae’r Coleg yn cydnabod difrifoldeb unrhyw benderfyniad i wahardd dysgwr. Gwneir y fath benderfyniadau dim ond pan ystyrir bod dysgwr wedi torri’r Cod Ymddygiad yn ddifrifol, yn sylweddol neu’n barhaus neu wedi cyflawni rhyw weithred arall sy’n gwneud niwed, neu sydd â’r potensial i niweidio, buddiannau’r Coleg, dysgwyr eraill, staff neu’r gymuned ehangach.
- 8.2 Bydd Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol sy’n arwain at waharddiad yn dilyn yr egwyddorion a amlinellir yn adran 5 uchod, gyda’r gofyniad ychwanegol bod tystiolaeth yn cael ei hystyried gan banel o staff fydd fel arfer yn cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Cwricwlwm neu Gyfarwyddwr Profiad Dysgwyr, neu mewn achosion eithriadol aelod arall o Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Coleg fydd yn gweithredu fel Swyddog Disgyblu (DO). Hefyd bydd angen dau reolwr arall o’r Coleg ac aelod o’r Tîm Lles neu’r Tîm ADY fel bo’n briodol.
- 8.3 Lle mae’r panel yn canfod bod yr honiadau’n cael eu cadarnhau, fel arfer bydd penderfyniad i wahardd yn effeithiol ar unwaith.
- 8.4 Gall y panel benderfynu gosod cosb ychydig yn llai na gwaharddiad yn effeithiol ar unwaith. Mae’r rhain yn cynnwys:
- 8.4.1 “Dedfryd ohiriedig” - lle mae tystiolaeth bod gwaharddiad yn cael ei gyfiawnhau gan y dystiolaeth yn y gwrandawiad ond mae’r panel yn dymuno rhoi cyfle i’r dysgwr aros yn y coleg ar y ddealltwriaeth y gellir gofyn i’r dysgwr adael yn syth os oes unrhyw dor-rheolau pellach o’r Cod Ymddygiad. Ni chynhelir gwrandawiadau pellach. Y panel a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad gwreiddiol fydd yn gwneud y penderfyniad i orfodi gwaharddiad o’r fath.
- 8.4.2 Rhybudd ysgrifenedig cyntaf neu rybudd ysgrifenedig terfynol neu estyniad i rybudd terfynol sy’n bodoli eisoes, o ddyddiad gwrandawiad y panel cynhwysiant.
-
- 9.1 Rhybuddion Ysgrifenedig Cyntaf - byddant yn aros ar gofnod dysgwr am gyfnod o 35 wythnos Coleg.
- 9.2 Rhybuddion Ysgrifenedig Terfynol - byddant yn aros ar gofnod dysgwr am gyfnod o 52 wythnos Coleg.
-
- 10.1 Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i wrthod derbyniad i unrhyw un o’i gyrsiau yn dilyn Gwaharddiad.
- 10.2 Bydd unigolion sy’n dymuno ail-ymgeisio i’r Coleg yn dilyn gwaharddiad yn amodol ar fynychu cyfweliad gyda Phanel Derbyn cyn y bydd eu cais yn cael ei ystyried gan Dîm Cwrs.
- 10.3 Hefyd bydd yn ofynnol gan y Coleg bod unrhyw ddysgwr sydd wedi derbyn Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol yn mynychu Panel Derbyn cyn cael ei ystyried am fynediad i gwrs arall yn y Coleg. Caiff y panel hwn ei ymgynnull gan Gyfarwyddwr Cwricwlwm neu Gyfarwyddwr Profiad Dysgwyr a’r pennaeth Cwricwlwm ar gyfer y maes mae’r dysgwr yn ymgeisio iddo ac aelod o’r Tîm Lles neu’r Tîm ADY os yn briodol.
- 10.4 Pan ail-dderbynnir dysgwr yn dilyn Gwaharddiad neu Rybudd Ysgrifenedig Terfynol, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i roi Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol fel cosb i fod ar waith o ddechrau unrhyw gwrs newydd. Bydd hyn hefyd yn berthnasol os yw dysgwr wedi tynnu’n ôl o gwrs yn flaenorol cyn mynychu Gwrandawiad Disgyblu a drefnwyd a allai fod wedi arwain at Rybudd Ysgrifenedig Terfynol neu Waharddiad.
-
- 11.1 Mewn achosion lle mae cred resymol bod dysgwr yn peri risg i ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr neu enw da’r Coleg, gellir rhoi gwaharddiad dros dro ar unwaith cyn cynnal unrhyw ymarfer canfod ffeithiau.
- 11.2 Bydd penderfyniad i wahardd dros dro fel arfer yn dilyn ymarfer canfod ffeithiau cychwynnol i unrhyw honiadau. Fel arfer bydd y penderfyniad i wahardd dysgwr dros dro yn cael ei gymryd gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol / Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu Gyfarwyddwr Profiad Dysgwyr neu aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Rheoli.
- 11.3 Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i osod gwaharddiad dros dro cyn unrhyw Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol.
- 11.4 Nid yw gwaharddiad dros dro yn nodi unrhyw farn ynghylch honiadau yn erbyn dysgwr.
- 11.5 Fel arfer bydd gwaharddiadau dros dro yn dilyn honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Cyntaf yn para nid mwy na 5 diwrnod Coleg, er gall fod achlysuron lle mae angen ehangu hyn a chyfathrebir hyn gyda’r dysgwr.
- 11.6 Fel arfer bydd gwaharddiadau dros dro yn dilyn honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Terfynol neu Waharddiad yn para nid mwy na 10 diwrnod Coleg, er gall fod achlysuron lle mae angen ehangu hyn a chyfathrebir hyn gyda’r dysgwr.
- 11.7 Caiff gwaharddiad dros dro ei drin fel absenoldeb awdurdodedig o’r Coleg at ddibenion talu LCA.
-
- 12.1 Lle mae torri rheolau Cod Ymddygiad y dysgwr yn digwydd ar gludiant y Coleg gall cosbau ychwanegol gael eu rhoi. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
- 12.1.1 Tynnu tocyn teithio yn ôl dros dro
- 12.1.2 Tynnu tocyn teithio yn ôl yn barhaol
- 12.1.3 Gofyniad bod dysgwr yn teithio ar lwybr arall
- 12.1.4 Gofyniad bod dysgwr yn talu am unrhyw ddifrod i fws neu fath arall o gludiant.
- 12.2 Dim ond ar ôl ymarfer Canfod Ffeithiau ac unrhyw Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol y bydd unrhyw gosb ychwanegol yn cael ei rhoi.
- 12.3 Cytunir ar gosbau ychwanegol rhwng y Coleg ac Uned Gludiant Cyngor Sir Caerfyrddin neu Gyngor Sir Ceredigion.
- 12.1 Lle mae torri rheolau Cod Ymddygiad y dysgwr yn digwydd ar gludiant y Coleg gall cosbau ychwanegol gael eu rhoi. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
-
- 13.1 Lle mae torri Cod Ymddygiad y dysgwr yn cynnwys materion sy’n gysylltiedig â gyrru neu barcio, gellir rhoi cosbau ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- 13.1.1 Gofyniad nad yw dysgwr yn dod ag unrhyw gerbyd i dir y Coleg am gyfnod penodol.
- 13.1.2 Gofyniad nad yw dysgwr yn dod ag unrhyw gerbyd i dir y Coleg am gyfnod cyfyngedig.
- 13.1.3 Gofyniad bod y dysgwr yn cyflwyno allweddi car ar ddechrau diwrnod Coleg ac nid yw’n gyrru ei gar tan iddo adael tir ac adeiladau’r Coleg ar ddiwedd y dydd.
- 13.1 Lle mae torri Cod Ymddygiad y dysgwr yn cynnwys materion sy’n gysylltiedig â gyrru neu barcio, gellir rhoi cosbau ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
-
- 14.1 Fel arfer bydd dysgwr sy’n derbyn Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf neu Derfynol yn colli taliad LCA am yr wythnos pan roddir y rhybudd, er mae hyn yn dibynnu ar ddisgresiwn y swyddog disgyblu.
-
Fel arfer, ystyrir apeliadau dim ond lle mae sail i gredu na ddilynwyd y gweithdrefnau a nodir yn y ddogfen hon neu lle mae sail i gredu bod unrhyw gosb a roddwyd heb ei phrofi. Ni chaniateir apêl fel arfer i ailystyried yr honiadau gwreiddiol neu i glywed tystiolaeth a allai fod wedi bod ar gael yn y gwrandawiad gwreiddiol.
- 15.1 Mae gan ddysgwyr yr hawl i apelio ar bob cam yn y broses ddisgyblu:
- 15.1.1 Apeliadau yn erbyn rhoi Nodyn Achos Pryder - dylid eu gwneud yn ysgrifenedig i’r Pennaeth Cwricwlwm perthnasol. Dylid derbyn apêl o fewn 5 diwrnod gwaith o roi Nodyn Pryder. Bydd y Pennaeth Cwricwlwm (neu Ddirprwy neu Gynorthwyydd penodedig) yn adolygu amgylchiadau’r Nodyn Achos Pryder ac yn ffurfio barn ynghylch a oedd y Nodyn Pryder yn rhesymol. Mae penderfyniad y Pennaeth Cwricwlwm (neu’r Dirprwy neu Gynorthwyydd penodedig) yn derfynol.
- 15.1.2 Apeliadau yn erbyn Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf neu Rybudd Ysgrifenedig Terfynol- dylid eu gwneud yn ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr. Dylai’r apêl gael ei gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn llythyr yn hysbysu’r dysgwr fod Rhybudd wedi’i roi. Caiff yr apêl ei hystyried gan y Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr ac un rheolwr arall nad oedd yn gysylltiedig yn flaenorol . Mae penderfyniad y Panel Apêl yn derfynol.
- 15.1.3 Apeliadau yn erbyn Gwaharddiad - dylid eu gwneud yn ysgrifenedig i Glerc y Bwrdd. Dylid gwneud apêl yn erbyn gwaharddiad o fewn diwrnod i dderbyn y llythyr gwahardd.
-
15.2 Panel Apeliadau - Gwrandewir ar yr apêl gan banel sydd yn cynnwys o leiaf 3 o bobl, y mae’n rhaid i un ohonynt o leiaf fod yn aelod o Gorff Llywodraethu’r Coleg, un aelod o dîm Adran Weithredol y Coleg ac un aelod arall o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, a lle bo’n briodol aelod o’r tîm ADY a’r Tîm Lles. Ni fydd unrhyw aelod o’r Panel Apêl wedi bod ynghlwm â’r Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol yn flaenorol. Bydd y Panel Apêl fel rheol yn cyfarfod o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y llythyr. Bydd y Panel Apêl yn ystyried tystiolaeth oddi wrth y person sy’n gwneud yr apêl, y swyddog disgyblu ac unrhyw dystion a elwir gan y naill barti neu’r llall.
Mae gan y Panel Apêl yr awdurdod i gynnal y penderfyniad gwreiddiol; i osod cosb lai neu i ddod i benderfyniad nad yw’r honiadau gwreiddiol wedi’u profi ac ni ddylid rhoi unrhyw gosb. Mae penderfyniad y Panel Apêl yn derfynol.
- 15.1 Mae gan ddysgwyr yr hawl i apelio ar bob cam yn y broses ddisgyblu:
-
- 16.1 Bydd y polisi yn cael ei adolygu erbyn Medi 2025.