Skip page header and navigation

Addysg Uwch

Rhagymadrodd

Clearing poster - yellow background, a woman with curly hair on the right side text reads - Clearing 2025, Your Future, Your Way, Higher Education at Coleg Sir Gar

.

P’un a ydych chi newydd adael y coleg neu’n gwneud dechrau newydd, yn ffermwr y dyfodol, egin artist neu gwnsler arfaethedig, gallwch chi ddod o hyd i ddyfodol sy’n gweddu i chi yng Ngholeg Sir Gâr.

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau llawn amser, rhan-amser a dysgu o bell yn y meysydd pwnc canlynol:

  • Gwyddor Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth
  • Celf a Dylunio 
  • Adeiladu a Pheirianneg 
  • Hyfforddi Chwaraeon
  • Gofal Cymdeithasol a Chwnsela
A family taking a celebratory selfie at graduation.

Beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol

Rydyn ni’n credu y gall pethau gwych ddigwydd ar eich stepen ddrws ac nid oes angen i chi newid eich cod post i newid eich dyfodol.

Yn ogystal â bod yn fwy caredig i’ch balans yn y banc, mae astudio’n agosach i gartref yn golygu bod eich rhwydweithiau cefnogaeth wedi’u sefydlu ac mae eich amgylchoedd yn gyfarwydd, gan adael i chi ganolbwyntio ar bethau pwysicach, fel breuddwydio am beth fyddwch chi’n ei wneud pan fyddwch chi’n graddio.

Parwch hynny gyda dosbarthiadau bach eu maint, opsiynau astudio hyblyg a chysylltiadau gyda diwydiant lleol a byddwch chi’n croesi’r llwyfan hwnnw yn eich cap a’ch gŵn cyn sylweddoli.

Castell Laurgharne yn yr heulwen gyda glaswellt gwyrdd o'i flaen

Astudio yn Sir Gaerfyrddin

Lleolir Sir Gaerfyrddin ar arfordir de-orllewin Cymru. Mae ganddi arfordiroedd a thraethau hardd yn ogystal ag atyniadau hanesyddol megis cestyll yn dyddio nôl i’r 13eg ganrif. Mae’r sir hefyd yn gartref i dy cwch y bardd o Gymro Dylan Thomas yn Nhalacharn a nifer o drefi glan môr llawn cymeriad. Yn ogystal â chefn gwlad ceir hefyd nifer helaeth o drefi ar draws Sir Gaerfyrddin sy’n cynnig siopau’r stryd fawr, caffis modern, bwytai, tafarndai a chlybiau, a fydd yn rhoi cyfle i chi gael seibiant o’ch astudiaethau pan fydd angen.

Gwyddor Anifeiliaid ac Amaethyddiaeth

Celf a Dylunio

Adeiladu a Pheirianneg

Leadership & Management

Hyfforddi Chwaraeon

Gofal Cymdeithasol a Chwnsela

Gwybodaeth ddefnyddiol.

Rydyn ni’n gwybod bod cyllid yn achos pryder mawr i fyfyrwr ac rydyn ni’n deall bod gwahanol anghenion ac amgylchiadau gan bawb. Mae yna gyfleoedd ariannu mewnol ac allanol ar gael gan gynnwys y Lwfans Cynnal Addysg, Grant Dysgu’r Cynulliad a’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn, a gall ein tîm o ymgynghorwyr eich helpu gyda’r rhain.

Mae angen i fyfyrwyr presennol gysylltu â’u tiwtor neu swyddfa gampws i’w cyfeirio at ymgynghorydd neu fel arall, gysylltu â’r tîm ar 01554 748036 / 748102 neu ar e-bost financialsupport@colegsirgar.ac.uk i wneud ymholiadau pellach.

DOLENNI DEFNYDDIOL

UCM / NUS

UCAS - Managing Money

Cyllid Myfyrwyr Cymru

SIARTER MYFYRWYR ADDYSG UWCH -
CYTUNDEB RHWNG COLEG SIR GÂR, UNDEB Y MYFYRWYR A PHRIFYSGOL CYMRU Y DRINDOD DEWI SANT

  • Crëwyd y Siarter Myfyrwyr hon mewn partneriaeth rhwng Coleg Sir Gâr (y Coleg), Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Brifysgol). Mae’r bartneriaeth yn angenrheidiol gan fod dyfarniadau Addysg Uwch (AU) y Coleg yn cael eu dilysu trwy’r Brifysgol. Felly, mae myfyrwyr AU y Coleg hefyd yn fyfyrwyr y Brifysgol.

    Mae’r Siarter yn esbonio, mewn geiriau syml, gyd-ddisgwyliadau’r Coleg, y Brifysgol a’r Myfyrwyr, gan gydnabod bod darparu profiadau rhagorol i fyfyrwyr yn flaenoriaeth strategol allweddol i’r Coleg, y Brifysgol ac i Undeb y Myfyrwyr.

  • Mae’r Siarter Myfyrwyr hon yn cwmpasu’r holl fyfyrwyr AU yn y Coleg a staff yn y Coleg a’r Brifysgol. Disgrifia’r cyfrifoldebau y bydd y Coleg a’r Brifysgol yn eu cyflawni i’w myfyrwyr. Hefyd esbonia’r cyfrifoldebau y bydd rhaid i fyfyrwyr eu cyflawni tra eu bod yn astudio yn y Coleg. Yn ogystal â hyn, amlinella gyfrifoldebau Undeb y Myfyrwyr i’r Coleg ac i’w fyfyrwyr.

    Trwy osod Siarter Myfyrwyr yn ei lle, dengys y Coleg a’r Brifysgol eu hymrwymiad llawn i wella’n barhaus ansawdd eu gwasanaethau, gan gydnabod bod myfyrwyr wrth galon y sefydliadau.

    Pwysleisia’r Siarter Myfyrwyr hon bwysigrwydd perthyn i gymuned ddysgu a phwysigrwydd staff a myfyrwyr yn gweithio mewn partneriaeth. Pwysleisia hefyd bwysigrwydd perthynas waith gadarn ac effeithiol rhwng y Coleg, y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr, ac mae’n symbol o’r ymrwymiad ar y cyd i sicrhau profiadau rhagorol i fyfyrwyr.

    Bydd y Coleg a’r Brifysgol yn darparu profiad addysgol dwyieithog o ansawdd uchel i gymuned amrywiol o ddysgwyr, gan gyfrannu’n gadarnhaol i anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Cymru, yn lleol, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd pum elfen allweddol: cynaliadwyedd, cyflogadwyedd, rhyngwladoli, diwylliant a dysgu gydol oes, wrth wraidd y profiad prifysgol unigryw a gynigir drwy’r Coleg. Trwy INSPIRE (Sefydliad Arfer Cynaliadwy, Arloesi ac Effeithiolrwydd Adnoddau), mae’r Brifysgol yn gosod cynaliadwyedd wrth galon ei gweledigaeth strategol.

    Diffinia Cynlluniau Strategol y Coleg a’r Brifysgol nifer o flaenoriaethau allweddol yn cynnwys sicrhau rhagoriaeth mewn dysgu ac addysgu, sicrhau rhagoriaeth ym maes ymchwil, darparu profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr, sefydlu proffil rhyngwladol, datblygu’r Economi Wybodaeth, hyrwyddo cyfiawnder, cynhwysiant a mynediad cymdeithasol, hyrwyddo dwyieithrwydd ac arbenigrwydd diwylliannol, sefydlogrwydd ariannol, buddsoddi mewn staff a chynaliadwyedd amgylcheddol.

    Mae’r Coleg a’r Brifysgol yn gwbl ymrwymedig i ddwyieithrwydd ac arbenigrwydd diwylliannol ac amlinellir eu cefnogaeth yn hyn o beth yn eu Cynlluniau Strategol a’u Cynlluniau Iaith Gymraeg. Mae’r Brifysgol yn un o’r prif ddarparwyr addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sy’n rhan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Bydd y Siarter Myfyrwyr yn cael ei hadolygu ar y cyd gan fyfyrwyr, swyddogion Undeb y Myfyrwyr a staff y Brifysgol bob blwyddyn. Bydd yr adolygiadau hefyd yn cynnwys adborth arall gan fyfyrwyr.

    Cyhoeddir y Siarter Myfyrwyr ar wefan y Coleg, a bydd hefyd yn cael ei lledaenu i’r myfyrwyr AU a’r staff.

    Os teimla myfyrwyr na chyflawnwyd y safonau gofynnol, dylent dynnu sylw’u Harweinydd Rhaglen/Pennaeth Maes Cwricwlwm/Cyfarwyddwr Cyfadran neu Undeb y Myfyrwyr at hyn. Gall myfyrwyr gyfeirio hefyd at weithdrefnau ffurfiol y Coleg neu’r Brifysgol ar gyfer cwynion ac apeliadau neu achwyniadau myfyrwyr.

    • Brydlon, yn effeithlon, yn effeithiol ac yn gwrtais bob amser wrth ymwneud â myfyrwyr.
    • Delio â phob myfyriwr yn gyfartal.
    • Agored ac yn dryloyw am yr holl benderfyniadau a wneir ar bob lefel lle bo hynny’n briodol.
    • Cefnogi cynrychiolaeth myfyrwyr effeithiol ac yn darparu ystod o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â myfyrwyr a chael adborth ganddynt.
    • Darparu safonau uchel o ran addysgu, a bydd y rhain yn cael eu cyfoethogi gan gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a dysgu gydol oes.
    • Darparu ystod o gyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
    • Darparu gwasanaethau gweinyddol a chynnal o ansawdd uchel i gefnogi’r dysgu ac addysgu.
    • Darparu amgylcheddau priodol ar gyfer dysgu ac addysgu.
    • Cymryd pob cam rhesymol i ddarparu amgylchedd diogel ac iach.
    • Rhoi cynaliadwyedd wrth galon gweledigaeth y Coleg a’r Brifysgol, gan gyhoeddi ymrwymiadau eglur o ran cyflawni ar gyfer Cymru gynaliadwy.
    • Hyrwyddo’n agored y defnydd o dechnoleg berthnasol ar gyfer rhoi gwybod i fyfyrwyr am unrhyw newid neu wybodaeth am eu cyrsiau (e.e. drwy ddefnyddio Moodle).
    • Rhoi rhybudd priodol os bydd rhaid newid amserlenni a chanslo neu aildrefnu dosbarthiadau, er mwyn caniatáu i fyfyrwyr wneud unrhyw drefniadau angenrheidiol.
    • Ymrwymo i ddarparu adborth ar waith ysgrifenedig o fewn pum wythnos.
    • Darparu gwybodaeth ar faterion yn cynnwys rheoliadau prifysgol, rhaglenni astudio, cynrychiolaeth myfyrwyr, asesu ac adborth, arfer annheg a llên-ladrad, arholiadau, cwynion ac apeliadau, gweithdrefnau disgyblu, cydraddoldeb ac amrywiaeth, cyfarwyddyd ar fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu, cymorth myfyrwyr, cymorth i fyfyrwyr anabl a threfniadau tiwtoriaid personol.
    • Darparu gwybodaeth gywir ar gostau astudio yn cynnwys ffioedd dysgu, llety a ffioedd eraill, ynghyd ag opsiynau talu.
    • Darparu addysg, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol effeithiol, yn cynnwys cymorth gyda chynllunio datblygiad proffesiynol.
    • Darparu a hyrwyddo gwybodaeth am gyfleoedd astudio pellach ac ymchwil.
    • Diogelu’r holl wybodaeth bersonol a ddarperir gan fyfyrwyr a chydymffurfio â gofynion y Ddeddf Diogelu Data (1998).
    • Bod yn ystyriol ac yn parchu cymuned amrywiol y Coleg a’r Brifysgol o fyfyrwyr, aelodau staff ac ymwelwyr.
    • Ymrwymo’n llawn i astudio academaidd mewn dull diwyd, gonest a phroffesiynol gan gynnwys y dysgu a amserlennir ac unrhyw ofynion eraill gan y Coleg neu’r Brifysgol.
    • Bod yn llysgennad cyfrifol i’r Coleg a’r Brifysgol drwy ymddygiad da ac ymgysylltu â’r gymuned a’r amgylchedd lleol.
    • Rhoi gwybod i’r Coleg neu’r Brifysgol ar y cyfle cyntaf am unrhyw anabledd neu amgylchiadau personol eraill a allai effeithio ar gyfleoedd fel myfyriwr (gan gydnabod mai penderfyniad personol yw darparu’r wybodaeth hon ond bydd yn galluogi’r Coleg neu’r Brifysgol i wneud addasiadau rhesymol er mwyn cefnogi eu profiad o Goleg a Phrifysgol).
    • Defnyddio cyfleusterau ac adnoddau’r Coleg a’r Brifysgol gyda pharch ac ystyriaeth.
    • Cydymffurfio â holl Reoliadau’r Coleg a’r Brifysgol.
    • Cofrestru’n flynyddol a thalu unrhyw arian sy’n ddyledus i’r Coleg neu’r Brifysgol ar amser neu fel y cytunir â’r Coleg a’r Brifysgol.
    • Edrych ar fy nghyfrif e-bost myfyriwr yn y Coleg a Moodle yn rheolaidd.
    • Parchu a glynu at gyfansoddiad a pholisïau Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr.
    • Gwneud defnydd llawn o rôl gynrychiadol Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr.
    • Cefnogi, yn cynrychioli ac yn cynghori’r myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn triniaeth deg a’u bod yn ymwybodol o’u hawliau a’u cyfrifoldebau.
    • Hyrwyddo cyfranogiad myfyrwyr yn holl weithgareddau Undeb y Myfyrwyr.
    • Sicrhau proses gyson ar gyfer penodi, hyfforddi a chefnogi’r holl gynrychiolwyr myfyrwyr, yn cynnwys y rheini o gefndiroedd anhraddodiadol (myfyrwyr rhan-amser, dysgu o bell ac ôl-raddedig) ar draws pob campws.
    • Helpu myfyrwyr â phroblemau academaidd a lles.
    • Cynrychioli diddordebau myfyrwyr ar lefel leol a chenedlaethol.
    • Darparu ystod o weithgareddau i gyfoethogi datblygiad personol, cwrdd â myfyrwyr eraill a datblygu hobïau a diddordebau.
    • Cynnig nifer o gyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad gwerthfawr drwy weithgareddau Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys gwirfoddoli.
    • Ethol yr holl swyddogion i’w rôl o fewn Undeb y Myfyrwyr yn ddemocrataidd.
    • Gweithredu polisi drws agored.
    • Parchu a glynu at bolisïau a rheoliadau Undeb Myfyrwyr Coleg Sir Gâr.
    • Cyflwyno barn myfyrwyr i’r Coleg a/neu’r Brifysgol.

Newyddion cysylltiedig

Roedd Karen Round wedi bod allan o addysg am rai blynyddoedd cyn iddi benderfynu cychwyn ar radd astudiaethau cymdeithasol yng Ngholeg Sir Gâr.

Karen wearing a mauve top and black cardigan with a plain background looking at the camera

Roedd Caitlin Trussler yn fam ifanc wnaeth adael yr ysgol heb gymwysterau TGAU, ond mae hi wedi dathlu graddio gyda gradd BA anrhydedd mewn Astudiaethau Gofal Cymdeithasol.

Caitlin sitting by a desk looking at the camera

Abbigail Marshall decided to study Coleg Sir Gâr’s online animal science course as she wanted to expand her knowledge but wasn’t able to attend university and due to her very busy life schedule.

Abbi with a beach behind her wearing a green hat