Skip page header and navigation

Astudio TGAU yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion

A group of students with their tutor at the centre, smiling at the camera.

Yn y byd cystadleuol sydd ohoni heddiw, mae bod â sylfaen addysgol gadarn yn bwysig. Ar gwrs TGAU yng Ngholeg Sir Gâr a Cheredigion, byddwch yn ennill yr holl wybodaeth a sgiliau angenrheidiol i’ch paratoi i lwyddo yn y dyfodol.

Mae ein staff addysgu cyfeillgar a brwdfrydig yn deall nad yw addysg yn ymwneud yn hollol â gwerslyfrau a phrofion. Maen nhw’n mabwysiadu dull creadigol, nad yw’n teimlo fel ysgol o gwbl mewn gwirionedd.

Mae ein cyrsiau TGAU wedi’u teilwra i sicrhau tra rydych yn adeiladu eich hyder academaidd, byddwch chi hefyd yn hogi eich meddwl beirniadol, eich gallu i ddatrys problemau, a’ch sgiliau cyfathrebu, gan eich paratoi ar gyfer llwyddiant ym mhob agwedd ar addysg bellach a bywyd gwaith.

Felly os ydych yn awyddus i baratoi eich hun ar gyfer dyfodol disglair, dewch i ymweld â ni mewn diwrnod agored, llenwch eich cais, a gadewch i ni adeiladu’r sylfaen ar gyfer llwyddiant gyda’n gilydd.

Pam astudio TGAU gyda ni?

01
Staff addysgu eiddgar a brwdfrydig sy’n mabwysiadu dull creadigol a difyr - nid yw’n teimlo fel ysgol.
02
Mae dysgu hybrid ar gael i ddysgwyr sy’n dymuno astudio’n rhan-amser gyda’r nos.
03
Arholiadau ailsefyll TGAU sy’n agor cyfleoedd i astudio pellach

Past Students

Grŵp o fyfyrwyr gyda'u tiwtor yn y ganolfan, yn gwenu ar y camera.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi mynd ymlaen i…

Mae Mathemateg wedi bod yn bwnc anodd iawn i mi ar hyd fy mywyd addysgol. Fodd bynnag, mae cael cymaint o’r cymorth teilwredig rwy’n derbyn gan fy athrawon mathemateg yn y coleg, wedi gwneud i mi deimlo bod mathemateg llawer yn haws ac yn llai o straen. Maen nhw wedi gwneud i mi gredu fy mod i’n gallu ennill gradd yn uwch oherwydd eu bod nhw’n credu ynof i.

Melody-Jade Price.

Newyddion cysylltiedig...

Penderfynodd myfyriwr Coleg Ceredigion Joshua Taylorson ailsefyll ei arholiadau TGAU mewn mathemateg a Saesneg er mwyn helpu datblygu ei gyfleoedd gyrfaol o fewn Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

A headshot in his NHS green uniform

Mae Coleg Sir Gâr wedi croesawu aelod newydd o staff sydd eisoes ar flaen y gad addysgol gyda'i gwaith ymgyrchu ysbrydoledig a gwobrwyedig.

Georgia Theodoulou head shot

Ar ôl colli dwy flynedd o ysgol oherwydd anawsterau iechyd meddwl, dychwelodd Angelina i addysg yng Ngholeg Sir Gâr a chwblhau ei TGAU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg yn llwyddiannus, gan ennill graddau A*, A*, a B.

Image of GCSE student Angelina