Skip page header and navigation

bore da

Fel myfyriwr yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, rydych chi’n aelodau o Undeb y Myfyrwyr yn awtomatig. Mae hyn yn golygu eich bod yn gallu manteisio’n llawn ar bopeth sydd gennym i’w gynnig,
gan gynnwys digwyddiadau coleg, cynrychiolaeth myfyrwyr a gwybodaeth am fywyd myfyrwyr.

Ein gwaith ni yw gwneud yn siŵr eich bod yn cael profiad gwych yn ystod eich amser yn y coleg a bod myfyrwyr yn cael eu cynrychioli’n llawn a’u safbwyntiau’n cael eu clywed. Er mwyn eich cynrychioli’n
iawn fel dysgwyr, mae’n bwysig ein bod yn cael ein cyfarwyddo gan eich syniadau a’ch profiadau chi.

Etholir tîm o swyddogion bob blwyddyn trwy etholiadau electronig lle caiff yr holl fyfyrwyr y cyfle i bleidleisio i’w Llywydd ac Is-lywyddion ym mis Mai. Yn dilyn hynny swyddogion rhyddid megis LGBTQ+,
Swyddog Menywod ac ati ym mis Hydref. Mae’r swyddogion a etholir yn cynrychioli myfyrwyr ar draws yr holl gampysau ac yn aelodau o amrywiol bwyllgorau lle caiff eu lleisiau eu clywed.

Mae llais y myfyrwyr yn rhan annatod o lwyddiant y coleg ac mae hwn yn llwyfan ardderchog i fyfyrwyr helpu i lywio’r coleg i ysbrydoli dysgwyr, cyflawni potensial ac ennill rhagoriaeth. 

Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei feddwl trwy gysylltu ag un o’ch swyddogion myfyrwyr etholedig, cynrychiolwyr cwrs neu Lywydd Undeb y Myfyrwyr trwy anfon e-bost i Undeb y Myfyrwyr yn studentu@colegsirgar.ac.uk

Mae myfyrwyr ar gampws amaethyddol y Gelli Aur Coleg Sir Gâr yn falch iawn i arddangos cit rygbi newydd sbon a ariannwyd gan Gyllideb Gyfranogol Undeb Myfyrwyr y coleg ac a gefnogwyd gan dair elusen iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar faes amaethyddiaeth.

A group outside including students, charity reps and rugby squad

Mae Hannah Freckleton yn astudio Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr yn ogystal â chyflawni ei rôl ganolog fel llywydd Undeb y Myfyrwyr.

Hannah Freckleton head shot long dark hair

Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi ennill gwobr Menter y Flwyddyn  yng Nghynhadledd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn Aberystwyth.

Three members of the student union holding their award certificate.

Cwrdd â'r tîm

  • “Mae bod yn rhan o Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn brofiad anhygoel sydd wedi fy helpu i fagu hyder a theimlo fy mod wedi cael fy ngrymuso i gynrychioli eraill. Rydw i wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cynnwys, ac mae wedi bod yn wych cysylltu gydag Undebau Myfyrwyr eraill ledled Cymru drwy UCM Cymru. 

    “Wrth ymweld â phob un o gampysau’r coleg, cefais gipolwg go iawn ar fywyd myfyrwyr ar draws y coleg, ac roedd clywed y cyhoeddiad yn y Senedd am y cynnydd yn y trothwy incwm ar gyfer y LCA yn uchafbwynt. Mae hi wedi bod yn fraint cael gwasanaethu ar Fwrdd y Llywodraethwyr, ac mae’r rôl hon wedi dangos i mi cymaint mae’r coleg yn gwerthfawrogi llais y myfyrwyr ac wedi ymrwymo i wella profiad y dysgwr. Mae hi wedi bod yn ymdrech tîm drwyddi draw, ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael gweithio gydag aelodau a myfyrwyr brwdfrydig Undeb y Myfyrwyr i helpu i ysgogi newid cadarnhaol.”

    Hannah Freckleton
  • “Mae dod yn is-lywydd wedi rhoi’r nerth i mi ddatblygu ac aeddfedu fel person ac wedi fy helpu i ddod yn fwy annibynnol ac yn fwy hyderus, a dw i’n falch iawn o hynny. A dweud y gwir, dod yn is-lywydd yw un o’r pethau gorau rydw i wedi’i wneud gan ei fod wedi fy helpu o ran fy hyder a’m sgiliau cyfathrebu hefyd, ac rydw i’n ddiolchgar iawn am hynny.”

    Andzelika Dzetaveckaite
  • “Mae’n bwysig i fyfyrwyr gael llais mewn materion sy’n ymwneud â’u profiad addysgol, ac rwy’n falch o fod wedi bod yn llais i fyfyrwyr yn y Gelli Aur dros y flwyddyn ddiwethaf.  “Mae dyn cryf yn achub cam ei hun, mae dyn cryfach yn achub cam pobl eraill.” (Ben y fuwch, Barnyard)”

    Williams Evans
  • “Rydw i wedi cael cymaint o gyfleoedd newydd trwy gael rôl gydag Undeb y Myfyrwyr. Cefais y cyfle i drefnu rhoddion ar gyfer Operation Christmas Child a threfnu Colour Run ar gyfer Pride.

    Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel is-lywydd oedd cael mynd i gynhadledd UCM yng Nghaerdydd. Roedd yn gyfle dysgu gwych i mi ac fe wnes i gwrdd â chymaint o bobl newydd a thalentog. Os ydych chi’n ystyried ymuno ag Undeb y Myfyrwyr, byddwn i’n eich annog yn gryf i wneud hynny! Mae cymaint o rolau gwahanol, efallai bod un sy’n ddelfrydol i chi!”

    Molly Reed
  • “Mae bod yn Swyddog Menywod wedi bod yn anrhydedd pur. Nid yn unig y mae wedi caniatáu i mi eiriol dros fy holl gyd-fyfyrwyr benywaidd ond mae hefyd wedi caniatáu i mi fagu hyder a rhoi cyfle i mi wneud ffrindiau newydd.”

  • “Rwy’n gobeithio gallu gwella lles pob myfyriwr yn y coleg. Bydd eich lleisiau’n cael eu clywed a byddwn yn gwrando ar unrhyw bryder sydd gennych chi.” 

  • “Fel y swyddog anableddau, roeddwn i’n gallu gweld yr hyn y gallwn i ei wneud er mwyn helpu i wella profiad myfyrwyr anabl.  Rydw i wedi mwynhau helpu i eiriol dros gymwysiadau i sicrhau bod dosbarthiadau’n fwy hygyrch a bod staff yn fwy gwybodus ynglŷn ag anableddau a’u heffaith ar fywydau pobl.”

  • “Fe es i am y rôl fel bod gan fyfyrwyr lais neu rywun i droi ato os ydyn nhw eisiau rhoi adborth a chael rhywun i weithredu arno.  Rydw i wedi mwynhau gweld canlyniadau fy ngwaith caled. Pan oedd y myfyrwyr celf yn anfodlon gyda’r cyfrifiaduron, fe wnes i gynorthwyo i ddarparu llwybr ar gyfer adborth, gyda’r canlyniad i’r cyfrifiaduron gael eu huwchraddio i gyfrifiaduron MacBook.”

  • “Mae fy rôl fel swyddog gofalwyr ifanc yn cynnig cefnogaeth bersonol a phroffesiynol sylweddol, gan fy ngalluogi i gael effaith gadarnhaol ar fywydau eraill wrth ddatblygu sgiliau hanfodol arweinyddiaeth ac empathi. Rydw i hefyd yn gallu codi ymwybyddiaeth a chreu amgylchedd coleg mwy cynhwysol, sy’n deimlad braf iawn. Mae’n gyfle i gysylltu ag eraill a meithrin cymuned gefnogol yn y coleg.”