Prentisiaethau
Mae prentisiaethau’n ffordd i ennill arian wrth i chi ddysgu. Rydych chi’n gallu cael profiad a chymwysterau tra eich bod yn gweithio.
Ewch ati i gychwyn ar brentisiaeth ac ennill cyflog wrth i chi ddysgu.
Enillwch gymwysterau trwy waith ymarferol a hyfforddiant strwythuredig tra’n derbyn cyflog. Fel prentis, cewch eich cyflogi yn eich maes dewisol, gan ddatblygu sgiliau swydd-benodol trwy gyfuniad o ddysgu yn y gweithle ac addysg yn y coleg. Byddwch yn mireinio eich galluoedd proffesiynol bob wythnos, gan ennill gwybodaeth oddi wrth gydweithwyr profiadol a phrofiad ymarferol yn eich gweithle.
Yn y coleg, bydd ein tiwtoriaid arbenigol yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr wedi’i deilwra i’ch sector, a’ch arwain tuag at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Mae cyflogwyr yn ymrwymedig i gefnogi eich datblygiad trwy ganiatáu hyd at 20% o’ch oriau gwaith ar gyfer hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, gan sicrhau eich bod yn cael y cymwysterau angenrheidiol ar gyfer eich proffesiwn. Mae hyn yn gyfuniad delfrydol o brofiad ymarferol a chyfarwyddyd academaidd.
Darganfyddwch ein hystod helaeth o brentisiaethau isod.
Dysgwch am Prentisiaeth - Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion yng Ngholeg Sir Gâr.
Dysgwch am Prentisiaeth Astudiaethau Ceffylau
Wedi'i gyflwyno gyda chyflogwyr, mae'r rhaglen hon yn eich paratoi i ddod yn weithiwr proffesiynol hyderus, medrus, a pharod i weithio ym maes seiberddiogelwch.
Mae’r rhaglen Prentisiaeth Amaethyddiaeth yn cynnig llwybr cynhwysfawr o Lefel 2 i Lefel 4, gan gyfuno profiad ymarferol â dysgu academaidd.
Dysgwch am Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD a Diploma Cysylltiol Lefel 5 mewn Arfer Pobl yng Ngholeg Sir Gâr.
Dewch i wybod mwy am ein Prentisiaeth mewn Cyfrifyddu AAT.
Dewch i wybod mwy am ein cwrs Prentisiaeth mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur
Cynlluniwyd y brentisiaeth hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant garddwriaeth, gan ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i lwyddo yn y sector.
Mae’r brentisiaeth hon yn cynnig llwybr strwythuredig i unigolion sy’n ceisio gyrfa mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant.
Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â chyflogwyr, mae’r brentisiaeth hon yn eich cefnogi i ddod yn asiedydd medrus iawn, sy'n barod ar gyfer y diwydiant gyda chyfleoedd dilyniant cryf.
Dysgwch am Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Cyfreithiol - Lefel 3 neu Lefel 5 yng Ngholeg Sir Gâr.
Dewch i wybod mwy am ein cwrs Prentisiaeth mewn Nyrsio Milfeddygol
Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli Ynni a Charbon wedi’i chynllunio i roi’r arbenigedd i chi sydd ei angen i yrru effeithlonrwydd ynni a chynaladwyedd yn eich gweithle.
Dysgwch am Prentisiaeth Sylfaen - Ffabrigo a Weldio yng Ngholeg Sir Gâr.
Ewch ati i adeiladu eich dyfodol yn y diwydiant adeiladu gyda'r Brentisiaeth Sylfaen Gosod Brics hon. Wedi'i chynllunio ar eich cyfer chi wrth i chi ddechrau eich gyrfa yn y diwydiant, mae'r rhaglen hon yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol, gwybodaeth dechnegol a phrofiad yn y gweithle.
Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â chyflogwyr, mae'r rhaglen hon yn eich cefnogi i ddod yn saer cymwys, hyderus, sy’n barod ar gyfer swydd gyda’r sgiliau a werthfawrogir ar draws y diwydiant adeiladu.
Wedi'i chyflwyno mewn partneriaeth â chyflogwyr, mae'r rhaglen hon yn eich cefnogi i ddod yn sgaffaldiwr hyderus, sy’n barod ar gyfer swydd gyda’r sgiliau galwedigaethol a werthfawrogir ar draws y diwydiant adeiladu.
Dysgwch am Prentisiaeth Uwch mewn Rheoli Prosiectau ar Lefel 4 yng Ngholeg Sir Gâr.
Dysgwch am Prentisiaeth Uwch - Rheolaeth Adeiladu neu Syrfeo Meintiau Lefel 5 yng Ngholeg Sir Gâr.
Mae’r cymhwyster Lefel 4 hwn mewn Rheoli Prosiectau yn eich paratoi ar gyfer dull lefel-uchel, trwyadl o ymgymryd â chyflwyno prosiectau.
Dysgwch am Prentisiaeth Uwch mewn Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi yng Ngholeg Sir Gâr.
Mae’r Llwybr hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn Gosod Electrodechnegol, gan ddarparu llwybr strwythuredig i ddod yn drydanwr cymwysedig.
Dysgwch am Prentisiaethau Gwaith Plymwr a Gwresogi yng Ngholeg Sir Gâr.
Dysgwch am Peintio ac Addurno yng Ngholeg Sir Gâr.
Dewch i wybod mwy am ein Prentisiaethau Peirianneg.
Mae’r prentisiaethau hyn yn darparu hyfforddiant cynhwysfawr mewn peirianneg ar dir, gan gynnig profiad ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol mewn amgylchedd dysgu seiliedig ar waith.
Dysgwch am Plastro Solet yng Ngholeg Sir Gâr.
Dysgwch am Prentisiaethau Trin Gwallt yng Ngholeg Sir Gâr.