Skip page header and navigation

Sut mae prentisiaethau yn cefnogi twf personol a diwydiant

  • A headshot of Kirsty who has blond hair and glasses

    Astudiais i radd mewn rheolaeth busnes ym mhrifysgol PCYDDS am dair blynedd ac ers llawer o flynyddoedd rwy wedi bod â diddordeb mewn adnoddau dynol (HR). 

    Gwnes i ddarganfod bod y cwrs rheolaeth busnes yn cynnig llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa ac yn fy ail flwyddyn, dysgais i fwy am AD. 

    Yn fy mlwyddyn olaf, cynhaliodd y brifysgol ffair yrfaoedd lle gallais gwrdd â’r tîm recriwtio o Heddlu Dyfed Powys. Siaradais i gyda’r tîm ac esboniais i fod diddordeb gen i mewn AD a gofynnais a oeddwn yn addas i wneud cais. Fe wnaethon nhw fy nghynghori i gadw llygad allan am eu gwefan oherwydd roeddwn i yn gymwys i wneud cais am swydd AD. 

    Ar ôl aros am ychydig o wythnosau i swyddi newydd ymddangos ar fwrdd gyrfaoedd Heddlu Dyfed Powys, des i o hyd i swydd wag ar gyfer prentis AD. Roedd yn addas ar fy nghyfer oherwydd nid yn unig byddwn i’n ennill swydd fy mreuddwydion, ond roeddwn i hefyd yn gallu ennill cymhwyster arall sef, cymhwyster lefel 5 y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD). 

    Er bod angen hwn i weithio mewn AD, i mi roedd hwn yn flaenoriaeth gan fy mod eisiau ennill gwell dealltwriaeth ac adeiladu ar fy sgiliau a gwybodaeth. Byddai hwn o fantais i mi hefyd pe bawn i am ennill safle uwch o fewn yr heddlu trwy astudio CIPD lefel saith. 

    Roedd hyn yn cyd-fynd â’m cyrchnodau gyrfaol gan fy mod yn gallu gweithio mewn amrywiaeth o agweddau AD a bellach fi yw’r unig aelod staff o fewn y tîm sy’n gallu cwmpasu holl adrannau AD. Mae hyn yn fy ngalluogi i wneud cais am swydd ar raddfa uwch gan taw fi yw’r unig aelod staff sy’n meddu ar CIPD lefel pump.

    Rwyf wedi ennill sgiliau a gwybodaeth ynghylch cyfraith cyflogaeth, a oedd yn bwysig wrth weithio ar dîm gweinyddu AD o fewn yr heddlu. 

    Mae ymdrin â chaniatâd arbennig i fod yn absennol a dilyn polisi yn bwysig, a minnau’n newydd i hyn, cefais fod deall sut mae tribiwnlysoedd yn gweithio a sut i ymdrin â gwrthdaro yn neilltuol o ddefnyddiol. 

    Yn ogystal roeddwn i’n gallu dysgu cymaint am recriwtio gan ei fod yn faes arall rwy’n gweithio ynddo. Roeddwn i’n gallu dysgu hefyd beth oedd ystyr moeseg a sut i ddefnyddio hyn yn y gwaith. Dysgais i sut i drin pawb yr un peth ac i roi cyfle cyfartal i ymgeiswyr. Dysgais i sut i dderbyn y gwahaniaethau barn o fewn y tîm a pha mor bwysig yw hi i roi cyfle i’r rheiny siarad a gwrando ar y rheiny sydd angen lleisio barn.

    Rwy wedi dysgu cymaint o bethau ar y cwrs hwn yr oeddwn yn gallu mynd â gyda fi i’m gyrfa bob dydd.

    Yr unig her i mi oedd bod yn rhiant sengl, ymdopi â gyrfa lawn amser ac astudio ar yr un pryd. 

    Kirsty Thomas, CIPD Rheolaeth Adnoddau Dynol (Lefel 5) 

  • Penderfynais i ddewis llwybr prentisiaeth gan y byddwn i’n gallu gweithio wrth fynd i’r afael â’m hastudiaethau. 

    Ar hyn o bryd rwy’n rheolwr magu lloi ac mae’r cyrsiau rwy’n gwneud ar y foment yn siwtio fy rhwymedigaethau gwaith a hefyd yn helpu datblygu fy ngwybodaeth am y diwydiant er mwyn symud ymlaen yn fy ngyrfa.

    Trwy gwblhau fy uned lles anifeiliaid, enillais i wybodaeth a dealltwriaeth ynghylch iechyd lloi a sut i adnabod gwahanol straeniau o afiechyd fel niwmonia. Hefyd, dysgais i lawer am ddeddfwriaeth lles anifeiliaid a’r rôl a chwaraeir gan Defra, sy’n effeithio ar bob agwedd ar fy swydd.

    Mae’r pellter teithio yn her gan ei bod yn cymryd 90 munud i deithio i’r coleg - i ddygymod â hyn mae rhaid i mi drefnu fy hun a chynllunio ymlaen er mwyn gwneud yn siŵr bod digon o amser gen i.

    Charlotte Johnson, Amaethyddiaeth (Lefel 3)

    Holding a calf
  • Cerith standing in front of a Premier sign (where he works)

    Treuliais i 19 o flynyddoedd yn y gwasanaeth sifil cyn ymuno â Premier fel syrfëwr meintiau (QS). 

    Roeddwn yn cael bod y gwaith wedi mynd yn undonog a’r diwrnodau’n mynd yn hirach. 

    Felly, penderfynais i fy mod am gael gyrfa mewn rhywbeth byddwn i’n gwir fwynhau a gyda’r gefnogaeth iawn, penderfynais i fentro i adael y cwmni roeddwn i wedi gweithio iddo ers gadael yr ysgol.

    Siaradais i â ffrind agos a ddywedodd wrthyf fod cwmni Premier Forecourts and Construction yn chwilio am syrfëwr meintiau (QS) dan hyfforddiant. Soniodd yn dda am y cwmni a’r rôl, felly gyda fy niddordeb brwd mewn rhifau a’r parodrwydd i ddysgu, penderfynais i wneud cais am rôI syrfëwr meintiau (QS) dan hyfforddiant. Yn ffodus, roedd gen i lawer o sgiliau trosglwyddadwy o’m hamser yn y gwasanaeth sifil a wnaeth fy helpu gyda fy rôl.

    Rwyf bob amser wedi mwynhau adeiladu a rhifau. Adnewyddais i fy nghartref ac roeddwn yn mwynhau’r elfen o reoli cost gwaith. Rwy’n mwynhau’r her o amcangyfrif costau prosiect yn gywir a rheoli
    cyllidebau i wneud yn siŵr bod prosiectau’n cael eu cwblhau ar amser ac o fewn cyllideb. 

    Roeddwn yn gweld y brentisiaeth fel cyfle gwerthfawr i ennill profiad uniongyrchol a sgiliau ymarferol mewn maes rwy’n teimlo’n angerddol yn ei gylch, ac yn y pen draw fy helpu i ddatblygu fy ngyrfa fel syrfëwr meintiau (QS). Yn ychwanegol, roeddwn yn gweld y brentisiaeth fel carreg sarn tuag at fy nghyrchnod i ddod yn syrfëwr meintiau (QS). Trwy ennill profiad ymarferol, roeddwn i’n gwybod y byddwn i mewn gwell sefyllfa i ddeall cylch bywyd cyfan y diwydiant. Ar y cyfan, roedd y brentisiaeth yn cyd-fynd yn berffaith â’m cyrchnodau gyrfaol mwyaf diweddar trwy roi’r sgiliau a’r wybodaeth i mi sydd eu hangen i ragori yn y diwydiant ac yn y pen draw ennill rôl rwyf yn ei mwynhau.

    Yn ystod fy mhrentisiaeth rwyf wedi ennill nifer o sgiliau gwerthfawr a gwybodaeth sydd wedi effeithio’n fawr ar fy ngwaith. Mae rhai o’r rhai mwyaf pwysig yn cynnwys: Amcangyfrif cost: Rwyf wedi dysgu sut i amcangyfrif costau prosiectau adeiladu’n gywir trwy ddadansoddi amrywiol ffactorau megis deunyddiau, llafur, cyfarpar/peiriannau, is-gontractwyr a threuliau gorbenion. 

    Rheoli contractau: Rwyf wedi ennill dealltwriaeth ddwys o ddogfennau contract, telerau ac amodau. Mae’r wybodaeth hon wedi fy ngalluogi i reoli contractau’n effeithiol, cyd-drafod telerau, a datrys anghydfodau mewn modd amserol ac effeithlon.

    Rhestrau meintiau deunyddiau: Rwyf wedi dod yn fedrus ynghylch ymdrin â rhestrau meintiau, sy’n cynnwys mesur a meintioli deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer prosiect. Mae’r sgil hwn wedi fy helpu i  asesu gofynion prosiect yn gywir a sicrhau na chaiff unrhyw ddeunyddiau eu gwastraffu, gan arbed amser ac arian ar gyfer y cleient.

    Rheoli risg: Rwyf wedi dysgu sut i nodi ac asesu risgiau posibl mewn prosiectau adeiladu a datblygu strategaethau i’w lleihau. Mae’r sgil hwn wedi fy ngalluogi i fynd i’r afael â’r risgiau’n rhagweithiol cyn eu bod yn cynyddu ac effeithio ar amserlen neu gyllideb y prosiect. 

    Sgiliau Cyfathrebu: Fel syrfëwr meintiau, rwy’n rhyngweithio’n rheolaidd â chleientiaid, contractwyr a budd-ddeiliaid eraill. Trwy fy mhrentisiaeth, rwyf wedi mireinio fy sgiliau cyfathrebu, llafar ac ysgrifenedig hefyd, sydd wedi gwella fy ngallu i gyfleu gwybodaeth dechnegol yn effeithiol 
    a chydweithio gydag eraill i gyflawni cyrchnodau prosiect.

    Rhwydweithio:  A minnau’n gweithio yn y diwydiant fel rwy’n ei wneud, rwyf wedi adeiladu perthnasoedd gydag ystod eang o
    fudd-ddeiliaid, gan gynnwys fy nghydweithwyr, cleientiaid, is-gontractwyr, staff prifysgol, staff Cyfle  a llawer mwy. Rwy’n defnyddio’r rhwydwaith hwn i helpu gyda datblygu fy ngyrfa, datblygiad proffesiynol,
    cyfleoedd busnes ac i adeiladu perthnasoedd ymhellach. Mae’r staff yn Premier wedi bod yn amhrisiadwy i’m  cynnydd ac alla i ddim diolch yn ddigonol iddynt am y cyfle a’r gefnogaeth maen nhw wedi rhoi i mi.

    Yn ystod fy mhrentisiaeth fel syrfëwr meintiau, rwyf wedi wynebu nifer o heriau. I ddechrau roedd gen i brinder o brofiad ymarferol. Fel dechreuwr, roedd fy mhrofiad ymarferol o gynnal ymweliadau â safleoedd, gwneud mesuriadau ac amcangyfrif costau yn gyfyngedig. I oresgyn yr her hon, bûm yn weithredol wrth geisio cyfleoedd i gysgodi gweithwyr proffesiynol profiadol, gofyn cwestiynau, a chymryd rhan mewn prosiectau byd go iawn a wnaeth fy helpu i ennill profiad ymarferol gwerthfawr. 

    Ar y dechrau ymdrechais i fynychu cymaint â phosibl o gyfarfodydd er mwyn cael mewnwelediad i’r ffordd roedd Premier yn gweithio. Mae bod yn rhiant tra’n cydbwyso tasgau gwaith, astudio ar gyfer arholiadau a bodloni terfynau amser wedi bod yn heriol. 

    Mae cefnogaeth fy nheulu, ffrindiau a chydweithwyr wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y brentisiaeth. Dechreuais i yn Premier yn cynorthwyo fy rheolwr llinell gyda’r gweithrediadau beunyddiol o osod gwefryddion EV ar draws y DU. Nawr prisio a rhedeg fy ngosodiadau EV fy hun, gosod siopau ac adnewyddu cyrtiau blaen, sy hefyd yn golygu bod rhaid i fi weithio gydag ystod ehangach o gleientiaid. Yn ddiweddar rwyf wedi ymdrin â safleoedd mwy cymhleth, sydd bob amser yn cynnwys gosodiadau petroliwm. 

    Yn ystod y 12 mis nesaf yn ogystal â rhedeg y prosiectau EV byddaf yn gosod y cyrchnod i fi fy hun o ddod yn SME ar gyfer y prosiectau pibwaith rydyn ni’n cwblhau. I wneud hyn rwy’n gobeithio mynychu mwy o safleoedd pibwaith i ennill mwy o brofiad ar-safle. Hefyd byddaf yn treulio amser gydag aelodau staff profiadol Premier ar gyfer addysgu a dysgu pellach o gwmpas y pwnc yn y flwyddyn sydd i ddod.

    Ar y cyfan, mae goresgyn yr heriau hyn yn gofyn ymroddiad, dysgu parhaus, a pheidio â bod ofn ceisio arweiniad pan fod angen.

    Cerith Edwards, Syrfëwr Meintiau Adeiladu (Lefel 5)

  • A headshot of Bethany

    Dechreuais i ar lefel tri ac rwyf wedi symud ymlaen yn ddiweddar i lefel pump. 

    Yn y lle cyntaf, roedd cyllid yn ffactor arwyddocaol yn fy mhenderfyniad gan ei fod yn heriol i gyflawni fy nghyrchnodau heb gronni dyled, felly mae’r llwybr prentisiaeth wedi bod yn amhrisiadwy. 

    Mae gweithio yn y gyfraith yn hanfodol er mwyn ei deall. Nid yw’n rhywbeth y gallwch chi amgyffred yn llawn trwy ddarllen llyfrau yn unig. 

    Rydych chi angen profiad ymarferol mewn amgylchedd cyfreithiol i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol. Mae’r brentisiaeth hon yn rhoi cyfle i mi ennill y profiad ymarferol hwnnw tra’n symud ymlaen tuag at fy uchelgeisiau gyrfaol.

    Rheoli amser yw’r her fwyaf, mae cydbwyso’r llwyth gwaith, adolygu ac ymrwymiadau eraill yn gofyn cynllunio gofalus. Mae rhaid i chi reoli eich calendr yn effeithiol ac addasu’n gyflym i flaenoriaethau sy’n newid. Mae dysgu i wneud y mwyaf o’ch amser ar y dechrau yn hanfodol, gan ei fod yn sgil y byddwch yn elwa ohono drwy gydol eich gyrfa, p’un a fyddwch yn dewis aros yn y gyfraith neu ddilyn llwybr gwahanol.

    Rheoli amser yw’r sgil gorau gallwch chi ddatblygu a’r her fwyaf i’w goresgyn hefyd. Ar brydiau, efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich tynnu i wahanol gyfeiriadau gan addysg a gwaith, gydag un yn aml yn mynnu mwy o sylw na’r llall. Pan fydd heriau’n codi, mae’n ymwneud â dod o hyd i ffyrdd i fynd i’r afael â nhw yn effeithiol.

     Mae’n hanfodol eich bod yn parhau’n atebol am eich dysgu eich hun. Mae cefnogaeth cymheiriaid wedi bod yn her hefyd, ond mae Lydia, fy ymgynghorydd hyfforddi wedi bod yn weithredol o ran datrys hyn trwy drefnu cyfarfodydd rheolaidd ble gallwn ni ddod at ein gilydd i rannu arferion gorau a rhoi adborth.

    Mae cymryd arholiadau’n rhithwir yn ychwanegu at yr anhawster, yn enwedig gan fod hwn yn gwrs cymharol newydd, ond mae’r profiadau hyn wedi fy helpu i adeiladu gwytnwch a’r gallu i addasu.

    Bethany Grant, Paragyfreithiol - Gwasanaethau Cyfreithiol (Lefel 5)

  • A headshot taken at college with company branded top

    Mae Jac Ap Dafydd Jones yn brentis mecanyddol yng nghwmni Llanelec Precision Engineering ac yn fyfyriwr peirianneg yng Ngholeg Sir Gâr lle mae’n cyfuno pedwar diwrnod o gyflogaeth gydag un diwrnod o astudio cymhwyster achrededig. 

    Mae Llanelec Precision Engineering yn arbenigo yn y gwaith o beiriannu CNC trachywir yr offer rhedeg ar gerbydau milwrol y byd. Roedd Jac yn ddigon ffodus i brofi ei sgiliau mewn lleoliad profiad gwaith a wnaeth wedyn arwain at brentisiaeth.

    Dechreuodd diddordeb Jac mewn peirianneg pan oedd e yn yr ysgol lle cymerodd e gwrs TGAU yn y pwnc gan ei fod yn mwynhau gwneud eitemau fel clamp offerwr.

    Ar y dechrau wnaeth e ddim cychwyn prentisiaeth pan ddechreuodd e yn y coleg ond roedd yng nghefn ei feddwl wrth iddo astudio ei flwyddyn gyntaf o beirianneg fecanyddol llawn amser. 

    Meddai Jac Ap Dafydd Jones, 17, o Landybie: “Roedd y coleg yn mynd yn dda ac o ganlyniad, gwnes i ychydig o brofiad gwaith gyda Llanelec Precision Engineering lle gallais i arddangos y sgiliau roeddwn i’n eu dysgu yn y coleg.

    “Eisteddodd y cwmni fi lawr ac fe gawsom sgwrs. Roedden nhw’n ymddangos yn hapus gyda beth oeddwn i wedi’i wneud a gofynnon nhw i fi a fyddwn i’n ystyried prentisiaeth gyda nhw, a oedd yn gyfle gwych i mi.

    “Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio gyda’r tîm ansawdd, yn dysgu sut i ddatrys  problemau’n ymwneud â rhannau mecanyddol ac oherwydd bod hon yn brentisiaeth hybrid, byddaf yn cael profiad mewn adrannau eraill hefyd, megis peiriannu a chynnal a chadw.

    “Rwy’n meddwl bod hon yn ffordd flaengar iawn o weithio gan fy mod yn elwa ar y profiad ac mae’r cwmni’n elwa ar gael staff sydd â phrofiad ar draws y cwmni cyfan.”

    Mae dewis Jac i ddilyn rhaglen brentisiaeth yn ei alluogi i ennill profiad ymarferol parhaus mewn lleoliad cyflogwr proffesiynol lle mae’n cael ei dalu a’i annog i astudio cymhwyster peirianneg achrededig yn y coleg.

    Dywed fod y blynyddoedd o brofiad ymarferol mae’n cronni yn ei osod ar wahân i’r rheiny sy’n dod yn syth allan o brifysgol ac sydd ond yn cychwyn ar eu gyrfaoedd. 

    Ychwanegodd Jac Ap Dafydd Jones: “Mae’r rheolwyr yn y gwaith yn wych gan eu bod am symud y cwmni ymlaen a’i wella ac maen nhw bob amser yn gwneud cysylltiad ar lefel y ddaear, gan gymryd diddordeb yn ein gwaith. 

    “Gwnaethon nhw hyd yn oed sôn wrth un o’u cwsmeriaid sefydliad milwrol mawreddog am fy rhan yn cystadlu yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU. Gwnaeth hynny i mi deimlo balchder.”

    Cafodd Jac ei ddewis yn ddiweddar i gystadlu yng nghategori CAD rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU ym Manceinion.

    Yn y gystadleuaeth hon ar draws y DU gyfan, gofynnwyd i gyfranogwyr gynllunio 10 o rannau 3D gan gynnwys prif gydosodiad a dau is-gydosodiad. “Dysgodd y profiad hwn lawer i mi a helpodd fi i ddeall mwy o agweddau lluniadu technegol,” meddai Jac. “Roedd yn anodd gan eich bod yn canolbwyntio’n ddwfn yn gyson, yn ceisio datrys problemau a dod o hyd i ddimensiynau coll a cheisio anwybyddu camerâu cyfryngau cymdeithasol a’r hyn oedd yn digwydd o’ch cwmpas.”

    Cafodd Jac y cyfle hefyd i hyfforddi yn yr Alban ble bu’n dysgu cynllunio llenfetel a rhoddodd ei sgiliau ar brawf gan gynllunio motor tro gyda ffannau tyrbin a phistonau mewnol. 

    Mae’n canu clod ei diwtor Coleg Sir Gâr Karl Hilton ac yn dweud ei fod yn galonogol iawn ac mae wedi cofrestru Jac yn ddiweddar ar gyfer cystadleuaeth gweithgynhyrchu haen-ar-haen Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

    Mae Jac yn gobeithio parhau ei gyflogaeth a symud ymlaen i astudio HNC mewn peirianneg fecanyddol. 

Daeth Rhonwen yn nyrs filfeddygol RVN drwy brentisiaeth

Roedd Rhonwen bob amser wedi eisiau bod yn nyrs filfeddygol ond chafodd hi erioed mo’r cyfle o’r blaen. 

Yna dechreuodd hi weithio fel cynorthwyydd nyrsio gyda Milfeddygon Haven a digwyddodd agoriad ar gyfer prentisiaeth nyrsio milfeddygol ddod gyda’r practis.

Mae hi wedi ennill yr holl sgiliau sydd eu hangen arni i weithio fel nyrs milfeddygol, megis CPR, monitro anaestheteg, tynnu gwaed, yn ogystal â’r holl wybodaeth glinigol sy’n ofynnol. 

Mae hyn wedi’i galluogi i gyflawni ei dyletswyddau nyrsio gan ddefnyddio’r holl ddulliau a thechnegau meddygol mwyaf diweddar.

Mae gweithio’n llawn amser a dod o hyd i amser i astudio ynghyd â chyfrifoldebau oedolyn wedi bod yn her ond mae wedi rhoi cyfle i Rhonwen roedd hi bob amser ei eisiau.

Rhonwen White, Nyrsio Milfeddygol (Lefel 3)

Rhonwen holding a cat

Rwyf bob amser wedi mwynhau gweithio gyda fy nwylo yn hytrach na gwaith academaidd

Ethan using some carpentry equipment in the workshop

Un o’r sgiliau mwyaf gwerthfawr rwyf wedi’i ennill yn ystod fy mhrentisiaeth yw mewn mesur a thorri deunyddiau yn gywir. Rwyf wedi dysgu sut i ddarllen cynlluniau/lluniadau a gweithio gydag amrywiaeth o gynnyrch sail-pren, gan wneud yn siŵr bod popeth yn ffitio gyda’i gilydd yn berffaith. Mae’r sylw hwn i fanylion wedi bod yn hollbwysig yn fy ngwaith. Ethan Carmichael Gwaith Saer Ar Safle (Lefel 3)

Neide yn ennill cymwysterau BHS ar ei phrentisiaeth

Neide on her brown horse

Cefais fy nenu at y brentisiaeth gan ei bod yn un diwrnod yr wythnos o ddysgu dwys, gwaith ymarferol a theori.

Hefyd, roeddwn yn gallu cyflawni fy arholiadau BHS, a chael fy mharatoi gan staff. 

Yn ystod fy amser ar y brentisiaeth, rwyf wedi gwneud ffrindiau amhrisiadwy a chysylltiadau yn y diwydiant. 

I mi, y rhan fwyaf gwerthfawr o’r brentisiaeth y byddaf yn mynd ag ymaith gyda fi yw’r dyfnder gwybodaeth llwyr, ond hefyd yr hyder yn yr hyn rwyf wedi’i ddysgu. Mae wedi gwella’n aruthrol fy ngallu i ofalu am a hyfforddi ceffylau yn fy ngofal.

Yn ogystal rwyf wedi cael y cyfle i fynd i Iwerddon ar brofiad diwydiannol ac rwyf wedi ennill cymwysterau cyfwerth â TGAU yn ystod fy mhrentisiaeth. 

Neide Willis, Ceffylau (Gofal a rheolaeth ceffylau)