
Canllaw i Gofrestru ar gyfer Prentisiaethau
Canllaw i Gofrestru ar gyfer Prentisiaethau
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, bydd Ymgynghorydd Hyfforddi yn cysylltu â chi a’ch cyflogwr i gadarnhau’r manylion ac i egluro’r hyn fydd yn digwydd nesaf.
Cyn eich ymweliad cofrestru, bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn gofyn i chi anfon rhai dogfennau pwysig atynt. Bydd y rhain yn cael eu gwirio ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod popeth yn ei le a’ch bod ar y cwrs cywir.
Ar ôl gwneud hynny, byddan nhw’n trefnu amser i ymweld â chi yn y gwaith i gwblhau’r broses gofrestru a chael popeth yn barod ar gyfer dechrau eich prentisiaeth. Mae’n bwysig eich bod chi a’ch cyflogwr ar gael yn ystod yr ymweliad hwn.
Beth i’w ddisgwyl
Cyn eich ymweliad cofrestru, bydd angen i chi anfon copïau o’r canlynol atom:
- Tystysgrifau eich cymhwysterau
- Eich contract cyflogaeth
- Dogfen adnabod ffotograffig (i gadarnhau eich oedran a’ch cyfeiriad)
- Prawf o’ch hawl i fyw a gweithio yn y DU
Yn ystod y cyfarfod, bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn cwrdd â chi a’ch cyflogwr i drafod rôl eich swydd a’r hyn fydd eich prentisiaeth yn ei gynnwys. Byddan nhw’n cadarnhau’r manylion gyda’ch cyflogwr ac yn gwirio bod popeth yn ei le er mwyn dechrau eich prentisiaeth.
I gwblhau’r broses gofrestru, bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn tynnu eich llun ar gyfer eich cerdyn adnabod coleg. Unwaith y bydd hwn wedi’i argraffu, byddwch yn cael eich cerdyn adnabod a’ch laniard.
Byddwch yn cael eich pecyn croeso oddi wrth eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn ystod eich sesiwn adolygu cynnydd cyntaf, a fydd yn digwydd yn eich gweithle o fewn 31 diwrnod i chi ddechrau eich prentisiaeth.
Bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn trefnu sesiwn gynefino a gellir ei chyflwyno ar-lein, neu wyneb yn wyneb yn un o’n campysau, yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau i chi a’ch cyflogwr.
Yn ystod y sesiwn gynefino, bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl ac yn eich helpu i ddechrau arni. Mae hyn yn cynnwys:
- Cipolwg ar yr hyn y mae eich prentisiaeth yn ei gynnwys, gan gynnwys dyddiadau allweddol, tasgau, a phwy sy’n gyfrifol am beth.
- Cwblhau eich asesiadau cychwynnol, os nad yw’r rhain eisoes wedi’u cwblhau.
- Sut i ddefnyddio’r prif systemau fel Google Suite a Maytas Hub.
- Gwybodaeth bwysig am iechyd a diogelwch, diogelu, a sut i gael mynediad i wasanaethau lles a chymorth dysgu.
- Manylion am eich cynllun asesu, sesiynau yn y coleg (os byddwch chi’n mynychu unrhyw rai), a phwy i gysylltu â nhw os oes angen cymorth arnoch.
- Cwblhau unrhyw waith papur nad ydych chi eisoes wedi’i gwblhau, fel cytundebau neu ddatganiadau dysgwyr.
- Cael tynnu eich llun (os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny), a chael eich cerdyn adnabod coleg a’ch laniard.
Rhaid cwblhau eich cyfnod cynefino cyn neu o fewn 31 diwrnod i ddechrau eich prentisiaeth.
Yr hyn sydd angen i chi ddod gyda chi

Yr hyn sydd angen i chi ddod gyda chi
Cyn eich ymweliad cofrestru, gwnewch yn siŵr eich bod wedi anfon:
- Eich dogfen adnabod ffotograffig (fel pasbort, tystysgrif geni, trwydded yrru, neu lythyr Yswiriant Gwladol)
- Canlyniadau eich arholiadau
- Copi o’ch contract cyflogaeth
- Tystysgrifau ar gyfer unrhyw gymwysterau rydych chi wedi’u hennill
- Prawf o’ch hawl i fyw a gweithio yn y DU

Cefnogaeth sydd ar Gael
Os bydd angen cymorth neu gefnogaeth arnoch chi yn ystod eich prentisiaeth, mae eich Ymgynghorydd Hyfforddi yma i chi a gall eich cyfeirio at y gwasanaethau cywir. Mae’r gefnogaeth yn cynnwys:
- Cymorth Dysgu ac Anghenion Ychwanegol
- Lles a Iechyd Meddwl
- Cymorth Ariannol
- Cyngor Gyrfaol a’r Camau Nesaf
Rydym hefyd yn cefnogi pob dysgwr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg, ble bynnag rydych chi arni. Bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn trafod eich lefel bresennol gyda chi ac yn eich helpu i osod nodau syml a realistig i feithrin eich hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y coleg, yn y gwaith, neu yn eich bywyd bob dydd.
Beth os Nad Oes Gen i Gyflogwr Eto?
Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth er mwyn dechrau prentisiaeth. Os nad oes gennych gyflogwr eto, gallwn eich cefnogi i ddod o hyd i un. Os nad yw prentisiaeth yn bosibl ar unwaith, byddwn yn eich helpu i archwilio opsiynau eraill, fel cwrs AB llawn amser sy’n cefnogi eich nodau tymor hwy. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch hefyd yn gallu dechrau elfennau o’ch dysgu wrth aros am leoliad.
Oes Gennych Ragor o Gwestiynau?
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth, cysylltwch â ni. Gallwch:
Anfonwch e-bost atom ar apprenticeships@colegsirgar.ac.uk neu siaradwch â’ch Ymgynghorydd Hyfforddi yn uniongyrchol.
Cwestiynau Cyffredin
-
Na, mae prentisiaethau yn gymwysterau sy’n seiliedig ar waith, felly mae’r rhan fwyaf o’ch dysgu’n digwydd yn y gweithle. Fel arfer, mae dysgwyr yn mynychu’r coleg un diwrnod yr wythnos, ond gall hyn amrywio yn dibynnu ar y pwnc. Bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn egluro’r model cyflwyno ar gyfer eich rhaglen benodol.
-
Na, mae prentisiaethau yn agored i bobl o bob oed. P’un a ydych chi’n dechrau arni neu’n newid cyfeiriad eich gyrfa, byddwn yn eich cefnogi drwy gydol eich taith prentisiaeth.
-
Mae prentisiaethau wedi’u hariannu’n llawn, felly does dim ffi gofrestru, a bydd platfformau ac adnoddau dysgu ar gael i chi yn rhad ac am ddim. Efallai y bydd angen i chi brynu eich cyfarpar eich hun neu ddillad amddiffynnol personol ar gyfer rhai cyrsiau, ac mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi gofrestru gyda chorff proffesiynol neu gorff diwydiannol fel rhan o’ch cymhwyster.
Bydd eich Ymgynghorydd Hyfforddi yn egluro a yw hyn yn berthnasol i’ch rhaglen chi, a gallwch hefyd ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar ein gwefan o dan ddisgrifiad pob cwrs.
-
Ffordd i ni ddod i ddeall eich lefel bresennol yw asesiadau cychwynnol. Peidiwch â phoeni, nid ydych yn eu pasio neu’n eu methu. Maen nhw’n helpu eich Ymgynghorydd Hyfforddi i roi’r gefnogaeth sydd ei angen ar gyfer eich dysgu.
-
Rhaid i chi fod mewn cyflogaeth er mwyn dechrau prentisiaeth. Os nad oes gennych gyflogwr eto, gallwn eich cefnogi i ddod o hyd i un. Os nad yw prentisiaeth yn bosibl ar unwaith, byddwn yn eich helpu i archwilio opsiynau eraill, fel cwrs AB llawn amser sy’n cefnogi eich nodau tymor hwy. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch hefyd yn gallu dechrau elfennau o’ch dysgu wrth aros am leoliad.