Newyddion
Recent press releases
Gwahoddwyd Georgia Theodoulou, sylfaenydd ac arweinydd ar gyfer chwaraeon yn ymgyrch Our Streets Now a darlithydd Saesneg yng Ngholeg Sir Gâr, i lywyddu gweithdy a siarad ar banel yn Uwchgynhadledd Include yn Llundain eleni.

Mae teigrod Swmatra ac udwyr ond yn rhai o’r anifeiliaid sy’n rhan o brosiectau ymchwil myfyrwyr sy’n cael eu cynnal yng Ngholeg Sir Gâr gyda Pharc Bywyd Gwyllt y Faenor (Manor Wildlife Park) yn Sir Benfro.

Profwyd y cwrs Sylfaenol Basis mewn Agronomeg yng Ngholeg Sir Gâr i fod yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer y rheiny sydd o ddifrif ynghylch datblygu eu gyrfaoedd mewn amaethyddiaeth. Fe wnaeth un fyfyrwraig ddiweddar, Hayley Lewis, rannu sut gwnaeth y cwrs ddarparu sylfaen neilltuol iddi mewn theori agronomeg, gan roi’r wybodaeth hanfodol iddi y mae hi bellach yn ei defnyddio bob dydd wrth weithio gyda ffermwyr.

Yn gynharach y tymor hwn, cafodd myfyrwyr UAL a Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg Ceredigion gyfle unigryw i gymryd rhan mewn dosbarth meistr ymarferol gyda’r artist Zoe Quick. A hithau’n adnabyddus am ei gwaith lliwio ffabrig yn naturiol, rhannodd Zoe ei harbenigedd mewn arferion tecstil cynaliadwy, gan roi profiad uniongyrchol i fyfyrwyr o weithio gyda deunyddiau eco-gyfeillgar.

Hoffai Coleg Sir Gâr fynegi ei ddiolch i gwmni adeiladu Vaughan Construction am ei nawdd ar draws ei holl academïau chwaraeon fel prif noddwr academïau’r coleg.
Penderfynodd Olga Andersohn-Muszynska gofrestru ar gyfer cwrs TGAU mathemateg rhan-amser yng Ngholeg Sir Gâr lle gwnaeth hi ragori ar ei disgwyliadau ac ennill gradd A*.

I lawer o fyfyrwyr, gall y daith drwy addysg danio diddordebau annisgwyl. I Leo, myfyriwr diweddar mewn Therapi Harddwch yng Ngholeg Ceredigion, felly oedd hi yn sicr. Wrth fyfyrio ar ei daith, rhannodd Leo sut y gwnaeth un uned yn arbennig ei ysbrydoli ef a’i yrfa ar gyfer y dyfodol.

Mae myfyrwyr Safon Uwch Coleg Sir Gâr, sy’n ymchwilio i lwybrau dilyniant amgen ar wahân i brifysgol, wedi ymweld â chwmni o’r enw Nexgen Careers yn Barcelona i archwilio cyflogadwyedd a datblygu sgiliau byd-eang.

Mae tair arweinyddes yng Ngholeg Sir Gâr yn hybu caredigrwydd fel gwerth craidd mewn rheolaeth, gyda’r nod o feithrin amgylchedd campws mwy cynhyrchiol, ymgysylltiol ac arloesol.

Mae gwefan newydd yn cael ei dadorchuddio yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion sy’n cynnwys llwyfan newydd ei gynllunio, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, gyda llywio gwell a gwelliant i brofiad y dysgwr.

Mae myfyrwyr y cyfryngau yng Ngholeg Ceredigion wedi cymryd rhan mewn gweithdai gyda chwmni ffilm Amdani fel rhan o’i gystadleuaeth ffilm fer, Ton Newydd Cymru.

Gwnaeth Owain Gravell, myfyriwr Safon Uwch yng Ngholeg Sir Gâr gwblhau hanner marathon yn ddiweddar ym Munich, Yr Almaen. Mae Owain wedi marcio carreg filltir yn ei yrfa athletaidd trwy gwblhau ei hanner marathon swyddogol cyntaf.

Gwahoddwyd myfyrwyr arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Ceredigion i arddangos eu sgiliau coginiol proffesiynol yn y Senedd yng Nghaerdydd, mewn digwyddiad gyda’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt (GWCT).

Mae Katalogen, band a ffurfiwyd yng Ngholeg Sir Gâr wedi rhyddhau eu EP cyntaf, Clay Chums, dros yr haf a chafodd eu cân, I don’t understand, ei chwarae ar BBC Wales.

Ar ôl colli dwy flynedd o ysgol oherwydd anawsterau iechyd meddwl, dychwelodd Angelina i addysg yng Ngholeg Sir Gâr a chwblhau ei TGAU mewn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Saesneg yn llwyddiannus, gan ennill graddau A*, A*, a B.
