Newyddion Coleg Sir Gâr - Mawrth 2025
Croeso i'n cylchlythyr diweddaraf
Cewch yr holl newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf. O straeon llwyddiant ysbrydoledig i nosweithiau agored sydd ar ddod, mae digon i’w archwilio. Daliwch ati i ddarllen i ddal i fyny ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd!
Symudodd Katie Cobley, myfyriwr garddwriaethol 19 oed yng Ngholeg Sir Gâr, o Ardal y Llynnoedd ar ôl sicrhau prentisiaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Croesawodd tîm adeiladu Coleg Sir Gâr rownd Cymru o gystadleuaeth gosod brics a drefnwyd gan Urdd y Gosodwyr Brics.
News items 2
Mae aelod o staff Coleg Sir Gâr wedi bod yn ysbrydoli ei chydweithwyr a myfyrwyr drwy godi ymwybyddiaeth o achos a arweiniodd at farwolaeth drasig ei mab ei hun.
Cafodd myfyrwyr Safon Uwch â diddordeb yn y sector gofal iechyd fewnwelediad i astudio seicoleg gydag ymweliad â Phrifysgol Abertawe, fel rhan o bartneriaeth Rhaglen Maes Meddygol y coleg.
Mae Cymdeithas Ffotograffiaeth Llanelli wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr Coleg Sir Gâr mewn cystadleuaeth ffotograffiaeth a arweiniodd at y gymdeithas yn cyflwyno pum gwobr yn y coleg.
Olympiad Tom Haffield yn ysbrydoli llysgenhadon chwaraeon ifanc yng Ngholeg Sir Gâr
Gwnaeth cyn-nofiwr Olympaidd wirfoddoli ei amser i ysbrydoli llysgenhadon chwaraeon ifanc sydd newydd eu penodi yng Ngholeg Sir Gâr, mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid (Youth Sport Trust) a thîm Lles Actif y coleg.
Fel rhan o Raglen Llysgenhadon yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, fe wnaeth Tom Haffield, sydd wedi cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad a’r Gemau Olympaidd, gyflwyno sesiwn mewn arweinyddiaeth mewn chwaraeon.