
Diploma Lefel 2 mewn Dodrefn
- Campws Aberteifi
Mae gyrfa mewn gwneud dodrefn yn golygu dylunio, crefftio, a chynhyrchu darnau o ddodrefn trwy weithio gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau. Mae’n faes arbenigol o fewn gwaith coed ac mae’n gofyn am gyfuniad o sgiliau technegol, creadigrwydd a chrefftwaith.
Fel pwnc ymarferol a chreadigol, gall ein cyrsiau mewn gwneud dodrefn fod yn llwybr delfrydol tuag at yrfa ymarferol gwerth chweil. Coleg Ceredigion yw’r unig goleg addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau mewn gwneud dodrefn yn y sector addysg bellach a’r cymhwyster lefel dau yw’r man cychwyn delfrydol. Bydd yn rhoi’r sgiliau sylfaen i chi rydych chi eu hangen i ddylunio a gwneud dodrefn a darnau dyluniedig unigryw eraill o bren a chynhyrchion panel.
Wedi’i ddyfarnu gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL), bydd y cwrs hynod o greadigol ac ymarferol hwn yn sicrhau eich bod yn ennill mewnwelediad i holl agweddau dylunio, gwneud a gorffennu dodrefn. Byddwch yn dysgu sut i grefftio uniadau â llaw ac â pheiriant, gan ddefnyddio ystod o brennau caled o ffynonellau lleol. Bydd eich ymdrechion yn diweddu gydag arddangos eich gwaith yn yr arddangosfa dylunio dodrefn ar ddiwedd y flwyddyn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r gweithdai dodrefn wedi’u cyfarparu’n llawn ag offer llaw, peiriannau gwaith coed, llwybrydd CNC, torrwr laser ac odyn solar a ddefnyddir i sychu pren yn gynaliadwy. Byddwch yn meithrin eich sgiliau ymarferol yn y gweithdy tra’n dysgu am dechnoleg pren a datblygu cynnyrch gyda’n tîm o ddarlithwyr a thechnegwyr profiadol.
Yn ogystal rydyn ni’n rhedeg dosbarthiadau meistr gan weithwyr proffesiynol adnabyddus y diwydiant, megis clustogwyr, gwneuthurwyr cadeiriau, turnwyr pren a cherfwyr. Bob hyn a hyn rydyn ni’n hoffi mynd allan o’r gweithdy, felly bob tymor trefnir ymweliadau ag amgueddfeydd ac orielau, melinau coed a busnesau perthnasol. Hefyd mae gennym gysylltiadau gyda cholegau dramor, felly mae yna gyfle yn ogystal i gymryd rhan mewn ymweliadau cyfnewid.
I gychwyn byddwch yn dysgu sut i wneud yr uniadau sylfaen â llaw o’r rhain y gellir gwneud y rhan fwyaf o ddodrefn. Ochr yn ochr â hyn byddwch yn dysgu sgiliau gwneud dodrefn addurnol cyflenwol fel argaenwaith. Wrth symud ymlaen, byddwn yn eich dysgu sut i ddefnyddio peiriannau gwaith coed ac offer pŵer yn ddiogel yn ein gweithdy cyfarparedig llawn.
Mae prosiectau lefel dau yn cynnwys gwneud darn o argaenwaith mewn ffrâm a wnaed â llaw, bwrdd ochr a chabinet bach. Ochr yn ochr â phob prosiect ymarferol byddwch yn datblygu a chyflwyno portffolio neu lyfr braslunio o’ch gwaith datblygu dylunio a dyddlyfr gwneud technegol.
Mae dysgu am offer a thechnegau gwaith coed yn rhan annatod o wneuthur, ond mae dodrefn hefyd am ddylunio. Rhoddir rhan sylweddol o’r cwrs i archwilio dylunio: hanesyddol a chyfoes. Byddwch yn astudio dylunwyr eiconig a gwneuthurwyr o fri, archwilio hanes dylunio a chyfuno’r ddau ddylanwad hyn gyda’ch syniadau eich hun.
Mae datblygu syniadau yn rhan allweddol o’r cwrs. Byddwn yn dysgu ystod o dechnegau braslunio a lluniadu technegol i chi er mwyn eich galluogi i archwilio a chyfathrebu eich syniadau dylunio. Yn y pen draw bydd hyn yn arwain at ddefnyddio CAD, a gellir defnyddio hwn i greu dyluniadau ar gyfer y torrwr laser a CNC.
Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn dewis parhau gyda’u hastudiaethau mewn dodrefn ar lefel tri. Efallai y byddwch am symud ymlaen i gyflogaeth mewn galwedigaethau sail coed neu ddodrefn, neu i hunangyflogaeth. Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi sylfaen i chi yn egwyddorion sylfaenol dylunio, y byddwch efallai yn dewis gwneud defnydd o hyn wrth fynd ymlaen i bwnc creadigol ar lefel addysg uwch.
Mae gwaith cwrs ymarferol a damcaniaethol yn ffurfio’r sail ar gyfer asesu. Does dim arholiadau ffurfiol. Bydd beirniadaethau grŵp rheolaidd ac asesiadau interim yn darparu adborth i chi a fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau.
4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol. Mae yna groeso i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau a gellir eu derbyn yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus. Gofynnwn fod gennych chi ddiddordeb gwirioneddol yn y pwnc. Mae ymrwymiad a brwdfrydedd yn hanfodol er mwyn cael y budd mwyaf o’r cwrs.
Mae ffi gweithdy o £50 yn cwmpasu deunyddiau ar gyfer y prosiectau craidd. Caiff deunyddiau prosiect ychwanegol eu costio ar sail unigol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 wrth gofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich esgidiau diogelwch eich hun (blaenau troed amddiffynnol), tâp mesur a deunydd ysgrifennu. Darperir yr holl offer eraill. Gall rhai teithiau arbenigol olygu costau ychwanegol.