
Diploma Lefel 3 mewn Dodrefn
- Campws Aberteifi
Mae gyrfa mewn gwneud dodrefn yn golygu dylunio, crefftio, a chynhyrchu darnau o ddodrefn trwy weithio gyda gwahanol ddeunyddiau a thechnegau. Mae’n faes arbenigol o fewn gwaith coed ac mae’n gofyn am gyfuniad o sgiliau technegol, creadigrwydd a chrefftwaith.
Fel pwnc ymarferol a chreadigol, gall ein cyrsiau mewn gwneud dodrefn fod yn llwybr delfrydol tuag at yrfa ymarferol gwerth chweil. Coleg Ceredigion yw’r unig goleg addysg bellach yng Nghymru sy’n cynnig cyrsiau mewn gwneud dodrefn yn y sector addysg bellach ac mae’r cymhwyster lefel tri yn dilyn yn naturiol o’r cwrs lefel dau, neu’n opsiwn arbenigol i’r rheiny â phrofiad blaenorol.
Gan adeiladu ar y sgiliau sylfaen a ddysgwyd ar lefel dau, mae’r cwrs hwn gan gorff dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau dylunio a gwneud yn greadigol i lefel uwch. Ymarfer technegau gwneud mwy datblygedig a’ch galluogi i archwilio eich syniadau dylunio eich hun. Bydd yn rhoi’r sgiliau i chi rydych chi eu hangen i ddylunio a gwneud dodrefn a darnau dyluniedig unigryw eraill o bren a chynhyrchion sail pren.
Bydd y cwrs hynod o greadigol ac ymarferol hwn yn sicrhau eich bod yn ehangu eich gwybodaeth am ddylunio dodrefn, arbrofi gyda thechnegau newydd a mireinio go iawn eich sgiliau gwneud a gorffennu. Byddwch yn dysgu sut i grefftio darnau dodrefn cymhleth â llaw ac â pheiriant gan ddefnyddio ystod o brennau caled o ffynonellau lleol a chynhyrchion panel. Bydd eich ymdrechion yn diweddu gydag arddangos eich gwaith yn yr arddangosfa dylunio dodrefn ar ddiwedd y flwyddyn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r gweithdai dodrefn wedi’u cyfarparu’n llawn ag offer llaw, peiriannau gwaith coed, llwybrydd CNC, torrwr laser ac odyn solar a ddefnyddir i sychu pren yn gynaliadwy. Byddwch yn meithrin yn greadigol eich sgiliau ymarferol yn y gweithdy tra’n dysgu am egwyddorion dylunio, technoleg pren a datblygu cynnyrch cynaliadwy gyda’n tîm o ddarlithwyr a thechnegwyr profiadol. Yn ogystal rydyn ni’n rhedeg dosbarthiadau meistr gan weithwyr proffesiynol adnabyddus y diwydiant, megis clustogwyr, gwneuthurwyr cadeiriau, turnwyr pren a cherfwyr. Bob hyn a hyn rydyn ni’n hoffi mynd allan o’r gweithdy, felly bob tymor trefnir ymweliadau ag amgueddfeydd ac orielau, melinau coed a busnesau perthnasol. Hefyd mae gennym gysylltiadau gyda cholegau dramor, felly mae yna gyfle yn ogystal i gymryd rhan mewn ymweliadau cyfnewid.
Blwyddyn 1 - Diploma
Mae’r cwrs yn dechrau gyda phrosiect adnewyddu, gwneud stôl. Gwneir ymchwil cyd-destunol, yna dilynir y broses ddylunio i wneud eich fersiwn eich hun o stôl odro draddodiadol.
Wrth fynd ymlaen, byddwn yn symud trwy gyfres o brosiectau bach er mwyn dysgu technegau ymarferol mwy datblygedig i chi fel gwaith onglog cymhleth, gwaith crwm, llwybro CNC a thorri â laser. Cewch eich annog i arbrofi a datblygu techneg o’ch dewis mewn ymateb i’r briff.
Byddwch yn symud ymlaen i brosiect gwneud cadair. Yma byddwch yn dysgu am ergonomeg a chryfder, datblygu modelau, prototeipiau ac yn y pen draw gwneud cadair o’ch dyluniad eich hun gan ddefnyddio technegau swp-gynhyrchu newydd a gafwyd a thechnegau peiriannu pren effeithlon.
Ar draws pob prosiect byddwn yn plymio’n ddyfnach i CAD, hanes dylunio, technoleg pren a chynaladwyedd. Hefyd byddwch yn cwmpasu sgiliau allweddol megis, meddwl yn feirniadol, ymarfer adfyfyriol. Yn ogystal byddwn yn dysgu hanfodion sut i brisio eich gwaith i chi.
Blwyddyn 2 - Diploma Estynedig
Mae’r flwyddyn hon yn eich galluogi go iawn i fireinio eich arbenigedd dodrefn neu sail coed eich hun. Ai gwneud cadeiriau ydyw? Llwybro CNC? Turnio coed? Hoffech chi weithio mewn deunyddiau ailgylchedig? Oes gennych chi syniad cynnyrch yr hoffech chi ei ddatblygu? Hoffech chi wneud ystod cynnyrch gapsiwl ar gyfer busnes bach?
Mewn dull mwy hunan-arweiniol, byddwn yn rhoi’r cyfle i chi ddatblygu eich arddull a’ch set sgiliau eich hun yn barod ar gyfer busnes, hunangyflogaeth, cyflogaeth neu ddilyniant i addysg uwch. Byddwn yn eich cefnogi a’ch tywys drwy hyn mewn modd pwrpasol gan ddarparu arweiniad busnes, cysylltiadau arbenigol â diwydiant, a chyngor technegol. Cewch fynediad llawn i’n gweithdai a’n cyfleusterau.
Mae rhan gyntaf y cwrs yn cynnig amser i chi ymchwilio eich arbenigedd, archwilio syniadau, arbrofi â thechnegau a mireinio eich sgiliau. Bydd y prosiect terfynol yn friff a osodir gennych chi eich hun. Yma cewch eich asesu’n synoptig ar yr holl ddysgu rydych wedi’i ddatblygu drwy gydol y cymhwyster, gan wireddu a chyflwyno prosiect hunangychwynnol. Byddwch yn arddangos dealltwriaeth fanwl o ymarfer arbenigol y diwydiant o’ch dewis, ac wedi gwneud defnydd llawn o’r broses greadigol i gael canlyniad sy’n ateb anghenion eich cynulleidfa neu ddefnyddiwr dethol.
Mae’n bosib byddwch eisiau symud ymlaen ymhellach i astudio ar lefel gradd, mynd mewn i gyflogaeth neu sefydlu eich busnes eich hun yn y diwydiant. Gall llwyddo ar y cwrs ddarparu llwybr i hunangyflogaeth, prentisiaeth yn y diwydiant, neu gyflogaeth mewn gwneud dodrefn, ffitio a diwydiannau cysylltiedig.
3 Uned y flwyddyn. Holl waith cwrs ymarferol a sail portffolio.
Beirniadaethau grŵp rheolaidd, asesiadau interim a chyflwyniadau ffurfiol. Dim arholiadau.
Pump TGAU graddau A*-C, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg, neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau mewn gwneud dodrefn neu waith asiedydd. Mae yna groeso i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau a gellir eu derbyn yn amodol ar gyfweliad llwyddiannus.
Ffi gweithdy o £50 ynghyd â chost deunyddiau ar gyfer eich prosiectau eich hun.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich esgidiau diogelwch eich hun (blaenau troed amddiffynnol), tâp mesur a deunydd ysgrifennu. Darperir yr holl offer eraill. Gall rhai teithiau arbenigol olygu costau ychwanegol.