
Gwybodaeth ar gyfer cofrestru
Beth i'w ddisgwyl ar y diwrnod cofrestru...
- Byddwn yn anfon e-bost atoch gydag amser penodol ar gyfer cofrestru. Os nad ydych chi’n gallu bod yn bresennol, cysylltwch â ni ar 01554 748 000 neu admissions@colegsirgar.ac.uk
- Mae cofrestru fel arfer yn cymryd ychydig oriau, felly gadewch ddigon o amser i wneud popeth.
- Yn gyntaf byddwch yn cwrdd â thiwtoriaid cwrs a fydd yn gwirio canlyniadau eich arholiadau.
- Yna bydd gofyn i chi dalu eich ffi gofrestru o £25. Gellir gwneud hyn gydag arian parod neu gerdyn. Os na allwch dalu ar y diwrnod neu os ydych am dalu ar-lein, bydd dolen yn cael ei hanfon atoch pan fyddwch yn cwrdd â thîm y gofrestrfa.
- Os byddwch wedi llwyddo i gael y canlyniadau sydd eu hangen, byddwch yn cwrdd â’r tîm cofrestru a fydd yn eich cofrestru ar eich cwrs, yn tynnu eich llun ac yn argraffu eich cerdyn adnabod coleg.
- Cyn i chi adael, mae angen i chi gasglu eich laniard a’ch bag croeso a fydd yn cynnwys dolen i’ch llyfryn croeso digidol sy’n cynnwys pob math o wybodaeth i chi ei ddarllen cyn dechrau.
Bydd staff cymorth ar gael i’ch helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â:
- Chludiant y Coleg
- Cymorth Dysgu
- Cymorth Ariannol
- Lles
- Cyngor gyrfaoedd
Ydych chi’n dechrau prentisiaeth?
Bydd y broses gofrestru ychydig yn wahanol i chi, ewch i’ch tudalen gofrestru bwrpasol ar gyfer prentisiaethau.
Yr hyn sydd angen i chi ddod gyda chi

Peidiwch ag anghofio:
- Dogfen Adnabod (e.e. Tystysgrif Geni, Pasbort, Trwydded Yrru, Llythyr Yswiriant Gwladol)
- Canlyniadau eich arholiadau
- Ffordd o dalu eich ffi gofrestru o £25
Beth os na fyddaf wedi llwyddo i gael y canlyniadau sydd eu hangen arnaf yn yr arholiadau?

Peidiwch â chynhyrfu - rydyn ni yma i helpu
Dewch i siarad â ni cyn gynted â phosibl, byddwn yn edrych ar eich canlyniadau gyda’n gilydd ac yn helpu i ddod o hyd i’r cwrs sydd orau i chi. Efallai y byddwch chi’n gallu dechrau ar lefel wahanol neu ailsefyll pynciau allweddol. Beth bynnag sy’n digwydd, byddwn yn eich rhoi ar y llwybr i lwyddiant.
Gwybodaeth am gludiant myfyrwyr, amserlenni bysiau a thocynnau bws.

Darganfyddwch ystod eang o arweiniad a chefnogaeth wedi'u cynllunio i'ch helpu i wneud y gorau o'ch profiad coleg.
