Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, bu myfyrwyr celf a dylunio sy’n astudio cwrs mynediad i addysg uwch yn Ysgol Gelf Caerfyrddin Coleg Sir Gâr yn arddangos eu gwaith yn Oriel Thomas Henry y coleg ar gampws Ffynnon Job.

Mae rhai yn symud ymlaen i astudio mewn prifysgolion yn y DU ac mae eraill wedi penderfynu aros a datblygu eu hastudiaethau celf yn Ysgol Gelf Caerfyrddin ac mae un myfyriwr yn mynd i ddod yn artist preswyl. 

Mae’r cwrs blwyddyn, sy’n cyfateb i dri chymhwyster Safon Uwch, wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd naill ai eisiau mynd ymlaen i astudio cyrsiau ar lefel prifysgol neu ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am newid cyfeiriad creadigol. 

Penderfynodd Jenny Watts-Jones, sydd ar hyn o bryd yn cymryd seibiant o’i gyrfa fel nyrs, ynghyd â’i phartner Paul Hughes, ddechrau’r cwrs y llynedd ac maen nhw wedi bod yn teithio o Abertawe i Gaerfyrddin er mwyn astudio’r cwrs dridiau’r wythnos.

Dywedodd wrthym am ei phrosiect mawr terfynol, yr hyn a wnaeth ei hysbrydoli, ei phrofiad o fod yn fyfyrwraig hŷn a’r prosesau meddwl y tu ôl i’w gwaith yn yr arddangosfa.

A close up of children's shoes made of clay, there are many

Mae creulondeb brawychus a pharhaus y rhyfel yn Gaza wedi cael effaith emosiynol ar Jenny ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn ei darn, o’r enw Dilead/Erasure.

Wedi’i dylanwadu gan waith y ceramegydd Lucie Rie, a oedd yn ffoadur Iddewig oedd yn gwneud botymau clai ar gyfer y diwydiant ffasiwn yn ystod yr ail ryfel byd, mae Jenny wedi gwneud 80 o esgidiau plant i nodi 80 mlynedd ers yr Holocost. “Gwelais ddelwedd o esgid plentyn heb y plentyn,” meddai Jenny. “Ar y pryd, roedd menter ar y gweill lle’r oedd esgidiau plant yn Auschwitz yn cael eu hadnewyddu. Yna cefais freuddwyd am sandal jeli plentyn ac er syndod i mi, gwelais yr hyn oedd yn ymddangos fel yr un esgid ond mewn pâr, mewn siop elusen y diwrnod canlynol.”

Arweiniodd y cysylltiad emosiynol hwn Jenny i greu’r esgidiau y mae hi wedi’u paru â chyfeiriadau barddonol mewn llyfr monobrint. Mae pob esgid wedi’i labelu â rhif sy’n cysylltu â llinell o gerddi gan Emily Dickinson a Wilfred Owens. 

Mae’r ddau fardd yn ysgrifennu am farwoldeb, dioddefaint, a’r cyflwr dynol ac mae Jenny wedi cyflwyno’r llyfr i Dr Alaa al-Najjar, pediatregydd o Balesteina sy’n gweithio yn ne Gaza a gollodd naw o blant i ymosodiad awyr gan Israel. 

Wedi’i hysbrydoli gan yr artist cerameg Almaenig Hans Coper, mae’r fâs a grëwyd gan Jenny yn symboleiddio bom tallboy, y mae hi wedi’i beintio’n ddu. Mae’r blodau haul sy’n pydru yn y fâs wedi’u hysbrydoli gan yr artist Almaenig Anselm Kiefer, a ddefnyddiodd flodau haul sy’n pydru i bortreadu annynoldeb yr Holocost a chywilydd ei chenedl.

Y darn mwyaf yn arddangosfa Jenny, sydd wedi’i greu gan ddefnyddio siarcol, yw darn o waith myfyriol wedi’i ysbrydoli gan y arlunydd o Fenis, Giorgione. Mae hi wedi defnyddio sawl maes o fewn yr ysgol gelf i greu ei phrosiect, megis astudiaethau hanesyddol, ffotograffiaeth, cerameg, print, a lluniadu’r byw.

Jenny's whole exhibition space which consists of a portrait in charcoal and clay shoes and vase and sunflowers

Meddai Jenny Watts-Jones: “Mae pob adran wedi bod yn anhygoel; maen nhw’n eich helpu i greu’r hyn rydych chi ei eisiau, gan roi cefnogaeth i chi ond yn caniatáu i chi wneud pethau yn eich ffordd eich hun.

“Pan gymerais seibiant o fyd nyrsio, roeddwn i a Paul yn teimlo bod angen i ni wneud rhywbeth gyda’n gilydd.

“Roedden ni’n dau wedi bod mewn dosbarth lluniadu’r byw yn y coleg cyn dechrau ar y cwrs hwn ond nid oedd fy sifftiau fel nyrs yn caniatáu i mi ymrwymo i fynychu’n rheolaidd ac oherwydd bod Paul eisiau ailgysylltu â’i waith celf, fe wnaethon ni benderfynu mentro a mynd amdani.

“Rwy’n teimlo fy mod i wedi cyflawni rhywbeth go iawn a dw i’n teimlo bron fy mod wedi bod angen y cwrs hwn fel math o therapi er ei fod yn ddwys iawn.

“Mae’r ysgol gelf yn lle unigryw lle gallwch chi gerdded o gwmpas a chymysgu â myfyrwyr celf eraill ac rwy’n teimlo’n lwcus ein bod ni’n cael defnyddio cyfarpar sydd wedi’i gynllunio ar gyfer yr holl raglenni gradd. 

“Rwy’n credu bod yr anghrediniaeth a’r holl ddicter rydw i’n ei deimlo tuag at y rhyfel hwn wedi’u hymgorffori yn fy mhrosiect ond mae wedi creu rhywbeth cadarnhaol i fyfyrio arno.”

Ychwanegodd Paul Hughes: “Rwy’n teimlo fy mod wedi cysylltu â chymuned gelfyddydol eto, mae wedi bod yn brofiad cathartig iawn ac mae’r gwahanol grwpiau oedran wedi gweithio gan ein bod ni’n cydweithio mewn amgylchedd ‘heb oed’.”

Mae Paul a Jenny ill dau wedi penderfynu parhau i astudio yn y coleg a chofrestru ar gyfer cwrs celf a dylunio sylfaen.

Carmarthen school of art logo

Beth allwch chi ddisgwyl ei ddysgu ar gwrs Celf a Dylunio Mynediad i Addysg Uwch?

Mae’r cwrs blwyddyn, sy’n cyfateb i dri chymhwyster Safon Uwch, wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd naill ai eisiau mynd ymlaen i addysg uwch neu ar gyfer y rheiny sy’n chwilio am her greadigol. 

Bydd myfyrwyr yn archwilio hanfodion lluniadu a phaentio, gwahanol gyfryngau, defnyddio lliwiau, siapiau a ffurfiau, tri thraethawd, bywyd llonydd, olewau, acryligion, hanes celf, astudiaethau cyd-destunol, tecstilau, lluniadu’r byw a phrint. A hefyd gwehyddu, ffelt, collage, cerameg, meddalwedd digidol proffesiynol a thorri â laser. Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn annog creadigrwydd unigolion ac yn llwyr gefnogi myfyrwyr ar eu teithiau artistig.

Dewch i wybod mwy am Ysgol Gelf Caerfyrddin.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau