Skip page header and navigation

CEFNOGI TAITH COLEG EICH PERSON IFANC

Croeso i Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Rydym wrth ein bodd bod eich person ifanc yn ymuno â ni ac yn dechrau pennod newydd, gyffrous ar eu taith ddysgu. Fel rhiant neu warcheidwad, rydych
chi’n chwarae rhan hanfodol yn eu llwyddiant, ac rydym ni yma i weithio mewn partneriaeth â chi.

EIN HYMRWYMIAD

Yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, ein nod yw siapio bywydau, cryfhau cymunedau, a helpu unigolion i ffynnu. Rydym yn darparu profiad dysgu o ansawdd uchel sy’n herio ac yn cefnogi pob dysgwr i gyflawni ei botensial, boed hynny ar ffurf cyflogaeth, addysg uwch, neu ddatblygiad personol.

Mae ein dysgwyr yn elwa o’r canlynol:

  • Cyfleusterau sy’n cyfateb i safon y diwydiant ar draws 7 campws.
  • Cymorth bugeiliol wedi’i deilwra i anghenion unigol.
  • Cysylltiadau rhagorol â phrifysgolion a chyflogwyr.
  • Amgylchedd dysgu diogel, cynhwysol a dwyieithog.

Rydym yn ymdrechu i rymuso ein dysgwyr gyda’r sgiliau, yr hyder a’r gwerthoedd er mwyn ffynnu yn y coleg a thu hwnt.

A lecturer and two students in white lab coats and goggles, looking at a chemical reaction

GWYBODAETH ALLWEDDOL I RIENI

Mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant academaidd. 95% yw targed presenoldeb y coleg. Cysylltir â rhieni dysgwyr dan 18 oed os yw presenoldeb dysgwr yn destun pryder.

  • Dylid cofnodi absenoldebau trwy ap Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Gall dysgwyr lawrlwytho ap Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion o’r App Store neu Google Play.
  • Bydd tiwtoriaid yn monitro presenoldeb a chynnydd drwy gydol y
    flwyddyn.

Mae ein Timau Lles a Chymorth Dysgu yn darparu’r canlynol i ddysgwyr cymwys:

  • Mentora a chwnsela 1:1 yn seiliedig ar atgyfeiriadau
  • Cymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn dibynnu ar anghenion y dysgwr.
  • Cyngor ariannol a chymorth gyda chludiant.
  • Gweithgareddau lles actif
  • Trefniadau mynediad i arholiadau, ar gais, gyda thystiolaeth ategol

Bydd dysgwyr yn defnyddio amrywiaeth o blatfformau digidol:

  • Google Classroom (aseiniadau a chynnwys y cwrs).
  • Ap y coleg (newyddion, newyddion diweddaraf, ac adrodd absenoldeb).
  • Gmail a Google Chat er mwyn cyfathrebu â staff a chymheiriaid.
  • Offer AI cynhyrchiol i gefnogi dysgu, addysgu ac asesu.

Disgwylir i ddysgwyr ddilyn y Polisi Defnyddio TG wrth ddefnyddio platfformau digidol. Ewch ati i annog defnydd cyfrifol.

A student with their parent looking at exam results

GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH GYDA RHIENI A GOFALWYR

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r rôl rydych chi’n ei chwarae wrth gefnogi addysg eich person ifanc. Er mwyn cryfhau’r bartneriaeth hon, rydym yn darparu:

  • Adroddiadau Cynnydd: Byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am gyflawniadau a phryderon.
  • Nosweithiau Ymgynghori: Cyfle i siarad â thiwtoriaid.
  • Adnoddau Ar-lein: Cadwch lygad ar ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol, ac ap y Coleg.
  • Ymagwedd Gyffredin ar gyfer Ymddygiad Cadarnhaol: Gofynnwn i rieni a gofalwyr gefnogi ein Polisi Ymddygiad.  Cadarnhaol yn weithredol, gan gynnwys ein hymrwymiad i gyfiawnder adferol, er mwyn helpu i greu cymuned coleg barchus
    a chynhwysol.

Os oes gennych bryderon neu os oes angen cyngor arnoch, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Mae’r prif fanylion cyswllt i’w cael ar ein gwefan: www.csgcc.ac.uk, neu drwy ffonio Swyddfa’r Campws: 01554 748000.

DISGWYLIADAU WRTH GYFATHREBU

Yn unol â Strategaeth Gyfathrebu’r Coleg, rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu mewn modd parchus, amserol ac effeithiol gyda’r holl randdeiliaid, gan gynnwys rhieni a gwarcheidwaid.

  • Cynhwysol a Charedig: Mae’r cyfathrebu’n gynnes, yn glir, ac yn gefnogol.
  • Dwyieithog: Cyhoeddir pob cyfathrebiad swyddogol yn Gymraeg a Saesneg.
  • Hygyrch: Defnyddir iaith syml i sicrhau eglurder.
  • E-bost: Dyma’r dull a ffefrir ar gyfer ymholiadau cyffredinol.
  • Rhif ffôn: Ar gyfer materion brys neu bryderon bugeiliol.
  • Cyfarfodydd: Gellir trefnu cyfarfod rhithiol neu ar y safle gyda rhybudd ymlaen llaw.
  • Bydd staff yn ymateb i gyfathrebiadau rhieni o fewn 5 diwrnod gwaith, yn ystod y tymor.
  • Os oes gennych bryderon brys yn ymwneud â diogelu neu les, cysylltwch â swyddfa’r campws ar unwaith.

Gofynnwn i bob rhiant:

  • Fod yn gwrtais ac yn adeiladol ym mhob rhyngweithiad.
  • Deall na all staff ymateb ar unwaith bob amser. Ein horiau gwaith arferol yw dydd Llun i ddydd Iau 8.30-17.00 a dydd Gwener 8.30-16.30.
  • Deall bod rhai aelodau o staff yn gweithio’n rhan-amser, felly gall gymryd mwy o amser i ymateb i unrhyw ohebiaeth.
  • Defnyddio’r sianeli cyfathrebu priodol (e-bost/ffôn/swyddfa’r campws).
  • Bod yn ymwybodol o faint ac amlder cyfathrebiadau, gan sicrhau bod negeseuon yn gytbwys, yn angenrheidiol, ac yn parchu amser a chapasiti staff.

Ni fydd cyfathrebu amharchus, ymosodol nac amhriodol yn cael ei oddef a byddwn yn delio â hynny yn unol â’n polisïau.

CWESTIYNAU CYFFREDIN

  • Dylent gael sgwrs gyda’u tiwtor yn y lle cyntaf. Mae cymorth chwanegol ar gael gan ein timau Lles ac ADY.

  • Rydym yn cynnig cefnogaeth i ddysgwyr cymwys drwy Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), Grant Dysgu Llywodraeth Cymru, a Chronfeydd Ariannol Wrth Gefn.

  • Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael eu postio ar ap y Coleg a’r cyfryngau cymdeithasol.

  • Dylai eich plentyn ddefnyddio ap Prospect i roi gwybod am absenoldeb.

Myfyrwyr yn ateb y ffôn wrth ddesg y dderbynfa

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Gyda’n gilydd, gallwn helpu eich person ifanc i lwyddo.

Ap y Coleg:

Ar gyfer hysbysiadau, rhoi gwybod am absenoldeb, a newyddion. Gall dysgwyr lawrlwytho ap Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion o’r App Store neu Google Play.

Cyfryngau Cymdeithasol:

Dilynwch ni ar Facebook ac Instagram am y wybodaeth ddiweddaraf ac i ddathlu llwyddiannau.