
Addysgu a Dysgu
Rydyn ni am roi profiad addysgol i’n dysgwyr sy’n parhau y tu hwnt i bedair wal ystafell ddosbarth ac sy’n treiddio i’w taith gyfan gyda ni
Addysgu a dysgu sydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ei wneud yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Ein hethos yw grymuso ein staff, gan roi cyfle i bob dysgwr lwyddo a chyrraedd eu potensial llawn.
Mae gan y coleg ffocws cryf ar garedigrwydd a chymuned ac mae hyn yn naturiol yn cwmpasu amgylchedd dysgu gofalgar a chefnogol iawn.
Rydyn ni’n cyflawni hyn drwy hybu Diwylliant o Chwilfrydedd
Rydyn ni’n credu mewn meithrin Diwylliant o Chwilfrydedd lle mae ein staff yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i ddatblygu.
Mae ein Llwybrau Chwilfrydedd yn cynnig dull unigryw o ddysgu proffesiynol sydd wedi’i deilwra. Bob blwyddyn, mae staff yn cael eu hannog i ddilyn llwybr sy’n ennyn eu diddordeb personol ac yn eu helpu i ddatblygu mewn meysydd y maen nhw’n frwdfrydig yn eu cylch.
Mae pob cam o’r daith hon yn cael ei gefnogi’n llawn gan ein Tîm Addysgu a Dysgu canolog, sy’n gweithio gyda rheolwyr cyfadran a’r uwch dîm arweinyddiaeth i sicrhau bod gan y staff bopeth sydd ei angen arnynt i lwyddo. Rydyn ni hefyd yn annog staff i rannu a chyhoeddi eu gwaith, gan ddathlu eu taith a’u darganfyddiadau.
Rydyn ni’n gofalu am ein hathrawon, er mwyn iddyn nhw allu gofalu am ein myfyrwyr




Addysgwyr Ydyn Ni Sydd Byth yn Rhoi'r Gorau i Ddatblygu a Dysgu
“Rydyn ni’n cydnabod bod pob myfyriwr yn dysgu’n wahanol ac rydyn ni wedi ymrwymo i’n gweledigaeth i ddarparu profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb, sy’n arloesol ac a gefnogir fel y gall pob dysgwr ffynnu.”
Cydnabyddiaeth drwy Wobrau




-
Enillydd Gwobr Dysgu 2023 yng ngwobrau y Culture Pioneers
-
Gwobr Hyfforddiant y Dywysoges Frenhinol 2019/2022
-
Cafodd Olivia Sills wobr Arloeswr Digidol y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson 2022
-
Cafodd Victoria Davies, Lowri Bugg a Louise Fensome dystysgrifau rhagoriaeth Darlithydd AB y Flwyddyn gan Wobrau Hyfforddiant Pearson.
Gŵyl Ymarfer



Bob blwyddyn, mae dathliad anffurfiol o’r enw Gŵyl Ymarfer, yn dod â staff addysgu o’r saith campws ynghyd i rannu eu gwaith ymchwil a’u harferion arloesol.
Mae’r digwyddiad yn dathlu gwaith unigolion ac yn cynnig llwyfan ar gyfer trafodaeth broffesiynol ymhlith ein holl addysgwyr.
Cyfres bwrpasol o lwybrau dysgu proffesiynol yw ein llwybrau Chwilfrydedd y gall staff ddewis eu cymryd er mwyn caniatáu i ni gynnig ymagwedd hyd yn oed yn fwy personol a theilwredig tuag at ddysgu proffesiynol.
Yn dilyn proses adfyfyriol yr hunanwerthusiad a thrafodaethau proffesiynol, gall staff ddewis dilyn llwybr am flwyddyn academaidd sy’n seiliedig ar feysydd i’w datblygu a’u chwilfrydedd naturiol.
Caiff pob llwybr ei gefnogi gan y tîm Addysgu a Dysgu canolog sy’n gweithio ar y cyd â thimau rheoli cyfadrannau a’r uwch dîm arweinyddiaeth.
