Mae Katie yn brentis garddwriaethwr addawol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru sydd wedi ennill bwrsariaeth i ddatblygu ei hastudiaethau

Symudodd Katie Cobley, myfyriwr garddwriaethol 19 oed yng Ngholeg Sir Gâr, o Ardal y Llynnoedd ar ôl sicrhau prentisiaeth yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Yn ddiweddar dyfarnwyd bwrsariaeth Colegrave Seabrook Foundation/RHS iddi - bwrsariaeth sy’n cefnogi garddwriaethwyr ifanc yn eu gyrfa.
Mae’r fwrsariaeth yn cynnig cymorth ariannol er mwyn astudio dramor neu gymryd rhan mewn cyrsiau garddwriaethol er mwyn datblygu ymhellach.
Mae Katie wedi bwcio lle ar gwrs adnabod planhigion trofannol ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn ddelfrydol hoffai fynd i Madeira i archwilio ei phlanhigion brodorol.
Gan ei bod wedi ei magu ar dyddyn, roedd tyfu llysiau a phlanhigion eraill yn dod yn reddfol iddi ac er ei bod wedi bwriadu mynd i astudio Rwseg a hanes yn y brifysgol, newidiodd hynny’n llwyr ar ôl iddi gymryd blwyddyn allan ar ôl gorffen yn yr ysgol.
Ar ôl teithio a gweithio yn Ffrainc ac Iwerddon yn archwilio ffawna a fflora brodorol penderfynodd Katie nad y brifysgol oedd y lle iddi hi.
Gwelodd hysbyseb am brentis garddwriaethol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac ar ôl y cyfweliad, cynigiwyd y swydd iddi.

Mae Katie yn gweithio yn y gerddi ac yn astudio un diwrnod yr wythnos ar gampws amaethyddol Coleg Sir Gâr yn y Gelli Aur lle mae’n astudio ar gyfer Tystysgrif lefel dau RHS mewn Egwyddorion Twf a Datblygiad Planhigion. “Mae’r cwrs yn cael ei addysgu’n dda ac mae’n ddefnyddiol fel atodiad i’r gwaith ymarferol yn y gerddi,” meddai Katie.
Ar hyn o bryd mae’n astudio gerddi treftadaeth a hanesyddol yn y coleg ac ar ddiwrnod astudio arferol, efallai y bydd yn astudio gwyddor planhigion yn y bore ac ecoleg a bioamrywiaeth yn y prynhawn.
Yn y gerddi, lle mae’n cwblhau prentisiaeth dwy flynedd, mae’n gweithio ar batrwm cylchdro o dri mis yn gweithio yn y tai gwydr ar hyn o bryd gyda phlanhigion suddlon De Affrica. Mae’n awyddus i ddysgu mwy ac mae ganddi ddiddordeb mewn rhedyn isdrofannol.
Meddai Katie Cobley: “Mae bod o gwmpas planhigion a byd natur yn rhan o bwy ydw i ac mae gen i ddiddordeb mawr yn niwylliant pentrefi a thyfu cymunedol.
“Ar ôl symud i Dde Cymru ar fy mhen fy hun, rydw i wedi llwyddo i wneud ffrindiau newydd hyfryd ac arbennig iawn yn y gerddi a dw i mor hapus - fyddwn i’n newid dim.”
Mae Katie yn ymgartrefu ym mywyd cymunedol Dryslwyn, mae’n dysgu Cymraeg ac yn paratoi i feirniadu yn sioeau blodau Llandeilo a Llanarthne.
Mae hi wedi ymrwymo’n llwyr i’w hastudiaethau garddwriaethol ac roedd hyd yn oed yn cysgu yn ei char pan aeth i Iwerddon i archwilio fflora’r gors a’i phlanhigion cigysol.