Meithrin Annibyniaeth Dramor: Myfyrwyr yn goresgyn tiroedd gwylltion Slofenia ar antur sy'n newid bywydau

Roedd y trip hwn yn fwy na thaith - roedd yn drawsnewidiad.” Martin Flear, darlithydd.
Mae myfyrwyr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion wedi dychwelyd o Slofenia, ar daith â’r nod o’u helpu i feithrin annibyniaeth, profi diwylliant newydd a herio eu hunain yng nghanol byd natur.
Dewiswyd Slofenia oherwydd ei thirweddau godidog o goedwigoedd, mynyddoedd a llynnoedd ac oherwydd ei bod yn hygyrch iawn.
Roedd y myfyrwyr a gymerodd ran yn cynnwys myfyrwyr sy’n astudio rhaglen Sgiliau Byw’n Annibynnol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn ogystal â myfyrwyr y cwrs sylfaen yng Ngholeg Sir Gâr.
Roedd tiwtoriaid y coleg eisoes wedi creu partneriaethau yn Idrija y llynedd lle cafodd cwmni o’r enw More to Explore, sy’n cael ei redeg gan gyn-athro yn y DU sydd â phrofiad o anghenion addysgol arbennig, y dasg o ddarparu pecyn pwrpasol a hygyrch ar gyfer myfyrwyr.

Fe gymerodd y grŵp ran mewn teithiau cerdded, nofio mewn afonydd, siopa mewn archfarchnadoedd lleol ac yna coginio yn yr hostel ieuenctid.
Fe wnaethon nhw hefyd heicio i gopa anhygoel, gyda golygfeydd ar draws ffawt Idrija tuag at Alpau Julian, nofio mewn rhaeadr a chymryd rhan mewn gweithdy yn Ysgol Les Idrija, yn gwneud breichledau cyfeillgarwch gan ddefnyddio technegau gwneud les traddodiadol.
Roedd safle treftadaeth y byd Sefydliad Addysg, Gwyddoniaeth a Diwylliant y Cenhedloedd Unedig (UNESCO) yn lleoliad arall ar yr amserlen, yn ogystal â rhannu noson pitsa a ffilm ar deras yr hostel a nofio yn llyn Bled ar y ffordd yn ôl i’r maes awyr.
Treuliodd y grŵp o 12 myfyriwr, pedwar tiwtor a Mikaela, arweinydd yr alldaith o More to Explore a chyn-ddarlithydd yng Ngholeg Sir Gâr, bedwar diwrnod yn archwilio mewn profiad cwbl drochol.
Disgrifiodd Cai, un o’r myfyriwr, y daith fel ‘pleser pur’, dywedodd Dan ei fod wedi mwynhau’r ‘gweithgareddau di-ben-draw’, dywedodd Zac fod y daith wedi’i helpu i fagu llawer mwy o hyder i deithio, gan sylweddoli ‘nad yw mor frawychus â hynny’ a disgrifiodd Hayley, a oedd wrth ei bodd yn y Caves of Wonder, y daith fel ‘anhygoel, hyfryd, heulog, twym ac anhygoel’.

Roedd hi’n bleser o’r mwyaf cael mynd â 12 o ddysgwyr anhygoel ag anghenion dysgu ychwanegol ar daith fythgofiadwy i Slofenia. Tanya Knight, Darlithydd.
“O nofio gwyllt a heicio i rannu prydau bwyd ac atgofion - fe wnaethon nhw fanteisio ar bob eiliad gyda dewrder, caredigrwydd a chwilfrydedd.
“Rydw i mor falch o’u datblygiad, eu hysbryd a’r ffordd y gwnaethon nhw gynrychioli ein coleg yn llawn angerdd.”
Ychwanegodd Martin Flear, darlithydd yng Ngholeg Sir Gâr: “Prin iawn yw’r profiadau ym myd addysg sydd wedi cyfateb i’r balchder a deimlais wrth wylio ein dysgwyr yn magu hyder, yn goresgyn eu hofnau, ac yn mynd i’r afael â’r byd y tu hwnt i’w parth cysur. I nifer ohonynt, dyma oedd y tro cyntaf iddynt hedfan mewn awyren - ond fe wnaethon nhw addasu’n anhygoel i bob rhan o’r daith. O nofio gwyllt mewn llynnoedd alpaidd i archwilio dyfnderoedd ogofâu Škocjan, roedd pob cam yn llwyddiant. Un foment arbennig oedd gweld un o’n dysgwyr yn llofnodi’r gofrestr - Vpisna knjiga za vrhove - yn falch ar ôl cyrraedd copa mynydd yn Alpau Julian. Roedd eu dewrder, eu positifrwydd, a’u parodrwydd i ymgymryd â phob her yn ysbrydoledig. Roedd y trip hwn yn fwy na thaith - roedd yn drawsnewidiad.”
Meddai Gareth Revell, darlithydd yng Ngholeg Ceredigion: “Roedd Slofenia yn lle gwirioneddol ysbrydoledig lle roedd dysgwyr yn wynebu eu hofnau, gan ddringo copa mynyddoedd, archwilio systemau ogofâu tanddaearol dwfn, a phlymio i ddyfroedd clir fel crisial. Drwy’r heriau hyn, fe wnaethon nhw ddod o hyd i gryfder nad oedden nhw’n ymwybodol ei fod ganddyn nhw. Wrth iddyn nhw goginio, canu, a chwerthin gyda’i gilydd yn yr hostel, a chefnogi ei gilydd trwy bob antur, ffurfiwyd cyfeillgarwch parhaus. Yn y broses, sylweddolodd y myfyrwyr fod y byd y tu hwnt i’w parthau cysur nid yn unig yn llai brawychus na’r hyn yr oedden nhw yn ei ddychmygu, ond ei fod yn llawn posibilrwydd, harddwch a chysylltiadau.”

Meddai Helen Edwards, pennaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS), Sylfaen a Dechrau Newydd: “Ein gweledigaeth oedd rhoi antur wirioneddol unigryw i ddysgwyr - cyfle i archwilio rhywle hollol newydd. I lawer o’n 12 dysgwr, dyma’r tro cyntaf erioed iddyn nhw deithio dramor, gan wneud y profiad hyd yn oed yn fwy cyffrous ac arwyddocaol. Dewisom Idrija yn Slofenia oherwydd ei harddwch naturiol godidog a’r cysylltiadau cryf rydyn ni wedi’u meithrin â’r gymuned leol ac wrth gwrs arbenigedd a sgiliau Mikaela. Er mwyn gwneud y daith mor rhwydd a grymusol â phosibl, fe wnaethon ni gynllunio pob manylyn yn ofalus er mwyn hybu annibyniaeth wrth dawelu pryderon. Roedd hyn yn cynnwys cymorth i fynd trwy’r maes awyr, staff pwrpasol ar gyfer sgyrsiau rheolaidd, ac amserlen glir a rennir ymlaen llaw. Roedd yr hyn a welais yn ddim byd llai na rhyfeddol. Rydw i’n arbennig o falch bod dau ddysgwr bellach yn bwriadu dychwelyd i Idrija i wirfoddoli, a mynegodd pob un dysgwr awydd i deithio mwy - a hwythau nawr yn teimlo’n hyderus ac yn gymwys i wneud hynny. Ni allwn fod yn fwy balch o bob un ohonynt.”