Myfyrwyr gradd yn arddangos eu prosiectau ymchwil ar les anifeiliaid

Bob blwyddyn, mae myfyrwyr gradd ar y cwrs ymddygiad a lles anifeiliaid yn ymchwilio i wreiddiau heriau bywyd go iawn o fewn y diwydiant, trwy eu prosiectau ymchwil unigol.
Mae’r prosiect ymchwil unigol, sy’n canolbwyntio ar faterion lles anifeiliaid, yn elfen ganolog o’r cwrs sy’n cael ei addysgu ar ddiwedd y cwrs gradd.
Gofynnir i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau penodol sy’n ymwneud â maes sydd o ddiddordeb personol iddyn nhw ac ysgrifennu traethawd hir yn seiliedig ar eu gwaith ymchwil a’u dadansoddiad a chreu poster yn amlinellu eu canfyddiadau.
Mae staff a myfyrwyr ar y campws yn cael eu hannog i ymweld â’r arddangosfeydd a thrafod eu canfyddiadau gyda myfyrwyr.
Roedd ymchwil eleni yn amrywio o dwristiaid a chrwbanod môr pendew yn Kefalonia i fioffilm ar ffermydd llaeth ac effaith cyfryngau cymdeithasol ar anifeiliaid sw.
Meddai Dr Stephanie Rees, darlithydd ar y cwrs gradd: “Mae’r prosiect ymchwil unigol yn helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau dadansoddi ac ymchwil uwch mewn maes y maen nhw’n teimlo’n frwd yn ei gylch.
“Mae’n caniatáu mewnbwn ymarferol ac academaidd ac mae bob amser yn wych cael gweld syniadau’r myfyrwyr bob blwyddyn.
“Roeddem wrth ein bodd yn gweld y grŵp hwn o fyfyrwyr ynghyd ag eraill, yn graddio gyda’u graddau anrhydedd ym mis Gorffennaf.”
Dewch i wybod mwy am y cwrs gradd BSc Anrhydedd Ymddygiad a Lles Anifeiliaid.
-
Yn dilyn taith coleg i Kefalonia y llynedd a ariannwyd gan Taith i astudio crwbanod môr pendew, sylwodd Grace ar nifer y twristiaid sy’n denu’r crwbanod môr i’r harbwr trwy eu bwydo â physgod.
Nid pysgod yw’r bwyd gorau i grwbanod môr oherwydd mai molysgiaid a chramenogion yw eu prif ddeiet, ac er bod pysgod yn fwyd gwerthfawr i grwbanod môr pendew, gall gorfwydo achosi i grwbanod môr fynd dros bwysau gan arwain at ddiffygion posibl ar yr afu, clefyd cardiofasgwlaidd a diffyg fitaminau.
Wrth gael eu denu i’r harbwr i fwydo ar bysgod, mae’r crwbanod môr hefyd mewn perygl o gael eu hanafu gan draffig yr harbwr neu gael eu dal mewn offer pysgota.
Cynhaliodd Grace ymchwil i ddarganfod faint o dwristiaid oedd yn ymwybodol o’r risgiau hyn ac anghenion maethol crwbanod môr a defnyddiodd blatfformau ar-lein er mwyn gwneud hynny. Defnyddiodd gwefannau fel ‘I Love Kefalonia’.
Nododd hefyd ddiffyg arwyddion i atal bwydo crwbanod môr yn harbwr Argostoli, lle’r aeth taith y coleg y llynedd.
Yn ystod ei chyfnod yn Kefalonia, cymerodd Grace ran mewn arolygon harbwr a snorcelu a chwiliodd am olion crwbanod môr er mwyn dod o hyd i leoliadau nythod. “Roedd yn brofiad oes,” meddai hi. “Profais bethau nad oeddwn i erioed yn meddwl y byddwn i yn eu gwneud. Dysgais gymaint o’r sgyrsiau a’r profiadau a gawson ni.
“Roeddwn i wedi bod allan o fyd addysg ers sbel cyn dechrau’r cwrs gradd hwn ac er fy mod i wedi wynebu ambell her bersonol ar hyd y ffordd, rydw i wedi ei fwynhau ac rydw i’n falch ohonof fy hun.”

-
Haen gludiog, budr sy’n dal bacteria mewn dŵr lle mae ein systemau dŵr yn aml yn mynd drwyddo yw bioffilm.
Mewn llety da byw, mae bioffilm yn aml yn cytrefu mewn cafnau dŵr, mannau cysgu a bwydo, gan greu cronfeydd ar gyfer e-coli, streptococcus a pseudomonas.
Aeth Amy ati i gynnal profion ar bedwar fferm wahanol a oedd wedi cytuno i gymryd rhan yn ei gwaith ymchwil gan ddefnyddio samplu amgylcheddol gan gynnwys swabiau, gwaed ac agarau cromogenig i nodi rhywogaethau pathogenig.
Gall organebau fel y rhain fod yn niweidiol i arferion ffermio oherwydd gallant arwain at fastitis, cyfrifiadau celloedd somatig uwch a cholli cynhyrchiant yn yr hirdymor.
Gyda chymorth Pruex, cwmni sy’n arbenigo mewn dulliau probiotig, cafodd y ffermydd drefn rheoli bioffilm wedi’i thargedu gan gynnwys triniaethau arwyneb ensymatig a chyfryngau gwahardd cystadleuol probiotig.
Cynhaliwyd y profion rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025 a rhoddwyd yr ymyriadau ar waith yn gyson dros gyfnod o chwe mis.
Meddai Amy Bowskill: “Yn aml, yr ymateb naturiol yw mynd ati i drin bioffilm â chlorin, ond mae hynny hefyd yn cael gwared ar y bacteria da.
“Yn yr astudiaeth, gallech weld lle roedd algâu yn cronni uwchben cyflenwad dŵr buches oherwydd bod y gwartheg yn yfed, yna’n fflicio’r dŵr allan o’u cegau.
“Fe wnaethon ni gymryd swabiau cyn y driniaeth a thrin yr ardaloedd â phrobiotegau ac roedd y canlyniadau yn dilyn y driniaeth yn sylweddol well.”
Dangosodd profion cychwynnol fod cafn ar un fferm wedi profi’n bositif am e-coli, streptococcus, bacillus ac organebau peryglus eraill ond erbyn mis Mawrth, roedd hyn yn 98:2 o blaid canlyniad cliriach.
Cafodd pum buwch â mastitis cronig eu cyflwyno i Amy hefyd ac yn dilyn y driniaeth, dangosodd pedair ohonynt arwyddion sylweddol o welliant.
Mae diffyg dŵr digonol a glân yn effeithio ar iechyd anifeiliaid a all yn y pen draw arwain at ddadhydradiad ac effeithio ar gynnyrch llaeth y fferm.
Er bod gan Amy brofiad o ffermio defaid, dyma ei chipolwg cyntaf ar ffermydd llaeth a heb unrhyw wybodaeth am fioffilm flwyddyn yn ôl, fe wnaeth canlyniadau’r profion danio angerdd ynddi.
Ychwanegodd Amy Bowskill: “Rydw i wedi magu tipyn o hyder o’r cwrs hwn; mae’n cynnig cymaint i bawb.
“Mae’n agored iawn ac yn cynnwys cymaint o bynciau gwahanol fel bioleg, lles a maeth ac ni fyddwn i fyth wedi cael profiad o weithio gyda microbioleg heb wneud y prosiect hwn.”

-
Mae Clare Bentley yn gweithio mewn canolfan gofal dydd i gŵn lle aeth ati i ymchwilio i’w gwasanaethau.
Wrth weithio yn y Dog House Day Care and Grooming yn Llansamlet, sylwodd Clare ar yr hyn sy’n cyfateb i’r ‘daith ysgol’ gyda chŵn, gyda phobl yn dod â’u cŵn cyn mynd i’r gwaith ac yn eu casglu ar eu ffordd adref.
Roedd ganddi ddiddordeb yng nghanfyddiadau pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth sy’n cynnwys gofal dydd, llety a thwtio cŵn.
A hithau’n frwdfrydig dros anifeiliaid, mae Clare yn astudio gradd ar ôl cwblhau cymwysterau lefel dau a thri mewn gofal anifeiliaid a rheoli anifeiliaid.
Rhoddodd yr ymchwil fewnwelediadau ystyrlon i gymhellion perchnogion cŵn a’u boddhad â’r gwasanaeth, gan ddatgelu newid pwyslais o bryderon ymarferol fel lleoliad ac amserlennu i ffocws dyfnach ar ansawdd gofal ac ymddiriedaeth emosiynol yn y gwasanaeth.
Rhoddodd y data syniad hefyd o sut roedd staff yn rhoi sylw i anghenion penodol fel math o got ac alergeddau, gan atgyfnerthu pwysigrwydd gofal personol yn unol â disgwyliadau’r diwydiant ar gyfer gwasanaethau wedi’u teilwra sy’n cydbwyso twtio â lles unigol.
Wrth sôn am ei chyfnod yn astudio’r radd, dywedodd Clare Bentley: “Mae yna rywbeth newydd i’w ddysgu o hyd gan fod cymaint o rywogaethau i’w hastudio, o bryfed i famaliaid morol, felly os ydych chi’n bwriadu cael swydd ym maes ecoleg neu swoleg, mae’n dda cael yr opsiwn i astudio ystod eang o anifeiliaid.”

-
Edrychodd Simon ar effaith cyfryngau cymdeithasol ar anifeiliaid mewn sŵau, yng Ngwlad Thai a’r Alban yn benodol.
Gan geisio penderfynu a yw effaith y cyfryngau cymdeithasol yn gadarnhaol neu’n negyddol, canolbwyntiodd Simon ar ddau hipopotamws pigmi a oedd yn cael sylw ar y cyfryngau cymdeithasol mewn sŵau.
Ganwyd Moo Ding yn sw agored Khao Kheow yng Ngwlad Thai, ac roedd yn seren ar y rhyngrwyd ar ôl i’w cheidwad bostio diweddariadau dyddiol amdani a gynyddodd i filoedd o bostiadau ar-lein.
Mewn cymhariaeth, yn sw Caeredin, cadwyd Haggis allan o lygad y cyhoedd am 30 diwrnod er mwyn iddi dreulio amser hanfodol yn creu perthynas gyda’i mam.
Denodd poblogrwydd ar-lein Moo Ding ymwelwyr i’r sw ond fe arweiniodd at ymddygiad a disgwyliadau negyddol hefyd, gyda rhai ymwelwyr yn taflu dŵr neu gregyn môr ati pan oedd hi’n cysgu yn ystod eu hymweliad.
Meddai Simon Burton: “Dw i’n credu y dylai sŵau bostio mwy o gynnwys addysgol ac egluro pam maen nhw’n gwneud yr hyn maen nhw’n ei wneud.
“Mae hipopotamysau pigmi mewn perygl yn y gwyllt felly mae cadwraeth yn allweddol er mwyn sicrhau eu parhad.”
Ar hyn o bryd mae Simon yn gweithio mewn iard i geffylau sydd wedi ymddeol ac mae ganddo ddiddordeb brwd mewn cadwraeth.

-
Mae Tegan wedi bod yn achub bochdewion ers pum mlynedd ac mae’n gweld thema gyffredin wrth i anifeiliaid anwes gael eu dychwelyd oherwydd cnoi bariau neu hyd yn oed gnoi pobl.
Gwelir yr arwyddion hyn yn gyffredin mewn amgylchedd llawn straen, yn aml pan nad yw meintiau’r cewyll yn ddigon mawr i sicrhau amgylchedd naturiol a hapus i fochdew.
Dewisodd y pwnc hwn yn dilyn ystyriaethau moesegol a godwyd yn 2024 gan aelodau’r cyhoedd yn y DU, gan arwain at ddeiseb i wahardd cewyll o faint annigonol. Ni weithredodd DEFRA ar hyn er gwaethaf mwy na 11,000 o lofnodion.
Mae ymchwil Tegan yn archwilio i weld a yw maint cawell yn cael effaith ymddygiadol ar lesiant y rhywogaeth ac i benderfynu a oes angen cyflwyno safonau gorfodol o ran meintiau cawell ar gyfer y brîd.
Meddai Tegan Thomas: “Eu cawell yw eu byd.
“Dylen nhw allu arddangos ymddygiadau naturiol fel twrio, efallai eu bod nhw’n fach ond dylai fod digon o le ganddyn nhw i ymarfer corff a chwarae er mwyn annog eu hymddygiad naturiol.”
Mae hi wir eisiau helpu’r achos ac mae’n bwriadu cyhoeddi ei chanfyddiadau ac edrych ar weithio ym maes cadwraeth neu ddadansoddi data yn ogystal â chefnogi prosiectau eraill sy’n gysylltiedig â lles anifeiliaid.
Ychwanegodd Tegan: “Mae cymaint o bryderon a phroblemau’n ymwneud â phobl yn rhoi eu hanifeiliaid am ddim ac eraill yn esgus eu mabwysiadu ond yn eu defnyddio fel porthiant byw yn lle hynny.
“Ar y cwrs, rydyn ni’n dysgu gwybodaeth fanwl am les a moeseg ac mae wedi fy helpu i weld sut mae pobl eraill yn gweld anifeiliaid y tu hwnt i’m teimladau personol fy hun a sut y gall cadwraeth helpu anifeiliaid a’r hyn y gallwn ni ei wneud fel cymdeithas i helpu a sut y dylem ni ofalu am ein planed.”
Fel un sydd wedi gweithio yn Pets at Home yn y gorffennol, mae gan Tegan fewnwelediad i’r diwydiant anifeiliaid anwes sydd wedi bod yn ddefnyddiol ar ei chwrs.
