Skip page header and navigation
A picture of Victoria wearing a black cardigan and maroon/black/white pattered top

Mae Victoria Holmes yn brentis cyfreithiol gyda Chyfreithwyr JCP a ddewisodd ddull dysgu seiliedig ar waith yn hytrach na llwybr prifysgol traddodiadol. 

Ar hyn o bryd mae hi’n gwneud cymhwyster proffesiynol lefel pump CILEX fel rhan o’i phrentisiaeth, sy’n cael ei gyflwyno ar gampws Bae Abertawe Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant.

Gwnaethon ni ofyn i Victoria am ei phrofiad prentisiaeth.

Beth daniodd eich diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y gyfraith a pham ei bod yn apelio atoch fel proffesiwn?

Taniwyd fy niddordeb yn y gyfraith yn wreiddiol o ganlyniad i wylio rhaglenni teledu a oedd yn canolbwyntio ar gyfraith droseddol - roeddwn i’n cael hyn yn ddiddorol iawn bob amser.

Wrth i mi fynd yn hŷn, des i i werthfawrogi cwmpas cyflawn gwahanol feysydd cyfreithiol. Mae’r gyfraith yn apelio ataf fel proffesiwn oherwydd  rwy’n cael y pwnc yn wirioneddol ddiddorol, ac mae gen i frwdfrydedd mawr ar gyfer datrys problemau.

Pam ddewisoch chi’r llwybr prentisiaeth a sut wnaethoch chi sicrhau eich swydd brentisiaeth gyfredol?

Dewisais i’r llwybr prentisiaeth gan nad oeddwn yn teimlo y byddai’r llwybr prifysgol traddodiadol yn fy siwtio i. Roeddwn i eisoes yn gweithio gyda Chyfreithwyr JCP pan ddechreuodd y cynllun prentisiaeth CILEX ac roedd yn rhywbeth roeddwn i’n awyddus i wneud oherwydd roeddwn i am symud ymlaen yn y gyfraith.
 

Sut mae eich profiad prentisiaeth wedi bod hyd yma? 

Mae’r brentisiaeth wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn arwyf wedi gwir fwynhau archwilio gwahanol feysydd y gyfraith ac ehangu fy ngwybodaeth.

Mae’r arholiadau wedi bod yn heriol, ond mae eu pasio wedi rhoi ymdeimlad gwirioneddol o foddhad i mi. Y gwersi mwyaf gwerthfawr rwyf wedi dysgu yw: yn gyntaf, pwysigrwydd gwneud y gwaith i gyflawni’r canlyniadau rydw i eisiau, ac yn ail, i gael ffydd ynof fi fy hunan fy mod yn gallu pasio a symud fy ngyrfa ymlaen.”

 

JCP Logo

Yr hyn mae cwmni Cyfreithwyr JCP yn dweud am brentisiaethau 

Mae cynnig prentisiaeth wedi dod â buddion sylweddol i JCP. Mae wedi caniatáu i ni fuddsoddi mewn datblygu talentau’r dyfodol, gan sicrhau bod ein cwmni yn parhau i dyfu gydag unigolion sydd wedi cael eu hyfforddi yn ein gwerthoedd craidd, prosesau, a safonau o’r cychwyn cyntaf. Mae prentisiaethau wedi gwella gallu ein tîm, wedi dod â phersbectifau ffres, ac wedi meithrin diwylliant o ddysgu a mentoriaeth ar draws adrannau.

Mae Victoria wedi cael effaith amlwg o fewn ein tîm eiddo preswyl. O reoli gohebiaeth gychwynnol â chleientiaid i gynorthwyo gyda drafftio dogfennau a chydlynu chwiliadau, mae Victoria yn aelod dibynadwy a gwerthfawr o’r tîm. Mae ei hagwedd ragweithiol a’i pharodrwydd i ddysgu wedi helpu ysgafnu pwysau baich achosion yn ystod cyfnodau prysur, ac ar yr un pryd gwella llif gwaith cyffredinol y tîm. Yn ogystal, mae ei thwf a’i datblygiad wedi ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Brentisiaid Cyfreithiol sy’n ymuno â’r tîm. 

Rhagor o wybodaeth am brentisiaethau mewn Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae’r cyrsiau lefel tri a lefel pump yn cael eu cyflwyno ar gampws Bae Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Coleg Sir Gâr sy’n cyflwyno fframwaith y brentisiaeth lle neilltuir ymgynghorydd hyfforddi i bob prentis fel mentor i gynnig cefnogaeth, arweiniad a dilyniant.

Mae’r ddwy raglen yn rhaglenni rhan-amser a chânt eu hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru. 

Bydd dysgwyr yn ymgymryd â chymhwyster proffesiynol CILEX fel rhan o’r brentisiaeth.

Cysylltwch â Lydia.david@colegsirgar.ac.uk am ragor o fanylion.

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau