Taith myfyrwyr teithio a thwristiaeth i Fietnam yn ‘newid bywyd’

Yn ddiweddar, mae myfyrwyr teithio a thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr wedi dychwelyd o’r hyn maen nhw’n ei ddisgrifio fel “ymweliad sy’n newid bywyd” â Fietnam.
Aeth y daith wyth diwrnod, a ariannwyd gan Taith, ag wyth myfyriwr i Ddinas Ho Chi Minh a’u cysylltu’n benodol â Choleg Technoleg Thu Duc (TDC).
Mae Dr Andrew Cornish, pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Sir Gâr, wedi bod yn datblygu cysylltiadau â Fietnam dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Yn ystod yr ymweliad, llofnododd femorandwm cyd-ddealltwriaeth, a oedd yn rhan o ddigwyddiad arbennig gyda gwesteion arbennig yn bresennol, gan gynnwys Conswl Prydain, Llysgennad Prydain a thimau newyddion teledu lleol.
Meddai Beverley James, darlithydd teithio a thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr: “Mae’r daith hon wedi bod yn brofiad sydd wedi newid bywydau ein myfyrwyr.
“Mae’r effaith wedi bod yn anhygoel - rydym wedi cael negeseuon diffuant gan rieni yn dweud wrthym fod eu pobl ifanc wedi dod yn ôl yn fwy hyderus, brwdfrydig, ac yn llawn uchelgais. Mae sawl un bellach yn ystyried cymryd blwyddyn i ffwrdd, teithio yn y dyfodol, ac yn edrych ymlaen at archwilio gyrfaoedd yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.
“Mae ein myfyrwyr wedi datblygu’n bersonol ac yn academaidd o ganlyniad i’r profiad trochol hwn. Roedd yn fraint cael archwilio diwylliant a hanes cyfoethog Fietnam, yn enwedig ei weld trwy lygaid y bobl leol yn amgueddfa y War Remnants Museum. Roedd y caredigrwydd a’r lletygarwch a gawsom yn fythgofiadwy. Mae profiadau fel hyn yn dod â’r cwricwlwm yn fyw ac yn cynnig persbectif byd-eang i’n dysgwyr sy’n amhrisiadwy yn y byd sydd ohoni. Rydym yn falch o gynnig cyfleoedd fel y rhain sy’n ysbrydoli, yn addysgu ac yn grymuso ein myfyrwyr.”
Treuliodd y myfyrwyr ddau ddiwrnod yn TDC lle bu unigolion o Fietnam a Chymru yn cymryd rhan mewn diwrnod diwylliannol. Buont yn canu ac yn arddangos dawnsfeydd traddodiadol ac yn rhannu eu hieithoedd, gan gynnwys Fietnameg, Saesneg a Chymraeg.
Cawsant gyfle i ymweld â’r pagodas, dringo cerflun Crist o Vũng Tàu a phrofi Twneli Củ Chi ac ymweld ag amgueddfa y War Remnants Museum.
Meddai’r fyfyrwraig teithio a thwristiaeth Mia Bowskill: “Roedd teithio i Fietnam yn fwy na dim ond taith; roedd yn brofiad a newidiodd fy mywyd. Dyma’r tro cyntaf i mi deithio heb fy nheulu, ac roedd gen i emosiynau cymysg: cyffro, diolchgarwch, ofn ac ansicrwydd.
“Roedd cael y cyfle unwaith mewn oes hwn yn dipyn o anrhydedd, ond roedd rhan ohonof yn meddwl tybed a oeddwn i’n barod. Rydw i wedi wynebu fy siâr o frwydrau personol, ac roeddwn i’n cwestiynu sut y byddwn i’n ymdopi mor bell o adref, mewn lle cwbl anghyfarwydd.
“Ond weithiau, yr unig beth sydd ei angen yw rhoi naid i’r tywyllwch, gyda’r bobl iawn wrth eich ochr, i ddangos beth allwch chi ei wneud go iawn.
“O’r eiliad y cyrhaeddais Fietnam, cefais brofiadau a agorodd fy nghalon a’m meddwl. Cefais fy nhrochi mewn diwylliant mor gyfoethog o ran hanes a gytnwch nes gwneud i mi fyfyrio’n ddwfn ar fy niwylliant fy hun. Dysgais i werthfawrogi nid yn unig harddwch gwlad arall, ond cryfder tawel fy ngwreiddiau fy hun. Sylweddolais fod ein diwylliant, ein hiaith a’n treftadaeth Gymreig yn rhywbeth i fod yn falch ohonynt - a gwneud hynny’n hyderus.
“Gwnaeth Fietnam fy nysgu i fod yn bresennol, i fod yn ddiolchgar, a pheidio byth â diystyru grym caredigrwydd. Fe wnes i gyfarfod â phobl a oedd mor barod i rannu: eu straeon, eu hamser, eu haelioni. Roedd yn fy atgoffa o’r cyswllt sydd rhyngom ni i gyd, ni waeth o ble rydyn ni’n dod.
“Un o’r gwersi mwyaf pwerus rydw i wedi’i dysgu yw bod teithio’n eich newid chi. Nid yr un person sy’n dychwelyd. Fe wnes i ddarganfod cryfder ynof fy hun nad oeddwn i’n gwybod ei fod yno. Fe wnes i ddarganfod, gyda’r amgylchedd a’r gefnogaeth gywir, fy mod i’n gallu addasu, datblygu, a ffynnu hyd yn oed.
“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ddiwyro fy nhiwtoriaid, Bev a Mags. Cefais gymaint o hyder oherwydd eu ffydd ynof fi, cyn, yn ystod, ac ar ôl y daith. Nid yn unig y gwnaethon nhw fy nghefnogi; fe wnaethon nhw fy helpu i weld fy mhotensial fy hun a sylweddoli mod i’n gallu gwneud y pethau rydw i eisiau eu gwneud mewn bywyd.
Ychwanegodd Mags Walters, darlithydd teithio a thwristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr: “Cawsom amser anhygoel yng nghwmni’r bobl wych y gwnaethon ni gyfarfod yno.
“Mae’n ddiwylliant tebyg iawn i’n diwylliant ni gan fod pobl Fietnam yn falch iawn o’u diwylliant, eu bwyd a’u hanes.”

“Un o’r gwersi mwyaf pwerus rydw i wedi’i dysgu yw bod teithio’n eich newid chi. Nid yr un person sy’n dychwelyd. Fe wnes i ddarganfod cryfder ynof fy hun nad oeddwn i’n gwybod ei fod yno. Fe wnes i ddarganfod, gyda’r amgylchedd a’r gefnogaeth gywir, fy mod i’n gallu addasu, datblygu, a ffynnu hyd yn oed.” Mia Bowskill

“Gwnaeth Fietnam fy nysgu i fod yn bresennol, i fod yn ddiolchgar, a pheidio byth â diystyru grym caredigrwydd. Fe wnes i gyfarfod â phobl a oedd mor barod i rannu: eu straeon, eu hamser, eu haelioni. Roedd yn fy atgoffa o’r cyswllt sydd rhyngom ni i gyd, ni waeth o ble rydyn ni’n dod. Mia Bowskill, Myfyriwr Teithio a Thwristiaeth