Polisi Ymddygiad Cadarnhaol 2024 - 2026
Introduction
-
- 1.1 Mae’r Coleg yn cydnabod bod ganddo ddyletswydd i hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol ac i greu ethos o barch, goddefgarwch a dinasyddiaeth ymhlith cymuned y Coleg.
- 1.2 Mae’r Coleg yn cydnabod y bydd yna achosion lle mae angen camau disgyblu er mwyn gwarchod hawliau dysgwyr, staff, ymwelwyr a’r gymuned ehangach.
- 1.3 Diben y Polisi Disgyblu hwn yw gosod gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cael eu cefnogi a’u trin yn deg, yn gyson ac mewn modd amserol.
-
-
2.1 Nodir y prif ddisgwyliadau o ran ymddygiad dysgwyr yng Nghod Ymddygiad y dysgwyr. Bydd canllawiau eraill ar gyfer ymddygiad dysgwyr yn cael eu cyhoeddi yn ôl yr angen a’u cymeradwyo gan dîm adran Weithredol y Coleg.
-
2.2 Mae Cod Ymddygiad y Dysgwyr wedi’i seilio ar 3 phrif egwyddor:
-
Yn barod
-
Parch
-
Byddwch yn Ddiogel
-
-
2.3 Nid yw Cod Ymddygiad y dysgwyr yn rhestr gynhwysfawr ac mae’r Coleg yn cadw’r hawl i roi cosbau am dramgwyddau eraill y mae’n credu eu bod yn groes i ysbryd y Côd Ymddygiad.
-
2.4 Mae’r Polisi Ymddygiad Cadarnhaol hwn yn berthnasol i’r holl ddysgwyr sydd wedi’u cofrestru yng Ngholeg Sir Gâr / Coleg Ceredigion. Mae hyn yn cynnwys dysgwyr llawn amser a rhan-amser; dysgwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni Dysgu Seiliedig ar Waith a dysgwyr Addysg Uwch.
-
2.5 Mae dysgwyr Addysg Uwch hefyd yn ddarostyngedig i’r rheoliadau a nodir yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd PCYDDS.
-
2.6 Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i roi cosbau disgyblu am dramgwyddau sy’n digwydd i ffwrdd o’r Coleg (neu ar-lein) lle mae gan weithredoedd o’r fath y potensial i ddwyn anfri ar y Coleg neu i effeithio ar ddiogelwch a / neu hawliau dysgwyr eraill, staff neu ymwelwyr.
-
2.7 Mae gan bob aelod o staff a phob dysgwr rôl i’w chwarae wrth hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel.
-
2.8 Mae cymhwyso’r Polisi Ymddygiad Cadarnhaol yn gyson yn allweddol i hyrwyddo safonau ymddygiad uchel. Bydd Timau Rheoli’r Coleg yn sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o’r polisi ac yn deall yr egwyddorion sy’n sail i’w gymhwyso.
-
2.9 Bydd y Coleg yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod dysgwyr yn cael gwybod am, ac yn deall, y disgwyliadau a nodir yn y Côd Ymddygiad ac unrhyw ganllawiau eraill.
-
2.10 Ymdrinnir ag achosion mân o dorri rheolau’r Côd Ymddygiad yn anffurfiol. Fel rheol, bydd achosion mwy difrifol o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad yn arwain at Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol. (gweler yr atodiad am enghreifftiau)
-
2.11 Mae’r Coleg yn cydnabod yr angen i gymhwyso ei Bolisi Ymddygiad Cadarnhaol gan ddefnyddio barn broffesiynol, a thrwy lens Ystyriol o Drawma gan ystyried amgylchiadau personol ac esgusodol. Bydd y Coleg hefyd yn gwneud “addasiadau rhesymol” wrth gymhwyso’r polisi hwn lle mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud hynny’n ofynnol.
-
2.12 Hefyd rhoddir ystyriaeth i fesurau cefnogol ar gyfer dysgwyr sy’n destun camau disgyblu. Gallai hyn gynnwys cefnogaeth mentor, cynghori, cefnogaeth gan Diwtoriaid Personol neu atgyfeiriadau i asiantaethau allanol.
-
2.13 Bydd y Coleg yn arfer ei hawliau o dan y polisi hwn yn seiliedig ar egwyddorion tegwch, tryloywder, yr angen i wrando ar bob parti a’r angen i ddod i benderfyniad mewn modd amserol.
-
2.14 Gall panel Diogelu’r Coleg wneud penderfyniad i wahardd / tynnu nôl dysgwyr lle mae gan y panel reswm i gredu na ellir eu perswadio’n ddigonol eu bod yn gallu cyflawni eu Dyletswyddau Diogelu i’r Coleg.
-
2.15 Gellir cynnal /cyfathrebu unrhyw ran o’r Broses Ymddygiad Cadarnhaol yn y Gymraeg neu yn Saesneg ac ni chaiff y naill iaith na’r llall ei thrin yn llai ffafriol.
-
2.16 Mae’n ofynnol i ddysgwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni / cyrsiau astudio â ffocws proffesiynol arddangos ymddygiad proffesiynol priodol yn ystod eu hastudiaethau (yn fewnol ac ar leoliad). Dyma ymddygiad sydd:
-
yn cydymffurfio â’r cod ymddygiad proffesiynol neu’r ymarfer perthnasol;
-
yn gyson â’r ymddygiad sy’n ofynnol gan y proffesiwn perthnasol a gan gyflogwyr y staff proffesiynol hynny;
-
nad yw’n peryglu na’n amharu ar fudd, lles na diogelwch pobl eraill, gan gynnwys y rheini o fewn cymuned y Coleg, staff proffesiynol, cleifion, disgyblion, cleientiaid, neu aelodau’r cyhoedd; a
-
nad yw’n peryglu na’n amharu ar fudd, lles na diogelwch y dysgwr ei hun; sy’n sicrhau hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.
-
-
-
-
3.1 Mae’r broses ddisgyblu yn cynnwys y lefelau canlynol:
- Anffurfiol - Yn y lle cyntaf dylai unrhyw aelod staff sy’n gweld ymddygiad neu ddigwyddiad sy’n torri rheolau cod ymddygiad y coleg geisio datrys y broblem i ddechrau, yna dylent wneud nodyn ac adrodd amdano wrth yr aelod staff sy’n gyfrifol am y grŵp dysgwyr (Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs, Anogwr Bugeiliol, Ymgynghorydd Hyfforddi neu Arweinydd Rhaglen) a fydd bob amser yn bwynt cyswllt cyntaf a bydd yn rheoli ymddygiad gan ystyried unrhyw anghenion ychwanegol o eiddo’r dysgwyr. Gall hyn gynnwys cyfeirio neu weithio gyda budd-ddeiliaid allanol a gwasanaethau cefnogi ( er enghraifft rhieni / gwarcheidwaid / gweithwyr cefnogi ) - does dim rhaid i hyn fod drwy achos pryder. Disgwylir y bydd cyfarfod cefnogi’n cael ei gynnal unwaith bod dysgwr yn derbyn tri achos pryder gan yr aelod staff sy’n gyfrifol am y grŵp.
Bydd pob dysgwr yn cael tiwtorial, ble caiff gyfleoedd i ddysgu am ddatblygiad personol a materion amserol a bydd yn cael sesiynau 1 i 1 i fonitro ac olrhain cynnydd. Mae hwn yn gyfle i roi unrhyw gamau cefnogol yn eu lle. - Nodiadau Achos Pryder - Mae’r rhain ar gyfer cofnodi achosion mân o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad
• Ffurfiol - Dim ond ar ôl gorffen canfod ffeithiau y gellir penderfynu ar lefel hyn.- Cam 1 - Cam anffurfiol yw hwn a bydd yn cynnwys cyfarfodydd cefnogi.
- Cam 2 - Mae’n cynnwys rhybudd ysgrifenedig cyntaf ar gyfer cofnodi tor-rheolau mwy difrifol
- Cam 3 - Mae’n cynnwys rhybudd ysgrifenedig terfynol ar gyfer cofnodi tor-rheolau difrifol a sylweddol.
- Cam 4 - Mae’n cynnwys panel cynhwysiant a gallai arwain at waharddiad ar gyfer materion y bernir eu bod yn “gamymddwyn difrifol”
- Anffurfiol - Yn y lle cyntaf dylai unrhyw aelod staff sy’n gweld ymddygiad neu ddigwyddiad sy’n torri rheolau cod ymddygiad y coleg geisio datrys y broblem i ddechrau, yna dylent wneud nodyn ac adrodd amdano wrth yr aelod staff sy’n gyfrifol am y grŵp dysgwyr (Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs, Anogwr Bugeiliol, Ymgynghorydd Hyfforddi neu Arweinydd Rhaglen) a fydd bob amser yn bwynt cyswllt cyntaf a bydd yn rheoli ymddygiad gan ystyried unrhyw anghenion ychwanegol o eiddo’r dysgwyr. Gall hyn gynnwys cyfeirio neu weithio gyda budd-ddeiliaid allanol a gwasanaethau cefnogi ( er enghraifft rhieni / gwarcheidwaid / gweithwyr cefnogi ) - does dim rhaid i hyn fod drwy achos pryder. Disgwylir y bydd cyfarfod cefnogi’n cael ei gynnal unwaith bod dysgwr yn derbyn tri achos pryder gan yr aelod staff sy’n gyfrifol am y grŵp.
-
-
- 4.1 Ymdrinnir ag achosion mân o dorri’r Cod Ymddygiad yn anffurfiol a chofnodir hynny ar y system Gwybodaeth myfyrwyr ynghyd â chynllun gweithredu os oes angen.
- 4.2 Gall unrhyw aelod o staff roi nodyn Achos Pryder a bydd Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs, Ymgynghorydd Hyfforddi neu debyg yn trafod hyn gyda’r dysgwr.
- 4.3 Bydd Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs, Darlithydd, Ymgynghorydd Hyfforddi neu debyg yn ymdrin ag achosion mân o dorri’r cod ymddygiad dro ar ôl tro ac mae’n ofynnol iddynt gynhyrchu cynllun gweithredu (gweler Atodiad 5) a chyfathrebu â rhieni lle bo’n briodol.
- 4.4 Ymdrinnir â thorri’r Cod Ymddygiad yn barhaus trwy Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol.
- 4.5 Fel rheol bydd tri Nodyn Achos Pryder gwahanol o fewn un hanner tymor yn cael eu trin fel “achosion mân o dorri rheolau dro ar ôl tro” a bydd y Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs. Anogwr Bugeiliol, Ymgynghorydd Hyfforddi neu Arweinydd Rhaglen yn cyfeirio unigolion at dimau Rheoli Cwricwlwm ar gyfer camau gweithredu priodol.
- 4.6 Caiff staff sy’n delio gyda dysgwyr sydd wedi derbyn 3 neu fwy o nodiadau achos pryder eu hannog i nodi p’un a oes unrhyw anghenion dysgu ychwanegol neu drawma a all fod angen addasiadau rhesymol.
- 4.7 Bydd staff yn arfer barn broffesiynol wrth ystyried a ddylid cyfeirio “achosion mân o dorri rheolau dro ar ôl tro” ar gyfer camau gweithredu mwy ffurfiol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried anghenion dysgu unigol y dysgwyr ac unrhyw amgylchiadau personol ac esgusodol gan gynnwys trawma yn y gorffennol. Rhaid i staff drafod achosion unigol gyda’r tîm Cefnogi Dysgwyr (Lles) neu’r tîm Cymorth Dysgu (ADY) os oes unrhyw bryder ynghylch priodoldeb dilyn camau disgyblu mwy ffurfiol.
- 4.8 Bydd Timau Rheoli Maes Cwricwlwm yn gyfrifol am fonitro cofnodion ar y system Gwybodaeth Myfyrwyr er mwyn sicrhau cysondeb.
- 4.9 Wrth atgyfeirio i gam disgyblu ffurfiol, mae angen i’r Tiwtor Personol, Tiwtor Cwrs. Anogwr Bugeiliol, Ymgynghorydd Hyfforddi neu Arweinydd Rhaglen gysylltu â rhieni / gofalwyr y dysgwr (os yw dan 18 oed) neu ddysgwr mewn perygl.
-
- Dim ond ar ôl canfod ffeithiau y gellir pennu lefel disgyblu ffurfiol ac yna rhoddir argymhelliad ynghylch ar ba gam y mae angen gwrando ar yr achos disgyblu (os caiff yr achos ei gadarnhau).
Penodir aelod staff i weithredu fel Swyddog Canfod Ffeithiau (FFO).- Ar gyfer honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Cyntaf, fel arfer y Tiwtor personol, Tiwtor cwrs neu’r Ymgynghorydd Hyfforddi fydd y Swyddog Canfod Ffeithiau (FFO).
- Ar gyfer honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Terfynol fel arfer aelod o Dîm Rheoli’r Maes Cwricwlwm fydd y Swyddog Ymchwilio.
- Ar gyfer honiadau sy’n debygol o arwain at Waharddiad fel arfer aelod o Dîm Rheoli’r Cwricwlwm fydd y Swyddog Canfod Ffeithiau (FFO).
- Rhaid i’r FFO a’r Swyddog Disgyblu (DO) geisio cyngor gan y timau Lles ac ADY er mwyn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu bodloni os caiff addasiadau rhesymol eu nodi.
- Fe fydd yna achlysuron pan y FFO efallai yw’r DO hefyd. e.e. lle bydd y canfod ffeithiau yn penderfynu bod angen delio â hyn ar lefel wahanol.
- 5.1 Gwneir y penderfyniad i fynd ymlaen i gyfarfod ffurfiol ar gam perthnasol y broses Disgyblu Ffurfiol ar ôl cynnal ymarfer canfod ffeithiau yn unig.
- 5.2 Wrth wneud y penderfyniad i fynd ymlaen i gam perthnasol y broses Disgyblu Ffurfiol, bydd y canllawiau a amlinellir (yn adran 6) isod yn cael eu defnyddio fel canllaw i bennu cam priodol y broses a’r canlyniad posibl.
- 5.3 Fel rheol yr aelod staff perthnasol a enwir isod fydd y Swyddog Disgyblu (DO) o fewn y broses Disgyblu Ffurfiol.
- 5.3.1 Cam 2 - Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf - Pennaeth Cwricwlwm neu Bennaeth Cynorthwyol Cwricwlwm (DO).
- 5.3.2 Cam 3 - Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol - Cyfarwyddwr Cynorthwyol (DO)
Mae’r canlynol ar gyfer arweiniad yn unig a gall amrywiadau gael eu cytuno rhwng y Penaethiaid Cwricwlwm, y Cyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr neu’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm. Fe all fod achlysuron pan y FFO efallai yw’r DO hefyd. e.e. lle bydd y canfod ffeithiau yn penderfynu bod angen delio â hyn ar lefel wahanol.
- 5.3.3 Panel Cynhwysiant - y Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr (DO) ynghyd â dau reolwr arall o’r Coleg.
- 5.4 Ar bob cam, lle nodir angen dysgu ychwanegol neu angen cefnogaeth rhaid i chi gynnwys aelod staff o’r tîm ADY a/neu’r Tîm Lles yn y cyfarfodydd, i gefnogi’r dysgwr ac i roi cyngor ar unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen.
- 5.5 O fewn y cyfarfodydd Ffurfiol bydd y swyddog canfod ffeithiau (FFO) yn cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu’r ffeithiau (Adroddiad Canfod Ffeithiau - FF) a’r dystiolaeth sy’n cefnogi camau gweithredu ffurfiol gan ddefnyddio templed y coleg.
Fel arfer bydd yr adroddiad FF yn cynnwys:- Cyfweliadau / Datganiadau gyda dysgwyr; rhaid i’r dysgwr sy’n destun ymchwiliad gael y cyfle i gyflwyno datganiad neu roi cyfweliad cyn unrhyw gyfarfod ffurfiol;
- Cyfweliad / Datganiadau gyda thiwtoriaid cwrs ac unrhyw aelodau staff perthnasol eraill;
- Gwybodaeth oddi wrth System Gwybodaeth Myfyrwyr - Presenoldeb, pryderon cyffredinol, proffil academaidd, lles neu ADY;
- Crynodeb o dystiolaeth;
- Penderfyniad y Swyddog Canfod Ffeithiau (FFO) ar ba gam o’r broses ymddygiad cadarnhaol dylai fod.
- 5.6 Darperir cyfathrebiad ysgrifenedig i ddysgwr yn ei wahodd i gyfarfod neu banel ar unrhyw gam y broses Disgyblu Ffurfiol. Bydd y cyfathrebiad yn darparu:
- Gwahoddiad ysgrifenedig i’r cyfarfod gan nodi’r rheswm dros weithredu ffurfiol;
- Adroddiad Canfod Ffeithiau (Caiff hwn ei dynnu nôl);
- Copi o’r polisi.
(Noder, rhaid cynnwys holl anghenion dysgu unigol dysgwr yn y cyfathrebiad sy’n cael ei rannu- Gofynnwch am gyngor gan y tîm ADY neu’r tîm Lles ar y ffordd fwyaf priodol i gyfathrebu gyda’r dysgwr).
- 5.7 Dylid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o unrhyw gyfarfod Disgyblu Ffurfiol gydag o leiaf 2 ddiwrnod gwaith o rybudd o’r cyfarfod.
- 5.8 Anfonir copïau o unrhyw ohebiaeth i rieni / gofalwyr unrhyw ddysgwr sydd dan 18 oed neu ddysgwr sydd mewn perygl. ar yr un pryd.
DIFFINIAD O OEDOLYN MEWN PERYGL
Unrhyw berson sy’n 18 oed neu hŷn sydd angen neu a all fod angen gwasanaethau gofal y gymuned oherwydd problemau iechyd meddwl, anableddau dysgu neu gorfforol, nam ar y synhwyrau, oedran neu afiechyd, ac sy’n methu neu a all fod yn methu gofalu am ei hunan neu ddiogelu ei hunan rhag niwed arwyddocaol neu gael ei ecsbloetio’n ddifrifol.
- 5.9 Rhaid i ddysgwr sy’n methu mynychu cyfarfod ar unrhyw gam y broses Disgyblu Ffurfiol gysylltu â’r rheolwr sy’n ei gynnal a gweld a ellir trefnu dyddiad neu amser amgen. Mae gan y rheolwr sy’n cynnal y broses yr awdurdod i roi apwyntiad arall ar gyfer y cyfarfod fel y gwêl yn ddoeth.
- 5.10 Lle mae dysgwr yn methu mynychu cyfarfod ar unrhyw gam y broses Disgyblu Ffurfiol, heb ddod i gysylltiad, mae gan y rheolwr sy’n cynnal y cyfarfod yr awdurdod i glywed yr achos yn ei absenoldeb.
- 5.11 Bydd y Swyddog Canfod Ffeithiau (FFO) yn cyflwyno crynodeb o’r adroddiad yn y cyfarfod. Bydd y Swyddog Disgyblu (DO) sy’n cynnal y cyfarfod yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y dysgwr yn deall a’r canlyniadau posibl.(Noder fod angen cynnwys anghenion dysgu unigol y dysgwr yn y cyfathrebiad sy’n cael ei rannu)
- 5.12 Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gofyn i’r Swyddog Disgyblu (DO) wneud addasiadau rhesymol i’r broses ar gyfer angen dysgu penodol.
- 5.13 Bydd penderfyniadau a wneir yn dilyn unrhyw gyfarfod ffurfiol ar unrhyw gam o’r broses yn seiliedig ar yr egwyddor o bwysau tebygolrwydd. Nid yw’n fwriad bod yn rhaid profi honiadau “tu hwnt i bob amheuaeth resymol”.
- 5.14 Ar unrhyw gam o fewn y broses gall y rheolwr sy’n cynnal y cyfarfod hysbysu’r partïon ei fod am gymryd 3 diwrnod gwaith i ddod i benderfyniad.
- 5.15 Bydd canlyniadau’r cyfarfodydd o unrhyw gam o’r broses Disgyblu Ffurfiol yn cael eu cyfathrebu’n ysgrifenedig i’r dysgwr, a rhieni / gofalwyr os dan 18 oed, o fewn 3 diwrnod gwaith i’r penderfyniad. Bydd y canlyniadau’n cael eu cofnodi ar y system cofnodion myfyrwyr. Y rheolwr sydd wedi cynnal y broses fydd yn cofnodi’r rhybuddion ar y system. Hefyd caiff copïau o’r canlyniadau eu rhannu gydag unrhyw asiantaeth gefnogi yn ôl disgresiwn y dysgwr neu bryderon diogelwch cysylltiedig.
- 5.16 Rhaid gofyn i ddysgwyr a ydynt yn dymuno i’w proses Ddisgyblu gael ei chynnal yn Gymraeg a rhaid darparu’r gwasanaeth hwn os dyna yw eu dymuniad.
- Dim ond ar ôl canfod ffeithiau y gellir pennu lefel disgyblu ffurfiol ac yna rhoddir argymhelliad ynghylch ar ba gam y mae angen gwrando ar yr achos disgyblu (os caiff yr achos ei gadarnhau).
-
- 6.1 Darperir yr enghreifftiau canlynol fel arweiniad wrth ystyried lefel y gwrandawiad neu’r gosb i’w rhoi am dor-rheolau nodweddiadol y Côd Ymddygiad. Ni fwriedir i’r rhestr fod yn gynhwysfawr. Bydd rheolwyr yn ystyried difrifoldeb ac effaith unrhyw dor-rheolau honedig ar ddysgwyr, staff a’r Coleg wrth benderfynu pa lefel o gosb i’w rhoi.
- 6.1.1CAM 2 - RHYBUDD YSGRIFENEDIG CYNTAF -
- Fel arfer, ond nid yn hollol, darperir y rhain ar gyfer:
- achosion mân o dorri rheolau’r Cod Ymddygiad dro ar ôl tro;
- absenoldeb yn is na tharged y Coleg, heb esboniad digonol, mewn cyfnod o 4-wythnos;
- fêpio yn yr adeilad a/neu fêpio’n gyson y tu allan i ardaloedd dynodedig;
- ysmygu’r tu allan i ardaloedd dynodedig;
- gollwng sbwriel;
- ymddygiad anghwrtais ac aflonyddgar;
- torri rheoliadau gyrru a pharcio;
- torri rheolau polisi Cyfryngau Cymdeithasol a/neu bolisi TG y Coleg;
- torri rheolau canllawiau ymddygiad yn ymwneud â chludiant, defnyddio’r llyfrgell / Canolfannau Adnoddau Dysgu, mannau cymdeithasol, ac ati.
- 6.1.2 CAM 3 - RHYBUDD YSGRIFENEDIG TERFYNOL
- Fel arfer, ond nid yn hollol, darperir y rhain ar gyfer:
- methu gwneud gwelliant neu ailadrodd tor-rheolau wnaeth arwain at rybudd blaenorol;
- iaith neu ymddygiad sarhaus neu wahaniaethol;
- gweithredoedd sy’n dwyn anfri ar y Coleg
- ymddygiad bygythiol;
- llên-ladrad;
- twyll (gan gynnwys ffugio llofnodion i gael taliadau LCA);
- torri rheolau’n ymwneud â lleoliad gwaith;
- iaith neu ymddygiad sy’n cael effaith sylweddol ar ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr neu’r gymuned ehangach;
- gweithredoedd neu ymddygiad sy’n peri risg i ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr neu’r gymuned ehangach.
- 6.1.3 PANEL CYNHWYSIANT - GWAHARDDIAD AM GAMYMDDWYN DIFRIFOL
- FEL ARFER, ond nid yn hollol, darperir y rhain ar gyfer:
- methu gwneud gwelliant yn dilyn rhybudd ysgrifenedig terfynol;
- ailadrodd gweithredoedd wnaeth arwain at Rybudd Ysgrifenedig Terfynol;
- trais;
- dwyn;
- gweithredoedd difrifol o wahaniaethu;
- gweithredoedd difrifol o fwlio neu aflonyddu;
- gweithrediadau difrifol sy’n dwyn anfri ar y Coleg;
- tor-rheolau difrifol i bolisi TG neu bolisi cyfryngau cymdeithasol y Coleg;
- ymddygiad rhywiol difrifol amhriodol neu dramgwyddus
- difrodi eiddo’r Coleg yn fwriadol;
- analluogrwydd difrifol oherwydd alcohol neu fod o dan ddylanwad cyffuriau anghyfreithlon, neu fod â chyffuriau anghyfreithlon yn eu meddiant;
- esgeulustod sy’n achosi colled, difrod neu anaf difrifol.
- iaith neu ymddygiad sy’n peri risg difrifol a sylweddol i ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr neu’r gymuned ehangach.
- 6.1.4 Bydd dysgwyr ar raglenni â ffocws proffesiynol hefyd yn cael eu riportio i’w corff proffesiynol os cânt eu gwahardd.
- 6.2 GWAHARDDIAD DROS DRO
Gall y Panel Cynhwysiant roi gwaharddiad dros dro, pan fo’r panel yn teimlo y gellid ystyried bod ymddygiad y dysgwr yn bodloni’r trothwy ar gyfer gwaharddiad, ond bod yna amgylchiadau lliniarol.
Rhoddir gwybod i’r dysgwr y bydd unrhyw dor-rheolau pellach o god ymddygiad y Coleg yn arwain at roi’r gwaharddiad ar waith.
Pan roddir gwaharddiad dros dro/ rhybudd ysgrifenedig terfynol neu ysgrifenedig cyntaf caiff cynllun gweithredu ei gynhyrchu a’i rannu hefyd yn gosod allan y gwelliannau mewn ymddygiad a ddisgwylir gan y dysgwr. Bydd y rhain yn cael eu cofnodi ar y system cofnodion myfyrwyr a’u monitro gan y Tiwtor Cwrs, Tiwtor Personol, Ymgynghorydd Hyfforddi neu debyg. Bydd y dysgwr, rhiant / gofalwr a’r rheolwr sydd yn cynnal y broses yn llofnodi copi o’r cynllun gweithredu.
- 6.3 CYFIAWNDER ADFEROL
- Bydd arfer adferol yn helpu adeiladu perthnasoedd sydd o bosib wedi cael eu rhwygo neu’u niweidio oherwydd y digwyddiad. Hefyd mae’n rhoi cyfle i’r darpar ddioddefwr gael ei glywed.
- Mae arfer adferol yn golygu bod angen i’r ddwy ochr gytuno i’r cyfarfod ac i’r ddwy ochr fod yn agored i ddeall sut mae’r person arall yn teimlo.
- Nod y cyfarfod adferol fydd:
- galluogi dysgwr i gymryd cyfrifoldeb a deall effaith ei weithredoedd ar eraill; a
- dangos i’r rheiny a effeithiwyd gan weithredoedd dysgwr.
- Does dim rhaid i hyn ddigwydd yn bersonol; gellid cyflawni hyn yn ysgrifenedig hefyd. Rhaid cofnodi hyn ar y Cynllun Gweithredu (Atodiad 5).
- 6.1 Darperir yr enghreifftiau canlynol fel arweiniad wrth ystyried lefel y gwrandawiad neu’r gosb i’w rhoi am dor-rheolau nodweddiadol y Côd Ymddygiad. Ni fwriedir i’r rhestr fod yn gynhwysfawr. Bydd rheolwyr yn ystyried difrifoldeb ac effaith unrhyw dor-rheolau honedig ar ddysgwyr, staff a’r Coleg wrth benderfynu pa lefel o gosb i’w rhoi.
-
- 7.1 Mae gan ddysgwr sy’n cael cyfarfod ar unrhyw gam y broses Disgyblu Ffurfiol yr hawl i gael ei gynrychioli.
- 7.2 Bydd cynrychiolydd y dysgwr yn un person o un o’r categorïau canlynol:
- rhiant / gofalwr;
- cyd-ddysgwr;
- swyddog Undeb y Myfyrwyr;
- ffrind (nad yw’n gysylltiedig â’r digwyddiad)
- neu aelod o’r Tîm Cymorth Dysgu (ADY) / Tîm Cymorth Dysgu (Lles); neu
- asiantaeth gefnogi berthnasol.
- 7.3 Nid yw’n cael ei ystyried yn briodol i ddysgwr sy’n wynebu proses disgyblu ffurfiol gael ei gynrychioli gan gyfreithiwr neu berson arall sy’n gweithredu yn rhinwedd swydd gyfreithiol broffesiynol.
-
- 8.1 Mae’r Coleg yn cydnabod difrifoldeb unrhyw benderfyniad i wahardd dysgwr. Gwneir y fath benderfyniadau dim ond pan ystyrir bod dysgwr wedi torri’r Cod Ymddygiad yn ddifrifol, yn sylweddol neu’n barhaus neu wedi cyflawni rhyw weithred arall sy’n gwneud niwed, neu sydd â’r potensial i niweidio, buddiannau’r Coleg, dysgwyr eraill, staff neu’r gymuned ehangach.
- 8.2 Bydd Gwrandawiad Disgyblu Ffurfiol sy’n arwain at waharddiad yn dilyn yr egwyddorion a amlinellir yn adran 5 uchod, gyda’r gofyniad ychwanegol bod tystiolaeth yn cael ei hystyried gan banel o staff fydd fel arfer yn cael ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Cwricwlwm neu Gyfarwyddwr Profiad Dysgwyr, neu mewn achosion eithriadol aelod arall o Uwch Dîm Arweinyddiaeth y Coleg fydd yn gweithredu fel Swyddog Disgyblu (DO). Hefyd bydd angen dau reolwr arall o’r Coleg ac aelod o’r Tîm Lles neu’r Tîm ADY fel bo’n briodol.
- 8.3 Lle mae’r panel yn canfod bod yr honiadau’n cael eu cadarnhau, fel arfer bydd penderfyniad i wahardd ar unwaith.
- 8.4 Gall y panel benderfynu gosod cosb ychydig yn llai na gwaharddiad ar unwaith. Mae’r rhain yn cynnwys:
- “Dedfryd ohiriedig” - lle mae tystiolaeth bod gwaharddiad yn cael ei gyfiawnhau gan y dystiolaeth yn y gwrandawiad ond mae’r panel yn dymuno rhoi cyfle i’r dysgwr aros yn y coleg ar y ddealltwriaeth y gellir gofyn i’r dysgwr adael yn syth os oes unrhyw dor-rheolau pellach o’r Cod Ymddygiad. Ni chynhelir gwrandawiadau pellach. Y panel a oedd yn bresennol yn y gwrandawiad gwreiddiol fydd yn gwneud y penderfyniad i orfodi gwaharddiad o’r fath.
- Rhybudd ysgrifenedig cyntaf neu rybudd ysgrifenedig terfynol neu estyniad i rybudd terfynol sy’n bodoli eisoes, o ddyddiad y panel cynhwysiant.
-
- 9.1 Rhybuddion Ysgrifenedig Cyntaf - byddant yn aros ar gofnod dysgwr am gyfnod o 35 wythnos Coleg.
- 9.2 Rhybuddion Ysgrifenedig Terfynol - byddant yn aros ar gofnod dysgwr am gyfnod o 52 wythnos Coleg.
-
- 10.1 Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i wrthod derbyniad i unrhyw un o’i gyrsiau yn dilyn tynnu’n ôl / gwaharddiad.
- 10.2 Bydd unigolion sy’n dymuno ail-ymgeisio i’r Coleg yn dilyn tynnu’n ôl / gwaharddiad yn ddarostyngedig i fynychu cyfweliad gyda Phanel Derbyn cyn y bydd eu cais yn cael ei ystyried gan Dîm Cwrs.
- 10.3 Hefyd bydd yn ofynnol gan y Coleg bod unrhyw ddysgwr sydd wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig terfynol yn mynychu Panel Derbyn cyn cael ei ystyried am fynediad i gwrs arall yn y Coleg. Caiff y panel hwn ei ymgynnull gan Gyfarwyddwr Cwricwlwm neu Gyfarwyddwr Profiad Dysgwyr a’r pennaeth Cwricwlwm ar gyfer y maes mae’r dysgwr yn ymgeisio iddo ac aelod o’r Tîm Lles neu’r Tîm ADY os yn briodol.
- 10.4 Pan ail-dderbynnir dysgwr yn dilyn tynnu’n ôl / gwaharddiad neu rybudd ysgrifenedig terfynol, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i roi rhybudd ysgrifenedig terfynol fel cosb i fod ar waith o ddechrau unrhyw gwrs newydd. Bydd hyn hefyd yn berthnasol os yw dysgwr wedi tynnu’n ôl o gwrs yn flaenorol cyn mynychu Gwrandawiad Disgyblu a drefnwyd a allai fod wedi arwain at rhybudd ysgrifenedig terfynol neu tynnu’n ôl / gwaharddiad.
-
- 11.1 Mewn achosion lle mae cred resymol bod dysgwr yn peri risg i ddysgwyr eraill, staff, ymwelwyr neu enw da’r Coleg, gellir rhoi gwaharddiad dros dro ar unwaith cyn cynnal unrhyw ymarfer canfod ffeithiau.
- 11.2 Bydd penderfyniad i wahardd dros dro fel arfer yn dilyn ymarfer canfod ffeithiau cychwynnol i unrhyw honiadau. Fel arfer bydd y penderfyniad i wahardd dysgwr dros dro yn cael ei gymryd gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol / Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu Gyfarwyddwr Profiad Dysgwyr neu aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a Rheoli.
- 11.3 Mae’r Coleg yn cadw’r hawl i osod gwaharddiad dros dro cyn unrhyw Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol.
- 11.4 Nid yw gwaharddiad dros dro yn nodi unrhyw farn ynghylch honiadau yn erbyn dysgwr.
- 11.5 Fel arfer bydd gwaharddiadau dros dro yn dilyn honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Cyntaf yn para nid mwy na 5 diwrnod Coleg, er gall fod achlysuron lle mae angen ehangu hyn a chyfathrebir hyn gyda’r dysgwr.
- 11.6 Fel arfer bydd gwaharddiadau dros dro yn dilyn honiadau sy’n debygol o arwain at Rybudd Ysgrifenedig Terfynol neu Waharddiad yn para nid mwy na 10 diwrnod Coleg, er gall fod achlysuron lle mae angen ehangu hyn a chyfathrebir hyn gyda’r dysgwr
- 11.7 Caiff gwaharddiad dros dro ei drin fel absenoldeb awdurdodedig o’r Coleg at ddibenion talu LCA.
-
- 12.1 Lle mae torri rheolau Cod Ymddygiad y dysgwyr yn digwydd ar gludiant y Coleg gall cosbau ychwanegol gael eu rhoi. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
- Tynnu tocyn teithio yn ôl dros dro
- Tynnu tocyn teithio yn ôl yn barhaol
- Gofyniad bod dysgwr yn teithio ar lwybr arall
- Gofyniad bod dysgwr yn talu am unrhyw ddifrod i fws neu fath arall o gludiant.
- 12.2 Dim ond ar ôl ymarfer Canfod Ffeithiau ac unrhyw Wrandawiad Disgyblu Ffurfiol y bydd unrhyw gosb ychwanegol yn cael ei rhoi.
- 12.3 Cytunir ar gosbau ychwanegol rhwng y Coleg ac Uned Gludiant Cyngor Sir Caerfyrddin neu Gyngor Sir Ceredigion.
- 12.1 Lle mae torri rheolau Cod Ymddygiad y dysgwyr yn digwydd ar gludiant y Coleg gall cosbau ychwanegol gael eu rhoi. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
-
- 13.1 Lle mae torri Cod Ymddygiad y dysgwyr yn cynnwys materion sy’n gysylltiedig â gyrru neu barcio, gellir rhoi cosbau ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Gofyniad nad yw dysgwr yn dod ag unrhyw gerbyd i dir y Coleg am gyfnod penodol.
- Gofyniad nad yw dysgwr yn dod ag unrhyw gerbyd i dir y Coleg am gyfnod cyfyngedig.
- Gofyniad bod y dysgwr yn cyflwyno allweddi car ar ddechrau diwrnod Coleg ac nid yw’n gyrru ei gar tan iddo adael tir ac adeiladau’r Coleg ar ddiwedd y dydd.
- 13.1 Lle mae torri Cod Ymddygiad y dysgwyr yn cynnwys materion sy’n gysylltiedig â gyrru neu barcio, gellir rhoi cosbau ychwanegol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
-
- 14.1 Ni fydd dysgwyr yn colli taliadau LCA tra’u bod wedi’u hatal.
-
Mae gan ddysgwyr yr hawl i apelio ar bob cam yn y broses ddisgyblu. Ystyrir apeliadau dim ond lle mae sail i gredu na ddilynwyd y gweithdrefnau a nodir yn y ddogfen hon neu lle mae sail i gredu bod unrhyw gosb a roddwyd heb ei phrofi. Ni chaniateir apêl i ailystyried yr honiadau gwreiddiol neu i glywed tystiolaeth a allai fod wedi bod ar gael yn y broses wreiddiol.
- 15.1 Bydd y Coleg yn derbyn apeliadau yn y Gymraeg neu yn Saesneg ac ni chaiff y naill na’r llall ei thrin yn llai ffafriol.
- 15.1.1 Apeliadau yn erbyn rhoi Nodyn Achos Pryder - dylid eu gwneud yn ysgrifenedig i’r Pennaeth Cwricwlwm perthnasol. Dylid derbyn apêl o fewn 5 diwrnod gwaith o roi Nodyn Pryder. Bydd y Pennaeth Cwricwlwm (neu Ddirprwy penodedig) yn adolygu amgylchiadau’r Nodyn Achos Pryder ac yn ffurfio barn ynghylch a oedd y Nodyn Pryder yn rhesymol. Mae penderfyniad y Pennaeth Cwricwlwm (neu Ddirprwy penodedig) yn derfynol, a chaiff ei gyfathrebu o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr apêl.
- 15.1.2 Apeliadau yn erbyn Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf neu Rybudd Ysgrifenedig Terfynol - dylid eu gwneud yn ysgrifenedig i’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr. Dylai’r apêl gael ei gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn llythyr yn hysbysu’r dysgwr fod Rhybudd wedi’i roi. Caiff yr apêl ei hystyried gan y Cyfarwyddwr Cwricwlwm neu’r Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr ac un rheolwr arall nad oedd yn gysylltiedig yn flaenorol. Mae penderfyniad y Panel Apêl yn derfynol, a chaiff ei gyfathrebu o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn yr apêl.
- 15.1.3 Apeliadau yn erbyn Tynnu’n Ôl/Gwaharddiad – dylid eu gwneud yn ysgrifenedig i’r Pennaeth gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost. - complaints@colegsirgar.ac.uk. Dylid gwneud apêl yn erbyn tynnu’n ôl/gwaharddiad o fewn 10 diwrnod gwaith o dderbyn y llythyr gwaharddiad
- a) Ar dderbyn y llythyr tynnu’n ôl/gwaharddiad, os nad yw’r dysgwr yn fodlon â’r canlyniad, gall y dysgwr ofyn i’r gwaharddiad gael ei adolygu gan y Pennaeth neu enwebai’r Pennaeth (fel arfer Is-bennaeth nad oedd yn gysylltiedig â’r broses Ymddygiad Cadarnhaol yn flaenorol). Gofynnir am hyn drwy anfon e-bost neu ysgrifennu at y Pennaeth gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost - complaints@colegsirgar.ac.uk neu’r cyfeiriad Swyddfa’r Pennaeth, Coleg Sir Gâr, Campws y Graig, Heol Sandy, Llanelli, SA15 4DN.
- b) Gellir gwneud cais am adolygu’r tynnu’n ôl/gwaharddiad ar sail un neu fwy o’r canlynol yn unig:
- rydych wedi cyflwyno tystiolaeth ychwanegol, nad oedd ar gael ar adeg cyflwyno i’r panel cynhwysiant/diogelu;
- rydych yn honni (ac yn cyflwyno tystiolaeth neu resymau manwl) na chynhaliwyd y panel canfod ffeithiau a chynhwysiant/diogelu yn deg;
- rydych yn honni na chafodd y tynnu’n ôl/gwaharddiad ei gynnal yn unol â’r polisi hwn.
Yn yr e-bost sy’n gofyn am adolygu’r canlyniad, rhaid i’r dysgwyr nodi’r rheswm dros yr apêl. - c) Bydd y Pennaeth neu enwebai’r Pennaeth yn adolygu’r apel i ganfod a yw’r cais yn Seiliedig ar resymau a ganiateir ac a oes achos clir wedi’i wneud. Gall y Pennaeth neu enwebai’r Pennaeth wrthod Unrhyw gais nad yw’n seiliedig ar y rhesymau a nodwyd uchod neu lle mae’n amlwg nad oes achos clir drosa adolygu’r apel wedi’i wneud. Bydd gan y Pennaeth neu enwebai’r Pennaeth yr awdurdod i gymryd un o’r penderfyniadau canlynol:
- i. cynnal y canlyniad tynnu’n ôl/gwahardd gwreiddiol;
- ii. cyfeirio’r achos at banel apêl fel y nodir isod yn 15.2.
Caiff hyn ei gyfathrebu o fewn pum niwrnod o dderbyn yr apêl.
- Bydd penderfyniad y Pennaeth neu enwebai’r Pennaeth yn derfynol, ac ystyrir bod y mater felly wedi’i gau. Ni fydd trafodaeth gyda’r dysgwr nac unrhyw berson arall ynglŷn â phenderfyniad y Pennaeth neu enwebai’r Pennaeth.
- 15.2 Panel Apêl - Gwrandewir ar yr apêl gan banel sydd yn cynnwys o leiaf 3 o bobl, y mae’n rhaid i un ohonynt o leiaf fod yn aelod o Gorff Llywodraethu’r Coleg, un aelod o dîm Adran Weithredol y Coleg ac un aelod arall o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, a lle bo’n briodol aelod o’r tîm ADY a’r Tîm Lles. Ni fydd unrhyw aelod o’r Panel Apêl wedi bod ynghlwm â’r broses Disgyblu Ffurfiol yn flaenorol. Bydd y Panel Apêl fel arfer yn cyfarfod o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl i’r Pennaeth neu enwebai’r Pennaeth hysbysu y bydd panel apêl yn cael ei alw. Bydd y Panel Apêl yn ystyried tystiolaeth gan y sawl sy’n gwneud yr apêl, y swyddog disgyblu neu reolwyr cysylltiedig eraill ac unrhyw dystion a elwir gan y naill barti neu’r llall.
Mae gan y Panel Apêl yr awdurdod i gynnal y penderfyniad gwreiddiol; i osod cosb lai neu i ddod i benderfyniad nad yw’r honiadau gwreiddiol wedi’u profi ac ni ddylid rhoi unrhyw gosb. Mae penderfyniad y Panel Apêl yn derfynol.
- 15.1 Bydd y Coleg yn derbyn apeliadau yn y Gymraeg neu yn Saesneg ac ni chaiff y naill na’r llall ei thrin yn llai ffafriol.
-
- 16.1 Pan fydd digwyddiad yn digwydd, naill ai yn y Coleg neu y tu allan i’r Coleg sy’n arwain at gyhuddiad gan yr Heddlu, ymchwiliad a/neu amodau mechnïaeth yn cael eu cyflwyno, byddwn yn aros i unrhyw ymchwiliad neu wrandawiad ddod i ben cyn rhoi’r polisi hwn ar waith (lle bo’n berthnasol). Gan ddibynnu ar natur y cyhuddiad, mae’r Coleg yn cadw’r hawl i wahardd unrhyw ddysgwr dros dro nes bod achos yr Heddlu wedi dod i ben.
- 16.2 Fel arfer, bydd unrhyw broses droseddol yn cael blaenoriaeth dros unrhyw broses fewnol yn y Coleg. Os oes proses droseddol yn cael ei chynnal mewn perthynas â dysgwr ar gwrs lle mae’r dysgwr mewn Swydd o Ymddiriedaeth neu lle mae gan y cwrs safonau proffesiynol i’w cynnal, bydd y pryder hefyd yn cael ei rannu â Swyddog Diogelu Dynodedig yr Awdurdod Lleol (LADO) ar gyfer trafodaeth bosibl mewn Cyfarfod Safonau Proffesiynol - Adran 5 Gweithdrefn Diogelu Cymru Gyfan / a’r corff proffesiynol. Cymerir gofal na fydd unrhyw ddyblygu prosesau ac na fydd unrhyw broses arall ar waith ar yr un pryd fel rheol. Efallai y bydd angen gwahardd y dysgwr dros dro tra bod ymchwiliad allanol yn cael ei gynnal, a bydd y penderfyniad hwn yn cael ei wneud gan Bennaeth Cefnogi Dysgwyr a Lles a Phennaeth y Cwricwlwm / Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Cwricwlwm yn dilyn asesiad risg.
- 16.3 Os bydd dysgwr yn cael euogfarn, bydd y Coleg yn ystyried y canlyniad hwn. Os oes angen i’r Coleg gymryd camau gweithredu, bydd cyfarfod asesu risg yn cael ei alw. Bydd y Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr / Cyfarwyddwr Cynorthwyol y Cwricwlwm a’r Pennaeth Cefnogi Dysgwyr a Lles yn cynnal y cyfarfod hwn. Ystyrir cyngor allanol gan y corff proffesiynol perthnasol ac Adran 5 Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan - Cyfarfod Safonau Proffesiynol.
- 16.4 Os yw’r dysgwr wedi’i gael yn ddieuog o drosedd, gall y Coleg barhau i gymryd camau yn erbyn y dysgwr os oes digon o dystiolaeth o dorri’r safonau proffesiynol perthnasol, a bydd hyn yn cael ei wneud yn unol â’r polisi priodol.
-
Bydd y polisi yn cael ei adolygu erbyn mis Medi 2026.
-
PARCH
Mae ein Cod Ymddygiad yn seiliedig ar 3 egwyddor.
- Yn barod
- Yn barchus
- Yn ddiogel
Yn barod
- Byddwch yn bresennol ym mhob gwers
- Byddwch yn brydlon i bob gwer
- Cymerwch ran lawn yn eich cwrs gan gynnwys tiwtorialau, cyfarwyddyd gyrfaol, ymweliadau, profiad gwaith ac unrhyw gymorth ychwanegol a drefnir ar eich cyfer
- Dewch â’r offer cywir ar gyfer pob gwers
- Anelwch at ragoriaeth ym mhopeth a wnewch
- Cwblhewch eich holl waith erbyn y terfynau amser cytunedig
- Gwnewch gynnydd yn erbyn unrhyw dargedau a gytunwyd ac a osodwyd
- Cydweithiwch â myfyrwyr eraill i gyflawni eich cyrchnodau
- Byddwch yn bresennol ym mhob arholiad / asesiad yr ydych wedi eich cofrestru ar eu cyfer
- Rhowch wybod am unrhyw absenoldeb trwy gysylltu â swyddfa eich campws cyn 10am ar bob dydd yr ydych yn absennol
- Defnyddiwch y cyfleusterau TG fel yr amlinellir yn y Polisi Defnydd TG Derbyniol yn unig
- Diffodd bob fôn symudol mewn ardaloedd dysgu [h.y. ystafelloedd dosbarth neu ganolfannau adnoddau dysgu] oni bai eich bod wedi cael caniatâd y tiwtor a defnyddio eich ffôn symudol mewn ffordd briodol yn unig yn ardaloedd cyffredin y myfyrwyr
- Cadwch at y rheolau ymddygiad ar gludiant y coleg, ymweliadau addysgol ac mewn ardaloedd cyffredin fel llyfrgelloedd a ffreuturau
Byddwch yn Barchus
- Dangoswch barch tuag at yr holl staff, myfyrwyr a’r gymuned leol wrth i chi ymwneud a siarad â nhw
- Parchwch ymrwymiad y coleg i gydraddoldeb a pheidiwch â gwahaniaethu yn erbyn grwpiau neu unigolion
- Peidiwch â defnyddio iaith dramgwyddus
- Ysmygwch a Fepiwch yn y cysgodfannau ysmygu/fêpio dynodedig yn unig
- Parchwch amgylchedd y coleg trwy beidio â gollwng sbwriel
- Peidiwch â difrodi dodrefn neu adeiladau’r coleg
- Dylech osgoi gwisgo dillad â sloganau neu logos tramgwyddus
Byddwch yn Ddiogel
- Peidiwch â chymryd rhan mewn unrhyw weithred neu fygythiad o drais, hiliaeth, bwlio, brawychu neu gam-drin geiriol
- Peidiwch â rhoi eich hun neu eraill mewn perygl o gael niwed
- Peidiwch â dod ag unrhyw eitemau y gellid eu hystyried yn arf i’r coleg na’r gwaith - er enghrait cyllyll, drylliau
- Peidiwch byth â dod â chyffuriau neu alcohol i dir ac adeiladau’r coleg neu fod dan ddylanwad cyffuriau neu alcohol
- Defnyddiwch y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel
- Cadwch eich Cerdyn Adnabod Myfyriwr (ID) gyda chi bob amser pan fyddwch yn y coleg
-
POLISI FFITRWYDD I ASTUDIO
-
Cam 2, Cam 3 a Phanel Cynhwysiant.
- Noder mai ar ôl ymarfer canfod ffeithiau’n unig y gellir penderfynu lefel y cyfarfod.
- Gellir gwahardd dysgwr dros dro ond gwneir hyn heb ragfarn.
- Ar bob cam, mae’n rhaid i’r Swyddog Ymchwilio (IO) a’r Swyddog Disgyblu (DO) hefyd drafod gyda’r dysgwr a’r aelodau staff dan sylw a hoffent gael unrhyw gymorth neu addasiadau er mwyn peidio â thrawmateiddio eto.
PROSES DISGYBLU FFURFIOL A’R WEITHDREFN APELIADAU
- Bydd swyddog disgyblu (DO) y Coleg yn cadeirio’r achos a’i gyflwyno ym mhresenoldeb y dysgwr a’i gynrychiolydd/chynrychiolydd ac yn amlinellu agenda’r cyfarfod. Mewn Paneli Cynhwysiant ac unrhyw apêl yn erbyn gwaharddiad bydd yna gymerwr nodiadau hefyd, er cywirdeb.
- Bydd y swyddog canfod ffeithiau (FFO) yn darllen drwy’r achos ym mhresenoldeb y dysgwr a’i gynrychiolydd/chynrychiolydd.
- Bydd y dysgwr (neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd) yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau i’r FFO a chynrychiolydd y Coleg ac unrhyw dystion.
- Bydd y DO sy’n cynnal y broses/apêl yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau i’r FFO a thystion ( yn achos apêl gwneir hyn ar wahân)
- Bydd y dysgwr (neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd) yn ymateb ym mhresenoldeb y FFO a gall alw tystion.
- (Panel cynhwysiant yn unig ) Bydd aelodau eraill y panel disgyblu yn cael y cyfle i ofyn cwestiynau i’r dysgwr ac unrhyw dystion.
- Bydd y DO ac wedyn i ddilyn y dysgwr (neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd) yn cael y cyfle i grynhoi eu hachosion os dymunant.
- Bydd y FFO ac unrhyw gynrychiolwyr eraill y Coleg, y dysgwr a chynrychiolydd y dysgwr a thystion yn gadael.
- Bydd y DO ( a 2 reolwr arall yn achos Panel Cynhwysiant) sy’n cynnal y broses/apêl yn trafod yn breifat, gan alw’r FFO a’r dysgwr neu ei gynrychiolydd/chynrychiolydd), yn unig i egluro pwyntiau ansicr am ffeithiau a roddwyd eisoes.
- Bydd pob un o’r partïon yn cael gwybod am benderfyniad y broses / apêl ac unrhyw gamau cysylltiedig. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir gohirio’r penderfyniad nes bod rhagor o wybodaeth ar gael.
- Caiff y penderfyniad ei gadarnhau’n ysgrifenedig i’r dysgwr (a’i gynrychiolydd/chynrychiolydd) o fewn 3 diwrnod gwaith ar gyfer panel cynhwysiant a 7 niwrnod gwaith ar gyfer proses âpel.
-
POSTER YMDDYGIAD CADARNHAOL
-
CYNLLUN GWEITHREDU’R DYSGWR
-
Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion Polisi Ymddygiad Cadarnhaol Siart Llif a Thempledi.
Pwy Swyddog Canfod Ffeithiau Dogfennaeth (anfonir at riant os dan 18 oed ) Apêl – I Bwy Cyfnod amser Achos Pryder
Cyfarfod(ydd) Cefnogi
Proses Anffurfiol
Tiwtor / Aseswr/ Ymgynghorydd Hyfforddi / LAP/ arweinydd cwrs / mentor Tiwtor / Aseswr/ Ymgynghorydd Hyfforddi / LAP/ arweinydd cwrs / mentor
Rhaid cofnodi nodyn a cham gweithredu ar Gar-i.• Cynllun gweithredu - Yn cynnwys targedau mesuradwy amserol ar Gar-i /EBS
• Nodi cyfarfod cefnogi ar Gar-i/ EBSSPennaeth Cwricwlwm Cofnodwyd ar Gar-i /EBS Proses Ffurfiol
Cam 2
Canlyniad - Rhybudd Ysgrifenedig Cyntaf
Pennaeth Cwricwlwm / Ynghyd â maes cymorth fel bo’n briodol / os oes angen ( Lles / ADY )
Os cymerir i Gam 2 oherwydd pryderon parhaus, a gynhaliwyd cyfarfod cefnogi ynghyd â chynllun gweithredu a dyddiadau?Tiwtor / Aseswr /Ymgynghorydd Hyfforddi / LAP/ arweinydd cwrs / mentor
Templed canfod ffeithiau• Llythyr i gael ei anfon at y dysgwr yn rhoi rhybudd o 2 ddiwrnod iddo/iddi
• Llythyr yn rhoi penderfyniad ynghyd â chynllun gweithredu yn cynnwys targedau mesuradwy amserol ar Gar-i / EBSCyfarwyddwr Profiad Dysgwyr neu’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm 35 wythnos coleg Cam 3
Rhybudd Ysgrifenedig TerfynolRheolwr Cyfadran / Ynghyd â maes cymorth fel bo’n briodol ( Lles / ADY ) Pennaeth Adran / Tiwtor / Aseswr / Ymgynghorydd Hyfforddi / LAP/ arweinydd cwrs / mentor
Templed canfod ffeithiauLlythyr i gael ei anfon at y dysgwr yn rhoi rhybudd o 2 ddiwrnod iddo/iddi
• Llythyr yn rhoi penderfyniad ynghyd â chynllun gweithredu yn cynnwys targedau mesuradwy amserol ar Gar-i / EBSCyfarwyddwr Profiad Dysgwyr neu’r Cyfarwyddwr Cwricwlwm 52 wythnos coleg Gwaharddiad Cyfarwyddwr Profiad Dysgwyr / Cyfarwyddwr
Cwricwlwm i gadeirio ynghyd â 2 reolwr arall
Pennaeth Cwricwlwm / Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cwricwlwm • Llythyr i gael ei anfon at y dysgwr yn rhoi rhybudd o 2 ddiwrnod iddo/iddi
• Llythyr yn rhoi penderfyniad ynghyd â chynllun gweithreduClerc i’r Bwrdd Hawl i wneud cais ynghyd â chyfarfod panel derbyn / dibynnu ar ganlyniad gwaharddiad. Pwyntiau Gwirio
• Ydych chi wedi diweddaru a gwirio Gar -I / EBS?
• Beth yw achos yr ymddygiad? Ydy’r ADY neu’r Tîm Lles yn adnabod y dysgwr?
• Oes angen eiriolwr ar y dysgwr ?
• Dylid atgoffa’r dysgwr bob amser am ddisgwyliadau’r coleg Parod, Parchus, Diogel.
****Gwiriwch anghenion cefnogaeth ar Gar- i / EBS cyn cynnal unrhyw ymarfer canfod ffeithiau ****