Skip page header and navigation

Paratoi ar gyfer y coleg

Ydych chi’n dechrau yn y coleg cyn bo hir?

P’un a ydych yn fyfyriwr newydd neu’n fyfyriwr sy’n dychwelyd, bydd y wybodaeth ar y dudalen hon yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich diwrnod cyntaf o’r tymor. Edrychwn ymlaen at eich croesawu ym mis Medi. 

Girl with red jacket standing against a red background

Gwybodaeth ar gyfer myfyrwyr newydd

Gobeithiwn eich bod yn edrych ymlaen at gychwyn eich taith gyda ni. Rydyn ni’n deall bod yna lawer o bethau newydd i’w hystyried wrth ddechrau yn y coleg ond, gobeithio bydd y dudalen hon yn eich helpu i deimlo’n barod. Ac os oes byth angen help arnoch gydag unrhyw beth, mae croeso i chi gysylltu â staff y coleg.

Cyn eich diwrnod cyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r ddwy dasg isod:

  • Cyn eich bod yn dechrau’r coleg, mae’n bwysig eich bod yn actifadu eich cyfrif coleg ac yn gosod cyfrinair.  I wneud hynny, dilynwch y broses hon:

    1. Ewch i’r URL hwn: https://password.colegsirgar.ac.uk/activate
    2. Rhowch eich enw defnyddiwr (dylai hwn fod gyda chi mewn e-bost oddi wrthym ni)
    3. Dywedwch wrthym sut rydych chi am dderbyn eich cod gwirio - trwy e-bost neu neges destun? (Dylai’r rhain gyd-fynd â’r manylion gwnaethoch chi eu darparu yn ystod cofrestru. Os nad yw’r rhain yn gywir, cysylltwch â registry_info@colegsirgar.ac.uk i ddiweddaru’r manylion hyn.)
    4. Teipiwch y cod gwirio yn y blwch a chliciwch ‘Check Code
    5. Gosodwch gyfrinair ar gyfer eich cyfrif Coleg (a gwnewch ymdrech i’w gofio!)
  • Mae rhai apiau gyda ni i chi eu lawrlwytho cyn i chi ddechrau. Mae’r apiau hyn i gyd ar gael yn eich app store. Bydd eu lawrlwytho nhw nawr yn arbed amser ar eich diwrnod cyntaf.

    1. Geteduroam – Caiff ei ddefnyddio i gysylltu â WIFI y Coleg – cysylltwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair coleg a osodwyd gennych yn Nhasg 1.
    1. Gmail - Caiff ei ddefnyddio i gael mynediad i’ch e-bost coleg – cysylltwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair coleg a osodwyd gennych yn Nhasg 1.
    1. Google Classroom- Caiff ei ddefnyddio gyda’ch astudiaethau coleg – cysylltwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair coleg a osodwyd gennych yn Nhasg 1.
    1. Ap y Coleg – Eich ap myfyriwr Gallwch ddefnyddio hwn i gyrchu eich amserlen, eich presenoldeb, olrhain perfformiad a derbyn gwybodaeth gan y coleg. Agorwch ap y Coleg, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a chyfrinair coleg a osodwyd gennych yn Nhasg 1
eduroam logo
gmail logo
google classroom logo
college app logo

Peidiwch anghofio…

  • Gwnewch gais am gymorth ariannol os ydych yn gymwys.
  • Gwiriwch eich amserlenni bysiau a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut rydych chi’n cyrraedd y coleg.
  • Mae angen iwnifform neu gyfarpar penodol ar rai cyrsiau - gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd ei angen arnoch ac ewch ati i’w gael yn barod ymlaen llaw.
  • Sicrhewch fod y coleg yn ymwybodol o unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd gennych fel ein bod yn gallu gwneud yn siŵr bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i lwyddo 

Darganfyddwch pa gymorth ariannol sydd ar gael.

Piggy bank next to a pile of coins.

Gwybodaeth am gludiant myfyrwyr, amserlenni bysiau a thocynnau bws.

Student getting on bus.

Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion dîm cymorth ymroddedig i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol.

2 boys looking at an ipad

Manylion Cyswllt ar gyfer Ymholiadau

Ymholiadau Gwneud Cais

admissions@colegsirgar.ac.uk 

01554 748179

Ymholiadau Cofrestru

registry_info@colegsirgar.ac.uk 

01554 748384

Ymholiadau TG

helpdesk@colegsirgar.ac.uk 

01554 748089

Ymholiadau Cludiant

transportunit@colegsirgar.ac.uk 

01554 748025

Cwestiynau Cyffredin

  • Dylai bod e-bost wedi’i anfon atoch gyda’ch diwrnod dechrau swyddogol. Eich diwrnod cyntaf fydd naill ai Medi’r 1af, 2il neu 3ydd ond gall amrywio ar gyfer gwahanol gampysau.

  • Dylech chi fod wedi derbyn e-bost gyda rhif ystafell ar gyfer eich diwrnod croesawu. Os ydych yn ansicr ynghylch ble i fynd, ewch i’r dderbynfa lle y bydd staff wrth law i’ch helpu i gyrraedd ble mae angen i chi fod. 

  • Bydd eich diwrnod cyntaf yn gyfle i gwrdd â’ch darlithwyr Coleg, mynd i’r afael â systemau’r Coleg a dysgu am yr holl gefnogaeth sydd ar gael i chi. 

    Cewch eich tywys ar daith o gwmpas holl wasanaethau a hybiau cymorth y Coleg. Byddwch yn cwrdd â’ch cydfyfyrwyr newydd ac fe fydd cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd trwy gydol y dydd. 

    Fe fydd gweithgareddau trwy gydol y dydd i’ch helpu i setlo a chael hwyl. Gellir dod o hyd i weithgareddau amser cinio mwy tawel yn y llyfrgelloedd ar bob campws.

  • Caiff amserlenni eu cadarnhau pan fyddwch yn mynychu eich diwrnod cyntaf ac ar ôl hynny byddan nhw ar gael drwy ap y coleg.

  • Ar wahân i rai cyrsiau penodol sy’n gofyn am iwnifform arbennig, does dim cod gwisg yn y coleg, cyhyd â’i fod yn addas gallwch chi wisgo beth bynnag a fynnwch. Rydyn ni yn gofyn eich bod yn osgoi gwisgo dillad â sloganau neu logos sarhaus.

  • Os hoffech chi newid eich cyfrinair, cliciwch ar y ddolen isod a dilynwch y camau.

    I newid eich cyfrinair, mae angen i chi wybod eich enw defnyddiwr. Dylech chi fod wedi derbyn hwn mewn e-bost. Os nad ydych yn ei wybod yna gofynnwch i’ch darlithydd.

    1. Ewch i’r URL hwn: https://password.colegsirgar.ac.uk/sspr/public/forgottenpassword 
    2. Rhowch eich enw defnyddiwr
    3. Cliciwch Chwilio (Search)
    4. Bydd angen i chi ddewis y dull rydych chi eisiau ar gyfer cyfathrebu, naill ai e-bost personol neu SMS
    5. Rhowch y cod rydych chi’n ei dderbyn yn y blwch a ddarperir
    6. Gosodwch gyfrinair newydd
  • Bydd y coleg yn darparu’r rhan fwyaf o’r hyn rydych chi angen. Os yw eich cwrs yn gofyn eich bod yn prynu cyfarpar penodol, PPE ac ati, byddwch wedi cael eich hysbysu cyn i chi ddechrau. Os ydych yn ansicr, mae croeso i chi gysylltu a gwirio eto.

    Mae gan bob campws lyfrgell yn llawn o adnoddau astudio. Yn ogystal gallwch chi gael mynediad i gyfrifiaduron a pheiriannau argraffu, cael benthyg gliniaduron a chael mynediad i gymorth defnyddiol arall. Mae timau’r llyfrgell yn hapus i helpu, ac maen nhw hyd yn oed yn gallu archebu llyfrau penodol i chi os nad ydynt eisoes ar gael.

  • Rhowch gipolwg ar ein tudalen Cymorth Ariannol i gael mwy o wybodaeth.

    Os ydych chi, neu eich rhieni/gwarcheidwaid angen unrhyw gyngor, help gyda llanw neu wirio ffurflenni cyn eu cyflwyno, mae ein Swyddogion Lles yn barod i helpu. Rydyn ni am wneud yn siŵr eich bod yn cael mynediad i’r holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi. 

  • Gweler ein tudalen cludiant myfyrwyr. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cludiant i’r coleg, cysylltwch â transportunit@colegsirgar.ac.uk.

  • Cewch. Os nad yw rhywbeth yn gweithio allan, siaradwch â ni cyn gynted â phosibl. Byddwn ni’n eich helpu i archwilio opsiynau eraill a dod o hyd i rywbeth sy’n teimlo’n iawn.