
Peidiwch Â'i Adael, Newidiwch E!
Oeddech chi’n gwybod eich bod yn gallu newid eich cwrs os nad ydych yn hapus?
Ydych chi wedi dechrau cwrs sydd ddim yn teimlo’n iawn? Ydych chi wedi newid eich meddwl am y cyfeiriad rydych chi am fynd? Nid yw’n rhy hwyr i newid.
Rydych chi’n fwy tebygol o lwyddo yn y coleg os yw’r hyn rydych chi’n astudio o bwys i chi - felly gadewch i ni wneud yn siŵr eich bod ar y trywydd iawn.
Dewch i siarad â ni cyn gynted â phosibl; byddwn ni’n mynd dros eich opsiynau gyda’n gilydd a gweld os gallwn ni newid eich cwrs i rywbeth sy’n eich gwneud chi’n hapus.
Rydyn ni yma i helpu
Mynnwch sgwrs â’ch tiwtor neu’r tîm derbyn ynglŷn â newid i gwrs sy’n fwy addas i’ch cyrchnodau a’ch diddordebau chi. Gallwch chi alw heibio am sgwrs wyneb yn wyneb neu gallwch chi ddefnyddio’r manylion canlynol:
- Ffoniwch yr adran dderbyn ar 01554 748179
- admissions@ceredigion.ac.uk
- admissions@colegsirgar.ac.uk

“Gwnes i 3 Safon Uwch a sylweddolais i wedyn nad dyna roeddwn i am wneud. Des i nôl i wneud beth roeddwn i am wneud mewn gwirionedd ac mae popeth wedi gweithio allan yn berffaith. Dw i wedi dod o hyd i fy awen, yr hyn dw i’n hoffi a’r hyn dw i’n mwynhau gwneud. Elisedd Evans - Newidiodd i Gwrs Cyfrifiadura
Dolenni Defnyddiol
Mae’r tîm Byddwch yn Uchelgeisiol yma i sicrhau bod gennych y sgiliau, yr adnoddau, a’r gefnogaeth i gymryd y cam cyffrous nesaf, p’un a yw’n plymio i yrfa ddynamig, archwilio mentrau entrepreneuraidd, neu barhau eich taith addysgol.

Canllaw i’ch helpu i benderfynu pa gyrsiau i wneud cais amdanynt.

Cyrsiau fesul Meysydd Pwnc
