Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Coleg Sir Gâr a gynhaliwyd am 4:00pm ddydd Iau, 3ydd Ebrill 2025 yn yr Ystafell Gynadledda, Campws y Graig.
Coleg Sir Gâr
Yn bresennol:
- Mr John Edge (Cadeirydd)
- Mrs Abigail Salini (Is-gadeirydd)
- Ms Erica Cassin [ar-lein]
- Mr Alan Smith
- Mrs Jacqui Kedward
- Mr Mike Theodoulou
- Dr Andrew Cornish (Pennaeth)
- Mr John Williams (Staff CC)
- Ms Hannah Freckleton (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2024/2025)
- Mr Ben Francis
- Mrs Sophie Wint [ar-lein]
- Miss Angharad Lloyd-Beynon
- Miss Estelle Hitchon
- Dr Jeanne Childs
- Mr Huw Davies
- Mr Rhys Taylor [ar-lein]
Rheolwyr y Coleg:
- Mrs Amanda Daniels (Is-bennaeth Cwricwlwm, Sgiliau ac Ansawdd)
- Mr Ralph Priller (Prif Swyddog Gweithredu)
- Mrs Vanessa Cashmore (Is-bennaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu)
Yn gwasanaethu:
- Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)
- Mr Martin Davies (Cyfieithydd)
Gwesteion:
- Yr Athro Elwen Evans KC (Is-Ganghellor, PCYDDS)
- Sarah Clark (Ysgrifennydd y Brifysgol, PCYDDS)
- Rachel Rimanti (Rheolwr Swyddfa a Llywodraethu – ColegauCymru)
Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod.
Croesawodd y Cadeirydd Ms Rachel Rimanti o ColegauCymru i’r cyfarfod.
Cychwynnodd y cyfarfod am 16:00.
Diolchodd y Bwrdd i Huw Davies am ei waith rhagorol a’i ymrwymiad i’r Coleg dros y naw mlynedd diwethaf. Bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau drwy gydol cyfnod Covid a’r cyfnod ailstrwythuro, gan adael y Coleg mewn sefyllfa ariannol ardderchog. Dywedodd y Pennaeth fod Huw wedi bod yn gefnogwr aruthrol i’r Coleg am gyfnod sylweddol o amser.
Nododd y Bwrdd y byddai’r Pennaeth yn gadael y Coleg ym mis Ionawr 2026. Mae Andrew wedi bod yn y Coleg ers 31 mlynedd, ac yn swydd y Pennaeth ers 7 mlynedd. Mae’r Coleg wedi datblygu’n eithriadol o dda o dan arweiniad Andrew. Mae’r Bwrdd yn diolch i Andrew am ei waith a’i ymrwymiad. Dywedodd Is-Ganghellor PCYDDS fod gweithio gydag Andrew wedi bod yn bleser o’r mwyaf ac roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef am weddill ei gyfnod fel Pennaeth.
Eitem agenda |
Prif bwyntiau trafod |
Cam gweithredu/penderfyniad |
|
1 |
Gweinyddu’r Cyfarfod | ||
25/08/1.1 Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiant |
Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs Sharron Lusher a Mr Louis Dare (Staff CSG). Cafwyd datganiad o fuddiant gan Mr Mike Theodoulou mewn perthynas â’r Academi Sgiliau Gwyrdd. Bydd sefydliad cyswllt yn comisiynu’r Coleg cyn hir i ddarparu hyfforddiant mewn Sgiliau Gwyrdd. Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach heblaw am y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd. |
||
25/08/1.2 Cymeradwyo cofnodion cyfyngedig CSG ar gyfer y cyfarfod diwethaf: 20fed Chwefror 2025 |
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion CYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Sir Gâr a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 20fed Chwefror 2025, fel cofnod cywir. | ||
25/08/1.3 Materion yn ymwneud â Choleg Ceredigion Cymeradwyo cofnodion Cyfyngedig CC ar gyfer y cyfarfod diwethaf: 20fed Chwefror 2025 |
Nid oedd unrhyw faterion yn ymwneud â Choleg Ceredigion. CADARNHAODD Bwrdd Coleg Ceredigion gofnodion CYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredgion a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 20fed Chwefror 2025, fel cofnod cywir. |
||
25/08/1.4 Matters arising and action points not covered elsewhere on the agenda.
|
Nid oedd unrhyw faterion yn codi. Roedd pob pwynt gweithredu o fewn yr amserlen berthnasol wedi’u cwblhau. |
||
2 |
Materion i Drafod a/neu Gymeradwyo |
||
25/09/2.1 Diweddariad yr Academi Sgiliau Gwyrdd
|
CAFODD y Bwrdd gyflwyniad a gwybodaeth gan Jemma Parsons (Pennaeth Academi Sgiliau Gwyrdd). NODWYD:
Roedd y Bwrdd yn falch iawn o gynnydd yr Academi Sgiliau Gwyrdd a rhoddwyd canmoliaeth i bawb sy’n rhan ohono. Gofynnwyd y cwestiwn a oedd hyn yn parhau. NODWYD y bydd cyllid PLA yn parhau i ariannu, ac mae’r Coleg yn gweithio gyda Chyngor Sir Gâr a chyflogwyr i helpu i barhau â chyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin o 2026. Gofynnwyd cwestiwn am yr ardal ddaearyddol lle’r oedd busnesau wedi’u lleoli er mwyn gallu gweithio gyda’r Academi. NODWYD, er bod y Gronfa Ffyniant Gyffredin o fewn Sir Gaerfyrddin, fod popeth arall yn genedlaethol. Gofynnwyd y cwestiwn a yw’r cyllid i gyd yn arian cyhoeddus, ac a ellir dod o hyd i gyllid o rywle arall. NODWYD bod y cyllid ar hyn o bryd yn dod o ffynonellau cyhoeddus, gyda’r coleg yn gweithio i geisio cael cyllid masnachol. Y gobaith oedd y byddai’r ganolfan newydd yn y Gelli Aur yn helpu i ddenu opsiynau ar gyfer ariannu. |
||
25/09/2.2 Adroddiad y Pennaeth
|
CAFODD ac YSTYRIODD y Bwrdd Adroddiad y Pennaeth. NODWYD:
Gofynnwyd cwestiwn am gynlluniau i ymgysylltu ag ymgeiswyr ar drothwy etholiadau’r cynulliad yng Nghymru. NODWYD bod dull dwy haen yn hyn o beth. Yn gyntaf, mae Colegau Cymru yn lobïo ar ran y sector ac fe fyddant yn parhau i wneud hynny. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan y Penaethiaid sy’n mynychu cyfarfodydd trawsbleidiol ar wahanol bynciau. Mae’r Coleg yn cyfarfod ag aelodau’r Senedd ac awdurdodau lleol yn rheolaidd i drafod materion sy’n ymwneud ag addysg yn gyffredinol, cynlluniau a phrosiectau. Diolchodd y Pennaeth i’r Is-ganghellor am ei chefnogaeth yn y byd gwleidyddol. Gwnaed sylw yn awgrymu y dylid paratoi dogfen friffio ar safbwynt y Coleg mewn perthynas â’r MIM a phrosiectau eraill ar gyfer y llywodraethwyr fel bod y wybodaeth gywir gan holl Lywodraethwr a llysgenhadon y Coleg pe bai cwestiynau’n cael eu gofyn iddynt. Ystyriwyd bod hyn yn syniad da a gallai gynnwys gwybodaeth gan ColegauCymru a darn rhanbarthol. Gofynnwyd cwestiwn am yr effaith ariannol o ganlyniad i’r newid i gludiant dysgwyr. NODWYD bod y Coleg yn cynnal trafodaethau agos gydag adrannau trafnidiaeth yn y ddwy Sir a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod adnoddau nesaf. |
|
|
25/09/2.3 Swydd y Prif Weithredwr / Pennaeth |
YSTYRIODD y Bwrdd swydd y Prif Weithredwr/Pennaeth o fewn y Coleg yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am benderfyniad y Pennaeth presennol i adael y swydd ym mis Ionawr 2026. NODWYD:
|
||
25/09/2.7 Canlyniadau Ysbrydoli Sgiliau |
CAFODD ac YSTYRIODD y Bwrdd wybodaeth am lwyddiant Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn y cystadlaethau Sgiliau. NODWYD:
|
||
3 |
Materion i’w Cymeradwyo* |
||
25/10/3.1 | Doedd dim materion i’w cymeradwyo. | ||
4 |
Materion er Gwybodaeth** |
||
25/11/4.1 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o Gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr 2025. | ||
25/11/4.2 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 6ed Chwefror 2025. | ||
25/11/4.3 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20fed Chwefror 2025. | ||
25/11/4.4 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 20fed Mawrth 2025. | ||
25/11/4.5 DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwydd ddydd Iau 11 Gorffennaf 2024 (i) Cyngor PCYDDS (ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS (iii) Y Cyd-gyngor |
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodioncyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau, 11eg Gorffennaf 2024. | ||
25/11/4.6 DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Mawrth 26 Medi 2024 (i) Cyngor PCYDDS (ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS |
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodioncyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 26ain Medi 2024. | ||
25/11/4.7 DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau 28 Tachwedd 2024 (i) Cyngor PCYDDS (ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS |
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodioncyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau, 28ain Tachwedd 2024. | ||
25/11/4.8 Data Sgiliau’r Bwrdd
|
CAFODD y Bwrdd drosolwg o werthusiad sgiliau’r Bwrdd, er GWYBODAETH. | ||
25/11/4.9 Cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn Aberteifi
|
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, fanylion am gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn Aberteifi ar 26 Mehefin 2025 a’r cinio cyn y cyfarfod hwn. Roedd calendr cyfarfodydd wedi’i ddiweddaru ar gael, yn dangos y newid i amser dechrau’r cyfarfod. | ||
5 |
Unrhyw Fater Arall |
||
25/12/5.1 | NODODD y Cyfarfod fod Llywydd Undeb y Myfyrwyr a’r myfyriwr-lywodraethwr Hannah Freckleton wedi ennill gwobr gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru. Fe wnaeth y Bwrdd longyfarch Hannah ar ei chyflawniad. | ||
6 |
Datganiadau o Fuddiant |
||
25/13/6.1 I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod. |
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod. | ||
7 |
Dyddiad y cyfarfod nesaf |
||
25/14/7.1 Dyddiad y cyfarfod nesaf |
Dydd Iau 26fed Mehefin 2025 |
Daeth y cyfarfod i ben am 18:05.
Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd am 4:00pm ddydd Iau, 3ydd Ebrill 2025 yn yr Ystafell Gynadledda, Campws y Graig.
Yn bresennol:
- Mr John Edge (Cadeirydd)
- Mrs Abigail Salini (Is-gadeirydd)
- Dr Andrew Cornish (Pennaeth)
- Mr John Williams (Staff CC)
Yn gwasanaethu:
- Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)
- Mr Martin Davies (Cyfieithydd)
Gwesteion:
- Yr Athro Elwen Evans KC (Is-Ganghellor, PCYDDS)
Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod.
Mae Coleg Ceredigion yn is-gwmni o Goleg Sir Gâr. Mae cyfarfodydd Bwrdd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cyd-redeg ac mae materion sy’n ymwneud â phob sefydliad yn cyson â’i gilydd. Mae pob aelod o Fwrdd Coleg Ceredigion yn aelodau o Fwrdd Coleg Sir Gâr gyda’r Cadeirydd yn dal y swydd hon ar gyfer y ddau sefydliad. Cyfarwyddwyr Coleg Ceredigion yn unig sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â Choleg Ceredigion yn unig. Mae’r cofnodion hyn yn ymwneud ag eitemau sy’n berthnasol i Goleg Ceredigion neu sy’n effeithio arno.
Cychwynnodd y cyfarfod am 16:00.
Diolchodd y Bwrdd i Huw Davies am ei waith rhagorol a’i ymrwymiad i’r Coleg dros y naw mlynedd diwethaf. Bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau drwy gydol cyfnod Covid a’r cyfnod ailstrwythuro, gan adael y Coleg mewn sefyllfa ariannol ardderchog. Dywedodd y Pennaeth fod Huw wedi bod yn gefnogwr aruthrol i’r Coleg am gyfnod sylweddol o amser.
Nododd y Bwrdd y byddai’r Pennaeth yn gadael y Coleg ym mis Ionawr 2026. Mae Andrew wedi bod yn y Coleg ers 31 mlynedd, ac yn swydd y Pennaeth ers 7 mlynedd. Mae’r Coleg wedi datblygu’n eithriadol o dda o dan arweiniad Andrew. Mae’r Bwrdd yn diolch i Andrew am ei waith a’i ymrwymiad. Dywedodd Is-Ganghellor PCYDDS fod gweithio gydag Andrew wedi bod yn bleser o’r mwyaf ac roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef am weddill ei gyfnod fel Pennaeth.
Eitem agenda | Prif bwyntiau trafod | Cam gweithredu/penderfyniad |
---|---|---|
Gweinyddu’r Cyfarfod | ||
25/01/1.1 Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiant |
Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach heblaw am y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd. |
|
25/01/1.2 Cymeradwyo cofnodion cyfyngedig CSG y cyfarfod diwethaf: 12fed Rhagfyr 2024 |
CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion CYFYNGEDIG ac ANGHYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ddydd Iau, 12fed Rhagfyr 2024, fel cofnod cywir. | |
25/01/1.3 Matters arising and action points not covered elsewhere on the agenda.
|
Nid oedd unrhyw faterion yn codi. Roedd pob pwynt gweithredu o fewn yr amserlen berthnasol wedi’u cwblhau. |
|
Materion i Drafod a/neu Gymeradwyo |
||
25/02/2.2 Adroddiad y Pennaeth
|
CAFODD ac YSTYRIODD y Bwrdd Adroddiad y Pennaeth. NODWYD:
Gofynnwyd cwestiwn am gynlluniau i ymgysylltu ag ymgeiswyr ar drothwy etholiadau’r cynulliad yng Nghymru. NODWYD bod dull dwy haen yn hyn o beth. Yn gyntaf, mae Colegau Cymru yn lobïo ar ran y sector ac fe fyddant yn parhau i wneud hynny. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan y Penaethiaid sy’n mynychu cyfarfodydd trawsbleidiol ar wahanol bynciau. Mae’r Coleg yn cyfarfod ag aelodau’r Senedd ac awdurdodau lleol yn rheolaidd i drafod materion sy’n ymwneud ag addysg yn gyffredinol, cynlluniau a phrosiectau. Diolchodd y Pennaeth i’r Is-ganghellor am ei chefnogaeth yn y byd gwleidyddol. Gwnaed sylw yn awgrymu y dylid paratoi dogfen friffio ar safbwynt y Coleg mewn perthynas â’r MIM a phrosiectau eraill ar gyfer y llywodraethwyr fel bod y wybodaeth gywir gan holl Lywodraethwr a llysgenhadon y Coleg pe bai cwestiynau’n cael eu gofyn iddynt. Ystyriwyd bod hyn yn syniad da a gallai gynnwys gwybodaeth gan ColegauCymru a darn rhanbarthol. Gofynnwyd cwestiwn am yr effaith ariannol o ganlyniad i’r newid i gludiant dysgwyr. NODWYD bod y Coleg yn cynnal trafodaethau agos gydag adrannau trafnidiaeth yn y ddwy Sir a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod adnoddau nesaf. |
|
25/02/2.3 Swydd y Prif Weithredwr / Pennaeth |
YSTYRIODD y Bwrdd swydd y Prif Weithredwr/Pennaeth o fewn y Coleg yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am benderfyniad y Pennaeth presennol i adael y swydd ym mis Ionawr 2026. NODWYD:
|
|
25/02/2.7 Canlyniadau Ysbrydoli Sgiliau |
CAFODD ac YSTYRIODD y Bwrdd wybodaeth am lwyddiant Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn y cystadlaethau Sgiliau. NODWYD:
|
|
Materion i’w Cymeradwyo* |
||
25/03/3.1 | Doedd dim materion i’w cymeradwyo. | |
25/04/4.1 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o Gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr 2025. | |
25/04/4.2 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 6ed Chwefror 2025. | |
25/04/4.3 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20fed Chwefror 2025. | |
25/04/4.4 Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2025 |
CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 20fed Mawrth 2025. | |
25/04/4.5 DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwydd ddydd Iau 11 Gorffennaf 2024 (i) Cyngor PCYDDS (ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS (iii) Y Cyd-gyngor |
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodioncyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau, 11eg Gorffennaf 2024. | |
25/04/4.6 DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Mawrth 26 Medi 2024 (i) Cyngor PCYDDS (ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS |
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 26ain Medi 2024. | |
25/04/4.7 DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau 28 Tachwedd 2024 (i) Cyngor PCYDDS (ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS |
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau, 28ain Tachwedd 2024. | |
25/04/4.8 Data Sgiliau’r Bwrdd
|
CAFODD y Bwrdd drosolwg o werthusiad sgiliau’r Bwrdd, er GWYBODAETH. | |
25/04/4.9 Cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn Aberteifi
|
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, fanylion am gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn Aberteifi ar 26 Mehefin 2025 a’r cinio cyn y cyfarfod hwn. Roedd calendr cyfarfodydd wedi’i ddiweddaru ar gael, yn dangos y newid i amser dechrau’r cyfarfod. | |
Unrhyw Fater Arall |
||
25/05/5.1 | NODODD y Cyfarfod fod Llywydd Undeb y Myfyrwyr a’r myfyriwr-lywodraethwr Hannah Freckleton wedi ennill gwobr gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru. Fe wnaeth y Bwrdd longyfarch Hannah ar ei chyflawniad. | |
25/06/6.1 I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod. |
Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod. | |
Date of the next meeting | ||
25/07/7.1 Date of the next meeting |
Dydd Iau 26fed Mehefin 2025 |