E-Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Os ydych chi’n hoffi chwarae gemau cyfrifiadurol ac yn gobeithio gwella eich profiad yn y coleg, does dim rhaid i chi chwilio ymhellach.
Ymunwch â’n Hacademi E-Chwaraeon
Mae ein Hacademi E-chwaraeon yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bob myfyriwr, os ydych chi’n chwaraewr gemau anffurfiol, yn chwarae gemau’n gystadleuol, neu p’un ai eich bod yn chwilfrydig i roi cynnig ar rywbeth newydd. Nid oes angen i chi fod yn astudio TG i gymryd rhan, mae ein hacademi yn croesawu pob myfyriwr ni waeth beth yw eich cwrs na lefel eich profiad.
Mae gennym gyfleusterau E-chwaraeon ar ein campysau yn y Graig ac Aberteifi, felly dewch i’n gweld os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â thîm, rhoi cynnig ar dwrnamaint, neu ddim ond dod draw i chwarae.

Pam chwarae E-Chwaraeon?
E-chwaraeon yw un o’n gweithgareddau allgyrsiol mwyaf poblogaidd, ac mae’n roi’r cyfle i chi:
- Chwarae’n gystadleuol mewn twrnameintiau cenedlaethol a rhyngwladol
- Ymuno â sesiynau hyfforddi rheolaidd neu ddiwrnodau chwarae gemau cyfrifiadurol anffurfiol
- Gwneud ffrindiau newydd sy’n astudio cyrsiau eraill ar draws y coleg
- Datblygu sgiliau meddal gwerthfawr fel gwaith tîm, gwneud penderfyniadau a chyfathrebu
- Cael mynediad i gyfarpar lefel broffesiynol yn ein switiau e-chwaraeon pwrpasol
P’un a ydych chi o ddifrif am gystadlu, neu yn syml rydych chi’n dwlu chwarae gemau cyfrifiadurol, mae croeso i chi yma.
-
Mae ein timau’n cystadlu ym Mhencampwriaethau Myfyrwyr E-chwaraeon Prydain, gan chwarae:
- Valorant
- League of Legends
- Overwatch 2
- Rocket League
- EA FC
Rydyn ni hefyd yn cymryd rhan mewn cynghreiriau eraill a thwrnameintiau mewnol gan chwarae gemau fel:
- Apex Legends
- PUBG Mobile
- Street Fighter
- Smash Bros
- Fortnite
- Marvel Rivals
- Williams F1 ac Assetto Corsa (Efelychwyr Rasio)
-
Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i chwarae gemau cyfrifiadurol, hyfforddi a chystadlu fel chwaraewr proffesiynol, gan gynnwys:
- Cyfrifiaduron chwarae gemau Alienware safon uchel (cyfres Nvidia RTX 20, CPUs Intel i7)
- Monitorau chwarae gemau 240Hz
- Ategolion HyperX
- Gorsafoedd VR
- Efelychwyr Rasio eSIM
-
Sesiynau Hyfforddi Tîm:
Yn ystod y rhan fwyaf o’r egwyliau cinio ac ar ôl coleg - Mae’r amseroedd yn amrywio ychydig bob tymor, felly dewch i siarad â ni i gael gwybod mwy os hoffech ymuno â thîm.
Cystadlaethau E-chwaraeon:
Fel arfer, cynhelir cystadlaethau ar ddydd Mercher a dydd Iau. Gallwch hefyd edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn genedlaethol: Pencampwriaethau Myfyrwyr E-chwaraeon Prydain
Sesiynau anffurfiol:
Rydym yn cynnal sesiynau ‘rhoi cynnig arni’, diwrnodau chwarae gemau cyfrifiadurol anffurfiol wythnosol a chlybiau haf ar gyfer chwaraewyr gemau sydd eisiau ymuno â’r hwyl ond nid y timau. Dewch i siarad â’r darlithwyr TG ar eich campws i gael gwybod mwy.
Byddwch yn ymwybodol, ar gyfer rhai sesiynau ar ôl coleg, y bydd angen i chi sicrhau y gallwch drefnu mynd adref.

E-chwaraeon ac Addysg
Nid chwarae gemau cyfrifiadurol yn unig yw e-chwaraeon, mae’n ddiwydiant sy’n tyfu gyda llwybrau gyrfa go iawn. Byddwch yn meithrin sgiliau trosglwyddadwy fel:
- Gwaith tîm a chyfathrebu
- Llunio strategaethau a gwneud penderfyniadau
- Llythrennedd digidol
- Creu cynnwys
Ar ein Campws yn y Graig rydym yn cynnig cwrs E-chwaraeon Lefel 3 pwrpasol, ac ar ein campws yn Aberteifi rydym yn cynnig unedau E-chwaraeon ar ein cyrsiau TG.
Newyddion E-Chwaraeon
Yn ddiweddar, mynychodd ein staff E-chwaraeon a’n myfyrwyr Academi BETT 2025, lle bu ein Tîm Rocket League CSG yn cystadlu yn Nhwrnamaint Rocket League Pencampwriaethau Myfyrwyr E-chwaraeon Prydain eleni.

Yng Ngholeg Ceredigion, mae math newydd o gystadleuaeth yn dod â myfyrwyr ynghyd mewn diwydiant sy’n tyfu gyda chyfleoedd ar gyfer gyrfaoedd mewn datblygu gemau a ffrydio a rheoli digwyddiadau.
