Skip page header and navigation

Coleg Sir Gâr

Yn bresennol:
  • Mr John Edge (Cadeirydd)

  • Mrs Abigail Salini (Is-gadeirydd) [ar-lein] [cyrhaeddodd am 15:00]

  • Mr Alan Smith

  • Mrs Jacqui Kedward

  • Mr Mike Theodoulou

  • Dr Andrew Cornish (Pennaeth)

  • Mr John Williams (Staff CC)

  • Ms Hannah Freckleton (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2024/2025)

  • Mrs Sophie Wint

  • Miss Angharad Lloyd-Beynon [ar-lein] [cyrhaeddodd am 15:08]

  • Miss Estelle Hitchon

  • Mrs Sharron Lusher 

  • Dr Jeanne Childs

  • Mr Rhys Taylor

Rheolwyr y Coleg:         
  • Mrs Amanda Daniels (Is-bennaeth Cwricwlwm, Sgiliau ac Ansawdd)
  • Mr Ralph Priller (Prif Swyddog Gweithredu)
  • Mrs Vanessa Cashmore (Is-bennaeth Cynllunio, Dysgwyr a Chyfathrebu)
Yn gwasanaethu:           
  • Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)
  • Mr Martin Davies (Cyfieithydd)
Gwesteion:
  • Yr Athro Elwen Evans KC (Is-Ganghellor, PCYDDS)

  • Sarah Clark (Ysgrifennydd y Brifysgol, PCYDDS)

  • Mr Ioan Armstrong (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2025/2026)

Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod.

Cychwynnodd y cyfarfod am 14:32.

Diolchodd y Bwrdd Hannah Freckleton am ei cherdyn a siocledi, a dymunwyd yn dda iddi yn ei dyfodol a’i hastudiaethau ym Mhrifysgol Princeton.

 

Eitem agenda 

Prif bwyntiau trafod

Cam gweithredu/penderfyniad

1

Gweinyddu’r Cyfarfod    
 

25/15/1.1

Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiant 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs Erica Cassin, Mr Ben Francis, Mr Huw Davies, a Mr Louis Dare (Staff CSG).

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach heblaw am y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd.

 
 

25/15/1.2

Cymeradwyo cofnodion cyfyngedig CSG ar gyfer y cyfarfod diwethaf: 3ydd Ebrill 2025

CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion CYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Sir Gâr a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 3ydd Ebrill 2025, fel cofnod cywir.

 
 

25/15/1.3

Materion yn ymwneud â Choleg Ceredigion

Cymeradwyo cofnodion Cyfyngedig CC ar gyfer y cyfarfod diwethaf:  3ydd Ebrill 2025

Nid oedd unrhyw faterion yn ymwneud â Choleg Ceredigion.

CADARNHAODD Bwrdd Coleg Ceredigion gofnodion CYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ar ddydd Iau, 3ydd Ebrill 2025, fel cofnod cywir.

 
 

25/15/1.4

Materion sy’n codi a phwyntiau gweithredu nas cwmpaswyd mewn mannau eraill ar yr agenda.

  • Cynllun Gweithredu Treigl Bwrdd CSG/CC

Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd fod Medr wedi cynhyrchu ei gynllun gweithredol, a darparwyd dolen gyswllt i hwn.

Er nas cadarnhawyd hyn yn ysgrifenedig eto disgwylid y byddai 85% y cant o’r cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol yn cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru a 15% gan y Coleg.  

Mae’r Coleg yn hapus iawn bod campws SA1 PCYDDS, sydd â chyfleusterau heb eu tebyg, yn un o’r lleoliadau ar gyfer y gystadleuaeth sgiliau genedlaethol, a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf.

Roedd pob pwynt gweithredu o fewn yr amserlen berthnasol wedi’u cwblhau.

 

2

Materion i Drafod a/neu Gymeradwyo
   
 

25/16/2.1

Adroddiad Llywydd Undeb y Myfyrwyr

CAFODD y Bwrdd adroddiad, wedi’i gyflwyno yn Gymraeg, gan Hannah Freckleton (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2024/2025).  NODWYD:

  • Diolchodd Hannah Freckleton y Bwrdd am eu cefnogaeth yn ystod ei blwyddyn fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr.
  • Roedd y profiad wedi dangos bod llais y dysgwr yn cael cynrychiolaeth o fewn y bwrdd, a bod myfyrwyr yn cael eu hystyried yn y broses o wneud penderfyniadau.  Roedd ei hyder i siarad wedi gwella ac roedd hi wedi elwa llawer o fod yn gysylltiedig ar y Bwrdd.
  • Uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd gweithio gyda’r Samariaid, ymgysylltu â Diwrnod Rhyngwladol y Merched ac ymwneud ag undebau myfyrwyr eraill, gan weithio ar lefel genedlaethol.
  • Roedd sefydlu cylchgrawn y myfyrwyr yn uchafbwynt, a dderbyniodd adborth da.
  • Cafwyd heriau drwy gydol y flwyddyn, ac roedd hi wedi bod y tu allan i’w chylch cysur, a oedd wedi ei helpu i dyfu llawer yn ystod y flwyddyn.
  • Cafodd yr adborth a roddwyd gan Gyngor y Myfyrwyr i’r Cynllun Strategol newydd ei gynnwys a’i ystyried ac roedd hyn yn wych i weld ac yn ategu’r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr.

Diolchodd y Bwrdd Hannah Freckleton am ei hadroddiad a’i geiriau caredig.  

Estynnodd y Bwrdd groeso i Ioan Armstrong, Llywydd newydd Undeb y Myfyrwyr, i gyfarfod y Bwrdd a dymunwyd blwyddyn lwyddiannus iddo.

Gofynnwyd i Lywydd Undeb y Myfyrwyr pa gyngor y gallai hi gynnig i alluogi’r Bwrdd i helpu Myfyrwyr-Lywodraethwyr newydd. NODWYD fod Llywydd Undeb y Myfyrwyr wedi cwrdd â’r Clerc ac wedi trafod hyn.  Rhoddwyd ystyriaeth i lawlyfr yn cynnig gwybodaeth a dealltwriaeth o bynciau penodol, gan gynnwys acronymau sy’n debygol o ymddangos, yn broses a allai fod o gymorth.

 
 

25/16/2.2

Adroddiad y Pennaeth

CAFODD ac YSTYRIODD y Bwrdd Adroddiad y Pennaeth.   NODWYD:

  • Penodwyd Prif Weithredwr (CEO) newydd Medr, gyda James Owen yn cymryd y rôl hon.  Ar hyn o bryd mae’n Brif Swyddog Gweithredu ar gyfer Medr.
  • Mae Medr ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad ar ei fframwaith rheoleiddiol newydd, gan gynnwys y Fframwaith Ansawdd newydd.
  • Mae PCYDDS a Chyngor Sir Ceredigion wedi gwneud cyhoeddiad ynghylch dyfodol Campws Llanbedr Pont Steffan. 
  • Mae cynlluniau’n cael eu harchwilio i ddatblygu hyfforddiant galwedigaethol ôl-16 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
  • Mae cynlluniau ar gyfer hyfforddiant sgiliau ar y safle wedi cael eu disgrifio fel “cyffrous iawn, iawn” gan arweinydd cyngor Ceredigion.
  • Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a’r cyngor hefyd wedi cadarnhau eu bod yn y “camau cynnar o archwilio cyfleoedd” i ddatblygu darpariaeth sgiliau a galwedigaethol yn Llanbedr Pont Steffan.
  • Mae gan y Coleg ymrwymiad hirbarhaol i gydweithio ym mhopeth a wnawn.  Yn unol â’r ethos hwn, byddwn yn ymgysylltu’n weithredol â’n partneriaid ac yn parhau i fod yn awyddus i ddeall y cyfleoedd sy’n cael eu harchwilio ar hyn o bryd rhwng yr awdurdod lleol a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
  • Gwnaeth y Pennaeth/Prif Weithredwr a’r Is-bennaeth Cwricwlwm, Sgiliau ac Ansawdd gwrdd â Chyfarwyddwr Addysg Cyngor Sir Gaerfyrddin a gofynnwyd iddynt ymuno â Bwrdd Strategol ar draws y sir ar gyfer Addysg Ôl 16. Mae aelodau yn cynnwys y tîm addysg sydd wedi’i leoli yn Neuadd y Sir a’r holl Brifathrawon Ysgolion Uwchradd. Mae hyn yn unigryw i Gymru a chredwn y bydd yn dod yn arfer gorau cenedlaethol.
  • Mae pynciau trafod wedi cynnwys:
  • Campws Caerfyrddin
  • TAAU – cymwysterau ôl-16 cenedlaethol newydd
  • Modelau Ôl 16 trawsnewidiol sydd yn weithredol ar draws Cymru 
  • Mae cyfarfodydd personol gyda’r Cyfarwyddwr Addysg yn parhau lle mae CSG wedi trafod materion ehangach megis pontio ADY, Prentisiaethau Iau a’n rhaglen Mynediad Ieuenctid ni ein hunain, pontio disgyblion yr Uned Atgyfeirio Disgyblion (PRU) i’r Coleg a chludiant ar draws y sir.
  • Ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd, mae’r Pennaeth/Prif Weithredwr wedi cynnal cyfarfodydd gyda’r canlynol:
  • Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch (Vikki Howells), 20 munud ar-lein, yn trafod yr heriau sy’n wynebu’r Coleg a’r sector AB.
  • Adam Price – cyfarfod ar Gampws y Graig yn Llanelli fel rhan o’r drafodaeth barhaus mewn perthynas â Rhydaman.
  • Cefin Campbell - cyfarfod ar Gampws y Graig yn Llanelli fel rhan o’r drafodaeth barhaus yn ymwneud â Rhydaman a thrafodaeth ehangach o gwmpas cymwysterau 14-16, Medr a’r heriau cyfredol sy’n wynebu’r Coleg.
  • Jane Dodds - ymwelodd â’r Gelli Aur i weld y gwaith sy’n cael ei wneud mewn Amaethyddiaeth a Sgiliau Gwyrdd. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn yr Academi Sgiliau Gwyrdd.
  • Fe wnaeth Arolwg Estyn o ddysgu seiliedig ar waith (Consortiwm BWbl dan arweiniad Coleg Sir Benfro) barhau am bron i bythefnos ar ddechrau mis Mehefin. Roedd y canlyniad yn gadarnhaol, ond mae rhaid i’r Coleg aros am yr adroddiad gorffenedig, a ryddheir ar ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.
  • Cynhaliwyd dau ddigwyddiad Gwobrau Cyflawni Rhagoriaeth yn Aberteifi (Coleg Ceredigion) a Llanelli (Coleg Sir Gâr). Mae’r digwyddiadau gwych hyn yn dod â’r myfyrwyr sy’n perfformio orau o bob rhan o’r coleg at ei gilydd.  Cynhelir y rhain yn ychwanegol i’r meysydd cwricwlwm unigol, sy’n dathlu llwyddiant yr holl fyfyrwyr.
  • Cynhelir Graddio ar Orffennaf 3ydd 2025 yn y Ffwrnes Llanelli gyda dwy seremoni am 11am a 3pm.

Gofynnwyd cwestiwn p’un a oes unrhyw oblygiadau i’r Coleg mewn perthynas â Medr.  NODWYD fod rhai pryderon o fewn y sector AB bod y fframwaith heb gael ei ysgrifennu gydag AB mewn golwg, gyda rhai o’r gwahaniaethau sy’n digwydd o fewn y sector hwn.  Mae’r sector AB wedi cwrdd fel grŵp yn ddiweddar i ymateb a darparu adborth i Medr er mwyn ei helpu i fod yn gynrychioliadol o’r sector AB o fewn y fframwaith rheoleiddiol.

Gofynnwyd cwestiwn am safle’r canlyniadau ôl-16. Nodwyd, y llynedd bod mesurau perfformiad cyson mewn perthynas â lefel 3 wedi perfformio’n dda. Yn lefel 1 a 2, roedd angen mwy o waith. Cafodd y Coleg gyfarfod y Bwrdd Ansawdd yr wythnos hon, ac mae’r Coleg wedi bod yn targedu’r meysydd hyn. Gobeithir, erbyn diwedd y flwyddyn, y bydd y meysydd hyn wedi gweld gwelliant. Mae llawer o waith mewnol wedi cael ei wneud ar fonitro ac olrhain ar hyd y flwyddyn.

 

3

Materion i’w Cymeradwyo*

   
  25/17/3.1 Doedd dim materion i’w cymeradwyo.  

4

Materion er Gwybodaeth**

   
 

25/18/4.1

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 8 Mai 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 8fed  Mai 2025.

 
 

25/18/4.2

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 15 Mai 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 15fed Mai 2025.

 
 

25/18/4.3

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 22 Mai 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 22ain Mai 2025.

 
 

25/18/4.4

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 12fed Mehefin 2025.

 
 

25/18/4.5

Cylchgrawn y Myfyrwyr

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH gopi o gylchgrawn y myfyrwyr.

 
 

25/18/4.6

MIM: cymeradwyaeth i symud ymlaen i gam 2

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH ohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru yn rhoi eu cymeradwyaeth i symud i gam 2 y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM).

 
 

25/18/4.7

MIM: Cadarnhad anfoneb Cam 1 ac arian grant gan Lywodraeth Cymru

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr anfoneb cam 1 oddi wrth Bartneriaeth Addysg Cymru (WEPco) a chadarnhad yr arian grant oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r MIM.

 
 

25/18/4.8

Gwobrau Cyflawni Rhagoriaeth 2025

  • (i) CC
  • (ii) CSG

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH bamffledi ar y ddwy noson o wobrau Cyflawni Rhagoriaeth.

 
 

25/18/4.9

Diolchiadau’r Myfyriwr-Lywodraethwr

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH gopi o’r cerdyn, gyda diolch i’r Bwrdd a dderbyniwyd oddi wrth Hannah Freckleton (Llywydd Undeb y Myfyrwyr 2024/2025 a Myfyriwr-Lywodraethwr). Dymunodd y Bwrdd bob llwyddiant i Hannah yn ei dyfodol.

 

5

Unrhyw Fater Arall
   
  25/19/5.1

Doedd dim unrhyw fater arall.

 

6

Datganiadau o Fuddiant
   
 

25/13/6.1

I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.  

7

Dyddiad y cyfarfod nesaf
   
 

25/21/7.1

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Dydd Iau 16eg Hydref 2025

 

Daeth y cyfarfod i ben am 16:47

Cofnodion Cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd am 4:00pm ddydd Iau, 3ydd Ebrill 2025 yn yr Ystafell Gynadledda, Campws y Graig.

Yn bresennol:
  • Mr John Edge (Cadeirydd)
  • Mrs Abigail Salini (Is-gadeirydd)
  • Dr Andrew Cornish (Pennaeth)
  • Mr John Williams (Staff CC)
Yn gwasanaethu: 
  • Mr Damion Gee (Ysgrifennydd y Cwmni a Chlerc i’r Bwrdd)
  • Mr Martin Davies (Cyfieithydd)
Gwesteion:
  • Yr Athro Elwen Evans KC (Is-Ganghellor, PCYDDS)

Cadarnhaodd y Clerc fod cworwm yn y cyfarfod.

Mae Coleg Ceredigion yn is-gwmni o Goleg Sir Gâr.  Mae cyfarfodydd Bwrdd Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cyd-redeg ac mae materion sy’n ymwneud â phob sefydliad yn cyson â’i gilydd.  Mae pob aelod o Fwrdd Coleg Ceredigion yn aelodau o Fwrdd Coleg Sir Gâr gyda’r Cadeirydd yn dal y swydd hon ar gyfer y ddau sefydliad.  Cyfarwyddwyr Coleg Ceredigion yn unig sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n ymwneud â Choleg Ceredigion yn unig.  Mae’r cofnodion hyn yn ymwneud ag eitemau sy’n berthnasol i Goleg Ceredigion neu sy’n effeithio arno.

Cychwynnodd y cyfarfod am 16:00.

Diolchodd y Bwrdd i Huw Davies am ei waith rhagorol a’i ymrwymiad i’r Coleg dros y naw mlynedd diwethaf.  Bu’n gadeirydd ar y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau drwy gydol cyfnod Covid a’r cyfnod ailstrwythuro, gan adael y Coleg mewn sefyllfa ariannol ardderchog.  Dywedodd y Pennaeth fod Huw wedi bod yn gefnogwr aruthrol i’r Coleg am gyfnod sylweddol o amser.

Nododd y Bwrdd y byddai’r Pennaeth yn gadael y Coleg ym mis Ionawr 2026.  Mae Andrew wedi bod yn y Coleg ers 31 mlynedd, ac yn swydd y Pennaeth ers 7 mlynedd.  Mae’r Coleg wedi datblygu’n eithriadol o dda o dan arweiniad Andrew.  Mae’r Bwrdd yn diolch i Andrew am ei waith a’i ymrwymiad. Dywedodd Is-Ganghellor PCYDDS fod gweithio gydag Andrew wedi bod yn bleser o’r mwyaf ac roedd yn edrych ymlaen at weithio gydag ef am weddill ei gyfnod fel Pennaeth.
 

Eitem agenda  Prif bwyntiau trafod Cam gweithredu/penderfyniad
Gweinyddu’r Cyfarfod    

25/01/1.1

Ymddiheuriadau am absenoldeb a datganiadau o fuddiant

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach heblaw am y rheiny oedd eisoes gan Glerc y Bwrdd.

 

25/01/1.2

Cymeradwyo cofnodion cyfyngedig CSG y cyfarfod diwethaf: 12fed Rhagfyr 2024

CADARNHAODD y Bwrdd gofnodion CYFYNGEDIG ac ANGHYFYNGEDIG cyfarfod Bwrdd Coleg Ceredigion a gynhaliwyd ddydd Iau, 12fed Rhagfyr 2024, fel cofnod cywir.  

25/01/1.3

Matters arising and action points not covered elsewhere on the agenda.

  • Cynllun Gweithredu Treigl Bwrdd CSG/CC

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

Roedd pob pwynt gweithredu o fewn yr amserlen berthnasol wedi’u cwblhau.

 
Materion i Drafod a/neu Gymeradwyo
   

25/02/2.2

Adroddiad y Pennaeth

  • Cynllun Strategol Medr

CAFODD ac YSTYRIODD y Bwrdd Adroddiad y Pennaeth.   NODWYD:

  • Rhwng popeth, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £12 miliwn i’r Sector AB ar gyfer ariannu twf yn ystod y flwyddyn (mae gan CSG ychydig dros £1 miliwn o’r arian hwn oherwydd gor-recriwtio y tu hwnt i’r targed), £15 miliwn ar gyfer y Dyfarniad Cyflog, £2 filiwn ar gyfer Iechyd Meddwl, a £3.5 miliwn ychwanegol ar gyfer y LCA.
  • Mae rhywfaint o arian newydd, cymharol fach ar gael ar gyfer gwariant cyfalaf o fewn y portffolio ADY - mae’r Coleg yn edrych ar hyn ar hyn o bryd ar gyfer gwneud rhywfaint o waith mân.
  • Mae’r trafodaethau ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Yswiriant Gwladol yn dal i fynd rhagddynt.  Llywodraeth Cymru a’r DU i ddod i gytundeb ym mis Mai 2025.
  • Y cyhoeddiad y byddai tâl o £1 er mwyn i ddysgwyr deithio ar fws yn dod i rym ar gyfer plant dan 21 oed o fis Medi 2025 fel rhan o gynllun peilot teithio dysgwyr. Bu llawer o drafodaethau ynghylch sut mae hyn yn effeithio ar wahanol ranbarthau, gan fod llwybrau bysiau a bysiau rheolaidd yn nodweddion pwysig yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
  • Bydd rhaglen SEREN yn cael ei hail-ddyfeisio wrth symud ymlaen.  Mae hyn yn cael ei ddatblygu ond bydd yn cynnwys elfen alwedigaethol a bydd yn cael ei dreialu mewn rhai ysgolion a sefydliadau AB cyn ei gyflwyno.
  • Gofynnwyd i’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ganolbwyntio ar flaenoriaethau’r Prif Weinidog, gan gynnwys swyddi a thwf. Bydd 50% o gyllid y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn mynd tuag at Twf, a bydd y gwaith hwn yn cael ei fonitro’n agos.
  • Medr (Cwynion a Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol (SDA): (Adran 127))— Mae ymgynghoriad ar weithdrefnau newydd yn ymwneud â defnyddio’r SDA ar draws y sector trydyddol ar y gweill.
  • Lansiwyd y cynllun strategol y mis hwn. Mae’r cynllun gweithredol yn cael ei ddatblygu i’w roi ar waith ym mis Mai / Mehefin 2025.
  • Cymwysterau Cymru - Rhoddodd sawl Pennaeth (gan gynnwys Pennaeth CSG) dystiolaeth i’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn Llywodraeth Cymru ar Gymwysterau 14-16.   Mae cyfres newydd o gymwysterau 14-16 ar fin cael ei chyhoeddi gyda: -
  • Ton 1 – prif gymwysterau TGAU – yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2025 ac yn cael eu dyfarnu yn Haf 2027.
  • Ton 2 – cymwysterau TGAU ‘newydd’ – yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2026 ac yn cael eu dyfarnu yn Haf 2028.
  • Ton 3 – cymwysterau TAAU / Cyfres Sgiliau / Sylfaen yn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2027 a’u dyfarnu yn Haf 2029.
  • Y risg a nodwyd: Beth fydd y 900+ o bobl ifanc 14 i 16 oed sy’n ymweld â’r Coleg bob wythnos yn ei astudio yn y dyfodol? Mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â’r mater allweddol hwn.
  • Cyflwynodd NUS Cymru wybodaeth yn tynnu sylw at bedwar maes y mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn gweithio arnynt ar hyn o bryd: cyllid, trafnidiaeth, myfyrwyr traws, a myfyrwyr rhyngwladol. Pwysleisiodd Llywydd UCM bwysigrwydd cynrychiolaeth ac ymgysylltu effeithiol â dysgwyr a thrafododd ddatblygu a gweithredu Cod Ymgysylltu â Dysgwyr a Chynllun Diogelu Dysgwyr.
  • Ar hyn o bryd mae’r sector yn cymryd rhan mewn prosiect ‘Mynd i’r Afael â Chasineb at Fenywod’ rhwng Cymru a Chanada. Mae hyn yn dilyn datblygiad y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gyda Cholegau Canada y llynedd. Mae pump o golegau o Gymru yn cymryd rhan, gan gynnwys Coleg Sir Gâr, a gynrychiolir gan Tom Snelgrove (Cyfarwyddwr Cefnogi Dysgwyr).
  • Wrth i’r etholiadau gwleidyddol agosáu, mae Colegau Cymru yn dechrau meddwl am y canlynol: Dangos EFFAITH y sector yn gymdeithasol, yn amgylcheddol ac yn economaidd, Ymgysylltu â Medr a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â blaenoriaethau strategol allweddol, Datblygu a mynegi detholiad o ofynion (MANIFESTO), Ymateb i heriau a chyfleoedd newydd a Chynyddu cynaladwyedd ariannol wrth reoli risg.

Gofynnwyd cwestiwn am gynlluniau i ymgysylltu ag ymgeiswyr ar drothwy etholiadau’r cynulliad yng Nghymru.  NODWYD bod dull dwy haen yn hyn o beth. Yn gyntaf, mae Colegau Cymru yn lobïo ar ran y sector ac fe fyddant yn parhau i wneud hynny. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan y Penaethiaid sy’n mynychu cyfarfodydd trawsbleidiol ar wahanol bynciau.  Mae’r Coleg yn cyfarfod ag aelodau’r Senedd ac awdurdodau lleol yn rheolaidd i drafod materion sy’n ymwneud ag addysg yn gyffredinol, cynlluniau a phrosiectau.

Diolchodd y Pennaeth i’r Is-ganghellor am ei chefnogaeth yn y byd gwleidyddol.

Gwnaed sylw yn awgrymu y dylid paratoi dogfen friffio ar safbwynt y Coleg mewn perthynas â’r MIM a phrosiectau eraill ar gyfer y llywodraethwyr fel bod y wybodaeth gywir gan holl Lywodraethwr a llysgenhadon y Coleg pe bai cwestiynau’n cael eu gofyn iddynt.  Ystyriwyd bod hyn yn syniad da a gallai gynnwys gwybodaeth gan ColegauCymru a darn rhanbarthol.

Gofynnwyd cwestiwn am yr effaith ariannol o ganlyniad i’r newid i gludiant dysgwyr.  NODWYD bod y Coleg yn cynnal trafodaethau agos gydag adrannau trafnidiaeth yn y ddwy Sir a bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn y cyfarfod adnoddau nesaf.

 

25/02/2.3

Swydd y Prif Weithredwr / Pennaeth

YSTYRIODD y Bwrdd swydd y Prif Weithredwr/Pennaeth o fewn y Coleg yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am benderfyniad y Pennaeth presennol i adael y swydd ym mis Ionawr 2026.  NODWYD:

  • Cynhaliwyd cyfarfod o’r Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu i drafod y broses benodi ar gyfer y swydd.
  • Teimlai’r Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu fod angen grŵp gorchwyl a gorffen i weithio gyda PCYDDS a’r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant i arwain ar y gwaith hwn, gan gynnwys Llywodraethwyr sydd â’r sgiliau a’r profiad perthnasol. Dyma aelodau’r grŵp:
  • Yr Athro Elwen Evans (Is-Ganghellor, PCYDDS)
  • Sarah Clark (Ysgrifennydd y Brifysgol, PCYDDS)
  • John Edge (Cadeirydd)
  • Abigail Salini (Is-gadeirydd)
  • Erica Cassin (Aelod o’r Bwrdd)
  • Sharron Lusher (Aelod o’r Bwrdd)
  • Rebecca Jones (Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant)
  • Mae gan Abigail Salini ac Erica Cassin sgiliau a phrofiad ym maes AD, ac mae Sharron Lusher wedi bod mewn swydd Pennaeth AB ac mae ganddi wybodaeth ragorol am y sector.
  • Bydd y Bwrdd yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau drwy gydol y broses benodi.
 

25/02/2.7

Canlyniadau Ysbrydoli Sgiliau

CAFODD ac YSTYRIODD y Bwrdd wybodaeth am lwyddiant Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn y cystadlaethau Sgiliau.  NODWYD:

  • Mae WorldSkills UK (WSUK) yn gyfres uchel ei pharch o gystadlaethau sgiliau cenedlaethol sydd wedi’u cynllunio i godi safonau addysg dechnegol a hyfforddiant galwedigaethol ledled y DU.
  • Mae cylch cystadlu WSUK yn dilyn llwybr strwythuredig, gan ddechrau gyda chystadlaethau rhagbrofol rhanbarthol ac ar-lein ym mis Ebrill ac sy’n parhau tan fis Mehefin. Yna mae cystadleuwyr llwyddiannus yn symud ymlaen i hyfforddi a datblygu yn ystod misoedd yr haf, gan gyrraedd yr uchafbwynt sef y Rownd Derfynol Genedlaethol bob mis Tachwedd.
  • Ym mis Tachwedd 2024, bu deg dysgwr o Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion yn cynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WSUK a gynhaliwyd ym Manceinion, gan gystadlu ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau.
  • Enillodd dysgwyr y Coleg 7 medal aur, 8 medal arian, 8 medal efydd, gyda 33 yn cael canmoliaeth uchel a 2 yn ennill gwobr y gorau yn y rhanbarth.
  • Mae Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion unwaith eto’n dangos eu hymrwymiad diwyro i ragoriaeth sgiliau, gyda 82 o geisiadau gan ddysgwyr wedi’u cyflwyno ar gyfer cylch cystadlaethau WorldSkills y DU 2025.
  • Mae cylch cystadlu eleni yn garreg filltir arbennig o gyffrous, oherwydd bydd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU yn cael eu cynnal yng Nghymru rhwng 25 a 28 Tachwedd 2025.
 
Materion i’w Cymeradwyo*
 
25/03/3.1 Doedd dim materion i’w cymeradwyo.  
     

25/04/4.1

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o Gyfarfod y Pwyllgor Dysgwyr a Safonau a gynhaliwyd ar 20fed Ionawr 2025.  

25/04/4.2

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Adnoddau, Gwytnwch a Phartneriaethau a gynhaliwyd ar 6ed Chwefror 2025.  

25/04/4.3

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor y Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg a gynhaliwyd ar 20fed Chwefror 2025.  

25/04/4.4

Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 20 Mawrth 2025

CAFODD y Bwrdd er GWYBODAETH yr Adroddiad Pwyllgor o gyfarfod y Pwyllgor Chwilio a Llywodraethu a gynhaliwyd ar 20fed Mawrth 2025.  

25/04/4.5

DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwydd ddydd Iau 11 Gorffennaf 2024

(i) Cyngor PCYDDS

(ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS

(iii) Y Cyd-gyngor

CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodioncyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau, 11eg Gorffennaf 2024.  

25/04/4.6

DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Mawrth 26 Medi 2024

(i) Cyngor PCYDDS

(ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS

CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 26ain Medi 2024.  

25/04/4.7

DETHOLIADAU o Gofnodion Cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau 28 Tachwedd 2024

(i) Cyngor PCYDDS

(ii) Cyngor Cyfyngedig PCYDDS

CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, y DETHOLIAD o Gofnodion cyfarfod Cyngor PCYDDS a gynhaliwyd ddydd Iau, 28ain Tachwedd 2024.  

25/04/4.8

Data Sgiliau’r Bwrdd

  1. Trosolwg o Ddata Sgiliau a Phrofiad y Bwrdd 2025
CAFODD y Bwrdd drosolwg o werthusiad sgiliau’r Bwrdd, er GWYBODAETH.  

25/04/4.9

Cyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn Aberteifi

  1. Calendr Cyfarfodydd 24/25
CAFODD y Bwrdd, er GWYBODAETH, fanylion am gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin yn Aberteifi ar 26 Mehefin 2025 a’r cinio cyn y cyfarfod hwn. Roedd calendr cyfarfodydd wedi’i ddiweddaru ar gael, yn dangos y newid i amser dechrau’r cyfarfod.  
Unrhyw Fater Arall
   
25/05/5.1 NODODD y Cyfarfod fod Llywydd Undeb y Myfyrwyr a’r myfyriwr-lywodraethwr Hannah Freckleton wedi ennill gwobr gan Gwmni Anrhydeddus Lifrau Cymru.  Fe wnaeth y Bwrdd longyfarch Hannah ar ei chyflawniad.  
     

25/06/6.1

I gadarnhau unrhyw wrthdaro buddiannau a all fod wedi codi yn ystod y cyfarfod.

Ni dderbyniwyd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant pellach yn ystod y cyfarfod.  
Date of the next meeting  

25/07/7.1

Date of the next meeting

Dydd Iau 26fed Mehefin 2025