Skip page header and navigation
Lily and Sophie standing next to each other in the motor vehicle workshop

Mae pedair o fecanyddion ceir uchelgeisiol benywaidd yn hyfforddi ar gampws Aberteifi Coleg Ceredigion. 

Bûm yn siarad â Lily a Sophie am eu taith hyd yma a’r hyn wnaeth ysbrydoli eu dewis gyrfaol.


A hithau wedi hyfforddi a gweithio ym maes arlwyo a lletygarwch, cafodd Sophie Cope y cyfle i gael newid gyrfa ar ôl genedigaeth ei hail ferch fach, gan ei hysgogi i newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.

Gwnaeth ei gŵr Daniel, mecanydd ceir sy’n dysgu yng Ngholeg Ceredigion, annog Sophie i roi cynnig ar sgil newydd ac felly penderfynodd hi gymryd tro pedol yn ei gyrfa. 

Meddai Sophie Cope: “Rwyf wir yn mwynhau gwneud rhywbeth hollol wahanol ac rwy’n eithaf hoffi baeddu fy nwylo.

“Hefyd rwy’n meddwl ei bod hi’n beth braf i fy nwy ferch fach, sydd ar hyn o bryd yn saith a 16 mis oed, weld mam yn gwneud beth mae dad yn ei wneud.

“Yn ogystal rwy’n ailwneud fy TGAU mathemateg mewn sesiynau un-i-un sy’n wych i mi, a minnau wedi bod allan o addysg ers tro. 

“Mae’r tiwtoriaid yn wych a does dim y fath beth â chwestiwn twp, maen nhw am i chi ddysgu ac maen nhw am i chi ddeall pethau yn eich ffordd eich hun. 

“Fy ngobaith i yw cychwyn busnes teuluol yn y diwydiant cerbydau modur gyda fy ngŵr ac annog cwsmeriaid sy’n fenywod gan y gall fod yn eithaf anodd i gerdded i mewn i garej gyda phroblemau pan nad ydych chi’n gwybod dim am geir.”

Cymerodd Lily Noble dro pedol yn ei haddysg hefyd pan sylweddolodd nad oedd y chweched dosbarth yn ddewis iawn iddi hi. 

Mae hi’n defnyddio ei sgiliau yn y coleg yn barod ac mae hi wedi lleihau cost bil cynnal a chadw beic modur trwy wneud y gwaith ei hun, ar ei beic ei hun, gan arbed costau llafur. 

Meddai Lily Noble: “Rwy’n meddwl bod mecaneg yn sgil cyffredinol da i gael yn enwedig mewn sefyllfaoedd lle, er enghraifft, y gallech chi dorri lawr, neu gael pynctsiar neu fod angen gwneud ychydig o fân atgyweiriadau. 

“Rwy’n eithaf mwynhau’r ochr theori o bethau ar y foment ac mae’r staff a’r gefnogaeth fentora rwy’n ei chael yn wirioneddol dda.”

Mae Sophie a Lily yn ddwy o’r pedair o ddysgwyr benywaidd yn y grŵp o 19 o ddysgwyr cynnal a chadw cerbydau modur lefel un. 

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau