Skip page header and navigation

Diploma Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Busnes

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Ar y cwrs Busnes Lefel 1 hwn byddwch yn archwilio pynciau fel brandio, arddangosiadau gweledol, ac ymchwil busnes, wrth hefyd gynllunio a chynnal eich digwyddiadau eich hun. 

Mae’r cwrs yn darparu sylfaen gadarn mewn sgiliau busnes hanfodol, gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu a datblygiad personol. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu’n ymarferol ar deithiau maes addysgol, a fydd yn eich helpu i fagu hyder a chael profiad byd go iawn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Amcan y cwrs Busnes L1 yw rhoi’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo ym myd busnes. 

Trwy gyfuniad o brosiectau ymarferol, profiadau byd go iawn, a dysgu cydweithredol, byddwch yn datblygu cymwyseddau allweddol ym maes trefniadaeth, cyfathrebu, gwaith tîm, a datrys problemau, gan eich paratoi ar gyfer astudiaethau pellach neu rolau lefel mynediad yn y diwydiant busnes.

  • Bod yn Drefnus
  • Datblygu cynllun dilyniant personol
  • Gweithio gydag eraill
  • Ymchwilio i bwnc
  • Dod i wybod am fusnesau yn eich ardal 
  • Brandio cynnyrch
  • Creu Arddangosfa Weledol
  • Cyflwyno Syniad Busnes
  • Cyfrannu at gynnal digwyddiad
  • Cyfathrebu â Chwsmeriaid

Diben y cwrs hwn yw datblygu’r sgiliau trosglwyddadwy, y priodoleddau a’r ymddygiadau sydd eu hangen er mwyn symud ymlaen i astudiaeth bellach. 

Gall y dilyniant hwn gymryd llawer o lwybrau megis i raglen lefel dau, llwybrau astudio eraill neu brentisiaeth, gan arwain yn y pen draw at gyflogaeth.

Asesir unedau yn fewnol gan ddefnyddio aseiniadau a gynlluniwyd gan y ganolfan. Gall y dulliau asesu hyn gynnwys arsylwi mewn sefyllfaoedd cysylltiedig â gwaith, cyflwyniadau, prosiectau, chwarae rôl, cyfweliadau neu ysgrifennu estynedig.

Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Bydd angen o leiaf dau bwnc TGAU graddau D-G arnoch i astudio’r cwrs hwn. Bydd y rheiny heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu hystyried yn dilyn cyfweliad a phrawf mynediad.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau