
Busnes, Marchnata a Chyllid Lefel 3
- Campws Y Graig
Os yw’r syniad o gychwyn a rhedeg eich busnes eich hun yn eich cyffroi, neu os ydych chi eisiau archwilio byd busnes mewn ffordd ymarferol, weithredol - dyma’r cwrs i chi.
Mae ein cwrs Busnes galwedigaethol wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr uchelgeisiol sydd eisiau meithrin profiad yn y byd go iawn a datblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i lwyddo yn y byd busnes neu i ddod yn entrepreneur llwyddiannus.
Byddwch yn archwilio ystod eang o bynciau busnes fel marchnata, cyllid, y gyfraith, rheoli Digwyddiad a Recriwtio wrth gael mewnwelediad i’r hyn sydd ei angen i weld cyfleoedd, datblygu syniadau a’u gwireddu. Byddwch yn cael eich cefnogi ar hyd y daith gan ein Hyrwyddwr Entrepreneuriaeth, a all eich helpu i ddatblygu eich syniadau busnes, cysylltu ag entrepreneuriaid lleol, a chymryd rhan mewn digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio i roi hwb i’ch meddylfryd entrepreneuraidd.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i wneud y canlynol:
- Cymryd rhan mewn cystadlaethau menter cyffrous
- Ymweld â busnesau lleol ac adeiladu eich rhwydwaith proffesiynol
- Ennill profiad ymarferol drwy brosiectau ymarferol a digwyddiadau byw lle byddwch yn cynllunio, hyrwyddo ac yn rhedeg gweithgareddau busnes go iawn
P’un a ydych chi’n breuddwydio am lansio eich cwmni eich hun, yn anelu at yrfa lwyddiannus ym myd busnes, neu’n bwriadu mynd i’r brifysgol, mae’r cwrs hwn yn cynnig y man cychwyn perffaith.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cymhwyster hwn yn caniatáu i chi ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen a rhoi hyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu i chi. Caiff theorïau busnes cyffrous eu cyflwyno a’u trafod yn yr ystafell ddosbarth.
Mae ymweliadau â chyflogwyr yn sicrhau bod dysgwyr yn gallu cymhwyso theori busnes i astudiaethau achos go iawn. Mae cwblhau aseiniadau ac arholiadau’n llwyddiannus yn sicrhau bod dysgwyr yn ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n gallu arwain at hunangyflogaeth, cyflogaeth, prentisiaethau neu’r brifysgol. Mae siaradwyr gwadd a chystadlaethau yn gwella dysgu a dilyniant gyrfaol ymhellach.
Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i gwblhau diploma sylfaen cenedlaethol ym mlwyddyn un a diploma estynedig cenedlaethol mewn Busnes ym mlwyddyn dau, sy’n cynnwys 13 uned. Astudir ystod o unedau sy’n cynnwys y
- Gyfraith,
- Recriwtio a Dethol,
- Datblygu Ymgyrch Farchnata,
- Cyllid busnes a chyllid personol,
- Cyflwyno Syniad ar gyfer Busnes Newydd,
- Gwneud penderfyniadau busnes ac
- Egwyddorion Rheolaeth.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i yrfaoedd mewn amrywiaeth o feysydd sy’n gysylltiedig â busnes megis marchnata, adwerthu a chyllid. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys prentisiaethau sy’n gysylltiedig â busnes a dilyniant i addysg uwch.
Mae symud ymlaen o ddiploma sylfaen cenedlaethol blwyddyn un i ddiploma estynedig blwyddyn dau yn dibynnu ar fyfyrwyr yn dangos presenoldeb da, gwaith o ansawdd cyson, cyfweliad llwyddiannus a geirda tiwtor.
Asesir y cwrs hwn trwy ystod o ddulliau sy’n cynnwys arholiadau, aseiniadau, prosiectau a chyflwyniadau.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar: O leiaf pum TGAU graddau A* - C neu gyfwerth sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg iaith gyntaf a mathemateg, neu wedi cwblhau cymhwyster lefel dau mewn pwnc galwedigaethol perthnasol ar deilyngdod neu uwch yn llwyddiannus.
Bydd angen i’r TGAU Saesneg neu Fathemateg fod ar radd B o leiaf. Mae mynediad i fyfyrwyr hŷn heb gymwysterau ffurfiol trwy broses gyfweld.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.