Skip page header and navigation

Tystysgrif ILM mewn Arwain Tîm Lefel 2

  • Campws Pibwrlwyd
1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Wedi’i chynllunio ar gyfer arweinwyr timau a goruchwylwyr uchelgeisiol, mae’r rhaglen hyblyg hon yn meithrin yr hyder a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i arwain yn effeithiol yn y gweithle sydd ohoni heddiw. Gydag ystod o lwybrau dysgu opsiynol ac asesiadau byd go iawn, gall ddysgwyr symud ymlaen ar eu cyflymdra eu hunain a chymhwyso eu sgiliau ar unwaith.

Y canlyniadau i chi :

  • Y sgiliau craidd i arwain tîm yn llwyddiannus
  • Technegau cymhelliant i gael y gorau o bobl
  • Yr hyder i fynd i’r afael â materion anodd, megis tanberfformio
  • Offer i ddatblygu eich hun fel arweinydd

Yr effaith ar eich cyflogwr

  • Mae cymhwysiad di-oed yn y gweithle yn gwella perfformiad a chyfraddau cadw gweithwyr.
  • Staff sy’n gymwys i reoli pobl a pherthnasoedd
  • Gwell cyfathrebu a chydweithio mewn timau
  • Paratoi eich gweithlu ar gyfer y dyfodol gyda sgiliau arweinyddiaeth cynhwysol ac ymarferol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn (un diwrnod y mis yn y coleg gyda chefnogaeth diwtorial unigol)

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Sesiynau addysgu misol gyda thiwtorial unigol/sesiwn un i un ar gyfer pob uned Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn modd sy’n caniatáu cwblhau un uned fesul pob sesiwn fisol, a chwblhau un aseiniad fesur uned.

Bydd y cymwysterau hyn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill gan gynnwys: 

  • Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth 

Mae’r cymhwyster yn cynnwys pynciau megis Datblygu eich hun fel Arweinydd Tîm, Gwella Perfformiad y Tîm Gwaith, Cynllunio a Monitro a Rheoli Newid. Mae ystod gyfan o opsiynau ar gael sy’n cynnwys gwasanaeth cwsmer, datrys problemau, agweddau cyfreithiol, gwneud penderfyniadau ac arferion cyfathrebu. 

Bydd yr unigolyn yn elwa ar ddysgu sgiliau craidd i gyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid, gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar ddata, Cefnogi perfformiad tîm ac Iechyd a Diogelwch. Bydd cyflogwyr yn gweld eu staff yn datblygu eu potensial ac yn dod yn gymwys mewn rheoli pobl a pherthnasoedd.

Mae tair uned orfodol yn cwmpasu’r sgiliau craidd sydd eu hangen arnoch i arwain tîm. Byddwch yn dysgu sut i gynllunio, dyrannu a monitro gwaith; offer a thechnegau i ddatblygu eich hun fel arweinydd; a sut i gael y mwyaf allan o’ch tîm. 

Aseiniad yn gysylltiedig â phob uned. 

Diddordeb mewn symud i mewn i rôl reoli neu eisoes mewn rôl arwain tîm.

Cost y cwrs yw Band H (£217).

Mwy o gyrsiau Busnes, Cyllid a Rheolaeth

Chwiliwch am gyrsiau