Skip page header and navigation

Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio

  • Campws Aberystwyth
2 Flwyddyn

Os ydych chi’n frwd dros naill ai actio, canu, dawnsio neu ddarparu cymorth technegol tu ôl i’r llenni, yna mae’r cwrs hwn gan gorff dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) i chi. Bydd yn darparu ac yn caniatáu i chi ddatblygu a thanategu eich gwybodaeth o’r holl ddisgyblaethau perfformio, gan eich paratoi i hybu eich gyrfaoedd dewisol, i symud ymlaen i’r brifysgol, conservatoire, ysgol ddrama neu ddawns neu hyd yn oed y gweithle.

Mae celfyddydau perfformio yn cynnig llwybr gyrfaol amrywiol yn y diwydiant celfyddydau creadigol sy’n ddiwydiant cysylltiedig â’r cyfryngau sy’n tyfu’n gyflym.

Addysgir ein cwrs celfyddydau perfformio gan staff hynod frwdfrydig sydd â phrofiad o berfformio yn y West End a phrofiad perfformio rhyngwladol mor bell i ffwrdd â Berlin a’r Dwyrain Canol.

Rhoddir cyfleoedd i chi ddatblygu ac ehangu eich creadigrwydd, i gynyddu eich profiad o amrywiaeth o ddisgyblaethau perfformio ynghyd â phrofiadau yn y diwydiant. Mae hwn yn gwrs tra ymarferol sy’n eich galluogi i ddod yn unigolyn creadigol, hyderus, sy’n hyfforddi o fewn strwythur sy’n ysgogol, ymestynnol ac sy’n darparu proses bontio gefnogol o astudio cyffredinol i astudio mwy arbenigol.  

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 Flwyddyn
Achrededig:
ual: awarding body logo

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i ysgolion galwedigaethol neu brifysgol ac yn y pen draw i fyd gwaith. Bydd ein cwrs yn dysgu’r sgiliau technegol i chi i wneud i’ch gwaith sefyll allan a byddwn yn rhoi’r wybodaeth a’r ysbrydoliaeth, ac yn bennaf oll yr hyder i chi archwilio eich perfformiad a’ch syniadau artistig creadigol eich hun.  

Mae gennym ddull hyblyg, gyda ffocws ar wneud eich syniadau a’ch gwaith creadigol yn unigryw ac yn ganolbwyntiedig ar y diwydiant. Byddwch yn edrych ar ystod o ddisgyblaethau mewn celfyddydau perfformio megis actio, canu, dawnsio a theatr gorfforol, theatr gerdd a pherfformiad safle-benodol. Hefyd mae yna bwyslais cryf tuag at greu a dyfeisio eich perfformiadau eich hun.

Mae gennym gysylltiadau a chyfleoedd cyfoethogi ardderchog sy’n caniatáu i chi weithio’n rheolaidd gyda chwmnïau theatr a dawns ymweliadol o bob cwr o Brydain. 

Mae gennym ddwy stiwdio ymarfer dawns/perfformiad eang ynghyd â rigiau goleuadau llawn, seddau ar ogwydd, drychau, ystafelloedd newid a storfa dechnegol.

Mae’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio yn cynnwys 12 uned dros ddwy flynedd, sydd yn cwmpasu er enghraifft:

  • Egwyddorion perfformiad
  • Ymgysylltu â chynulleidfa
  • Paratoi ar gyfer dilyniant
  • Datblygu sgiliau perfformio a chynhyrchu

Mae’r rhaglen celfyddydau perfformio lefel tri ddwy flynedd hon yn cynnwys datblygu sgiliau mewn celfyddydau cynhyrchu megis goleuo, sain a rheolaeth llwyfan, sy’n integredig yn yr holl brosiectau perfformiad.

Mae perfformiadau diweddar yn cynnwys:

  • Antigone
  • Chicago 
  • Ganllath o’r Copa
  • The Lion, The Witch and The What?
  • Macbeth
  • Treigl Amser
  • Cabaret 
  • 1984
  • Sweeney Todd
  • Hamlet
  • Amadeus
  • Love, Desire and Need
  • Lights Out

Mae graddedigion y cwrs hwn yng Ngholeg Ceredigion wedi datblygu eu hyfforddiant ymhellach yn rhai o’r canlynol:

Academi Emile Dale, Ysgol Actio Guildford (GSA), Academi Paratoi i Berfformio (PPA), Trinity Laban, Prifysgol Chichester, LIPA, Prifysgol Edge Hill, Prifysgol Roehampton, Ysgol Celfyddydau Drama Rose Bruford, Prifysgol Falmouth, Prifysgol Bournemouth, Prifysgol Bath Spa, Prifysgol Brighton, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol De Montfort, Ysgol Cerdd a Drama Guildhall. 

Mae dysgwyr bellach wedi mynd ymlaen i weithio gyda:

Pina Bausch Tanztheatre, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. (Diversions), National Theatre of Wales, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatr Arad Goch. Cyngerdd Les Misérables Llundain, cyfres Pitch Battle (BBC1), cwmni Living Pictures.

Mae dysgwyr yn cael cyfleoedd i wirfoddoli a hyfforddi gyda sefydliadau megis Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Theatr Arad Goch a chwmni dawns Sbardun Gwreiddiol.

Asesir unedau yn fewnol. Hefyd byddwch yn creu prosiect perfformiad ar y cyd ym mlwyddyn un a phrosiect estynedig terfynol ym mlwyddyn dau.

5 TGAU graddau C ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd. Neu Ddiploma Lefel 2 mewn pwnc perthynol (gyda phroffil teilyngdod). Bydd angen i bob ymgeisydd fynychu clyweliad yn ogystal â chyfweliad. 

Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino. 

Bydd angen i chi brynu dillad priodol ar gyfer gwaith ymarferol. Darperir canllawiau pellach ar ddechrau’r cwrs.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol