
Diploma Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio Lefel 3
- Campws Y Graig
Mae’r celfyddydau perfformio yn llwybr cyffrous a chreadigol sy’n cynnwys actio, canu a dawnsio naill ai ar lwyfan neu ar y teledu.
Fel myfyriwr y celfyddydau perfformio byddwch yn ymuno’n awtomatig â Chwmni Theatr Glo yng Ngholeg Sir Gâr.
Caiff y cwrs hwn ei ddyfarnu gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) a byddwch yn datblygu eich gwybodaeth greiddiol am ystod eang o ymarfer perfformio, wrth archwilio a datblygu eich sgiliau perfformio mewn amgylchedd cyffrous, dwys a chefnogol. Byddwch yn dysgu’r technegau a’r sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer clyweliadau proffesiynol a chyfweliadau mewn ysgolion galwedigaethol neu brifysgolion. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau trosglwyddadwy i chi a allai eich arwain at hyfforddi mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau megis perfformiwr, athro/athrawes, gweinyddwr celfyddydau, coreograffydd, newyddiadurwr darlledu, dylunydd gwisgoedd, artist colur, therapydd celf, rheolwr llwyfan a chyfarwyddwr.
Mae gennym gysylltiadau rhagorol â gweithwyr proffesiynol a sefydliadau’r diwydiant gan gynnwys y BBC, Yr Egin (S4C) yng Nghaerfyrddin a Stiwdio’r Actor Ifanc yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ystod eich dwy flynedd, cewch gyfleoedd i adeiladu portffolio o brofiadau perfformio a diwydiant a fydd yn gwella’ch gallu i gael mynediad i’r diwydiannau celfyddydau perfformio. Cwrs hynod ymarferol yw hwn sy’n eich trwytho mewn ymarfer rhyngddisgyblaethol blaengar gan eich paratoi i gamu i 21ain ganrif y diwydiant celfyddydau perfformio.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 14 uned dros ddwy flynedd: Rhennir y rhain dros dri phrosiect perfformio cyffrous bob blwyddyn. Nod ein cwmni theatr, ‘Cwmni Theatr Glo’ yw cyflwyno dysgwyr i amgylchedd gwaith tra phroffesiynol. Mae prosiectau yn y gorffennol wedi archwilio:
- Dramodwyr Cyfoes Cymru
- Perfformio theatr gerdd
- Teledu a Ffilm
- Dawns, Symudiad a Theatr Gorfforol
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys naill ai’r Fagloriaeth Cymru Uwch (Ôl-16) neu Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a Sgiliau Cyflogadwyedd.
Mae perfformiadau diweddar yn cynnwys:
- Nine To Five the Musical
- Creativity Locked Down (ffilm) a gynhwyswyd yn arddangosfa The Origins Creatives 2021
- Antigone (Theatr yr Efail)
- Chat Room (ffilm)
- Much Ado About Nothing (Theatr yr Efail)
- Cabaret (Theatr yr Efail)
- Arddangosfa o Ddramodwyr Cyfoes Cymru
- Elf Junior the Musical (Cynhyrchiad teithiol ysgolion)
- Blue Remembered Hills (Y Ffwrnes)
- Caucasian Chalk Circle gan Bertolt Brecht
- Ignite (Arddangosiad perfformio yn Y Ffwrnes)
- Under Milk Wood (Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru)
- Here We Just Are (Darn a luniwyd yn seiliedig ar Dylan Thomas)
- The Trial addaswyd gan Steven Berkoff
- DNA (Rhan o raglen Connections y National Theatre a berfformiwyd yn The Egg, Theatre Royal, Caerfaddon)
- Seussical the musical
Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn rhan o dri pherfformiad cwmni. Mae amrywiaeth o rolau perfformio a chynhyrchu i ddewis o’u plith. Yn ogystal cewch ddosbarthiadau dwys ac ymarferol iawn mewn actio, canu a dawns. Er mwyn cwblhau elfennau theori’r cwrs byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwil ac ymarfer myfyriol ochr yn ochr â’ch pynciau ymarferol mewn dosbarthiadau pwrpasol. Trwy gydol y cwrs mae cyfleoedd allgyrsiol fel teithiau West End, a gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Mae’r ail flwyddyn yn dechrau gyda ffocws ar baratoi monologau, caneuon a repertoire dawns yn barod ar gyfer clyweliadau prifysgol neu gonservatoire. Byddwch yn cael clyweliad ffug gyda thiwtoriaid cwrs a gweithwyr proffesiynol ymweliadol y diwydiant, yn ogystal â gweithdai gyda’r ysgolion drama gorau. Byddwch hefyd yn parhau i ddatblygu eich techneg a’ch sgiliau mewn prosiectau mawr, perfformiadau a dosbarthiadau sgiliau.
Mae yna nifer anhygoel o gyfleoedd cyflogadwyedd yn sector y celfyddydau perfformio. Cewch eich addysgu gan ystod o diwtoriaid sydd â llawer o flynyddoedd o brofiad ar draws pob rhan o’r diwydiant a fydd yn eich tywys ac yn cefnogi eich opsiynau gyrfaol. Mae hwn yn amser hynod gyffrous i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru sy’n arwain at gyfleoedd gwaith ar garreg eich drws gydag Yr Egin yng Nghaerfyrddin a stiwdios y BBC, Caerdydd.
Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis GSA, RWCMD, Mountview, PCYDDS neu gall arwain at brentisiaeth neu gyflogaeth.
Asesir unedau yn fewnol. Hefyd byddwch yn creu prosiect mawr terfynol.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Fel rhan o’r broses gyfweld, bydd gofyn i chi gael clyweliad am eich lle ar y cwrs ar gyfer y celfyddydau perfformio a’r celfyddydau cynhyrchu hefyd. Gweler y fanyleb isod.
Ar gyfer y Celfyddydau Perfformio, bydd gofyn i chi gynhyrchu un o’r canlynol:-
● Cân o Sioe Gerdd Theatr
● Perfformiad dawns mewn arddull o’ch dewis
● Monolog o ddrama gyhoeddedig (Dim Ffilm na Theledu)
Os ydych chi’n dewis gwneud cân neu ddawns, dewch â’r trac gyda chi. Cewch 2 funud ar y mwyaf ar gyfer pob elfen.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y lefel dau gael o leiaf pedwar TGAU gradd A* - C gan gynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y lefel tri feddu ar o leiaf pump TGAU graddau A*-C, gan gynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt hyd yn hyn y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd angen i bob myfyriwr brynu iwnifform ymarferol Cwmni Theatr Glo ar ddechrau’r cwrs.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.