
Dyfarniad a Diploma Lefel 2 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu
- Campws Y Graig
Oes diddordeb gyda chi mewn drama, dawns, theatr gerdd neu’r celfyddydau cynhyrchu tu ôl i’r llenni?
Yna’r cwrs hwn gan Gorff Dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yw’r dewis iawn i chi.
Yn ystod y cwrs blwyddyn mewn celfyddydau perfformio a chynhyrchu, byddwch yn datblygu gwybodaeth mewn ystod eang o sgiliau perfformio, gan gynnwys sesiynau arbenigol mewn actio, canu, dawnsio a chelfyddydau cynhyrchu. Byddwch yn archwilio a datblygu eich sgiliau perfformio mewn amgylchedd cyffrous, dwys a chefnogol drwy ystod o brosiectau wedi’u bwriadu i adlewyrchu profiadau gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 10 uned dros un flwyddyn: Caiff yr unedau hyn eu rhannu i bum prosiect cyffrous bob blwyddyn. Byddant yn archwilio cyflwyniad i gelfyddydau perfformio a chynhyrchu, cynhyrchiad perfformio i blant, sioe arddangos dawns, cyfle i archwilio deunydd clyweliad ar gyfer cyfleoedd dilyniant a hefyd prosiect diwedd blwyddyn cyffrous, terfynol.
Yn ystod y flwyddyn ar y cwrs byddwch yn rhan o dri pherfformiad cwmni, yn ogystal â dau brosiect byr. Bydd amrywiaeth o rolau perfformio a chynhyrchu i ddewis o’u plith. Hefyd byddwch yn cael dosbarthiadau sgiliau ymarferol yn ychwanegol i’r prosiectau hyn mewn actio, canu a dawns. Er mwyn cwblhau elfennau theori’r cwrs byddwch yn datblygu eich sgiliau ymchwilio a hunanfyfyrio i gefnogi eich datblygiadau ymarferol.
Trwy gydol y cwrs mae yna gyfleoedd allgyrsiol fel academïau perfformio, teithiau i’r West End, a gweithdai gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
Bydd y cwrs hwn yn darparu profiad gwerthfawr i chi ac yn datblygu sgiliau angenrheidiol a fyddai’n fan cychwyn gwych i unrhyw un oedd am ddilyn gyrfa yn y celfyddydau perfformio. Bydd y cymhwyster lefel dau yn eich galluogi i feithrin eich hyder, eich sgiliau cyfathrebu a’ch sgiliau rhwydweithio. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i unrhyw gwrs lefel tri. Ond yn fwy penodol, mae dilyniannau’n tueddu arwain at ein cyrsiau diwydiannau creadigol lefel tri, megis y celfyddydau perfformio a chynhyrchu, perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth a’r cyfryngau creadigol.
Bydd cwblhau’r rhaglenni lefel tri yn llwyddiannus yn eich galluogi i gael mynediad i ystod eang o gyrsiau addysg lefel uwch ar draws y DU, gan gynnwys conservatoires perfformio arbenigol.
Asesir unedau yn fewnol mewn pum prosiect - tri seiliedig ar berfformio a dau brosiect byr.
Fel rhan o’r broses gyfweld, bydd gofyn i chi gael clyweliad am eich lle ar y cwrs ar gyfer y celfyddydau perfformio a’r celfyddydau cynhyrchu hefyd. Gweler y fanyleb isod.
Ar gyfer y Celfyddydau Perfformio, bydd gofyn i chi gynhyrchu un o’r canlynol:-
● Cân o Sioe Gerdd Theatr
● Perfformiad dawns mewn arddull o'ch dewis
● Monolog o ddrama gyhoeddedig (Dim Ffilm na Theledu)
Os ydych ch’n dewis gwneud cân neu ddawns, dewch â’r trac gyda chi. Cewch 2 funud ar y mwyaf ar gyfer pob elfen.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer lefel dau gael o leiaf 3 TGAU gradd A* - C gan gynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg iaith gyntaf.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt hyd yn hyn y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd angen i bob myfyriwr brynu iwnifform ymarferol Cwmni Theatr Glo ar ddechrau’r cwrs.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.