
Mynediad i Astudiaethau Galwedigaethol
- Campws Y Graig
Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol. Byddwch chi’n astudio amrywiaeth o unedau o’r meysydd pwnc gwahanol rydyn ni’n eu cynnig yn y coleg, fel y gallwch chi weld beth rydych chi’n ei fwynhau a gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â’r hyn rydych chi eisiau ei astudio’n fanylach yn y flwyddyn ganlynol.
Yn ogystal â meithrin dealltwriaeth dda o’r gwahanol bynciau, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau a fydd o gymorth i chi yn y coleg ac yn y gwaith, fel:
- Bod yn drefnus
- Gwaith tîm
- Rheoli amser
- Sgiliau astudio
- Dysgu sut i baratoi ar gyfer asesiadau a’u cwblhau
- Cyfathrebu’n hyderus
Mae’r cwrs yn addas i chi os ydych chi eisiau magu hyder mewn lleoliad coleg neu os nad ydych chi’n siŵr pa faes pwnc yn union rydych chi eisiau ei astudio’n llawn amser.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Saesneg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio o gwmpas dysgu ymarferol. Mae’n canolbwyntio mwy ar sgiliau ymarferol ac yn eich galluogi i ddangos yr hyn y gallwch chi ei wneud, yn hytrach na phrofi eich gwybodaeth theori.
Byddwch chi’n datblygu sgiliau cyffredinol a fydd yn eich helpu i symud ymlaen gyda dysgu pellach yn ogystal â sgiliau sy’n benodol i’r pwnc.
Mae enghreifftiau o’r unedau yn cynnwys:
- Y ddwy uned graidd gorfodol yw Sgiliau ar gyfer dysgu a’r Her Tîm - Bydd y rhain yn rhoi’r cyfle i chi feithrin y sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddangos eich dealltwriaeth o’r gwahanol bynciau rydych chi’n dysgu amdanynt.
- Mae’r unedau eraill yn cynnwys:
- Rheoli amser,
- Datrys problemau drwy feddwl yn greadigol,
- Cyfathrebu â phobl
- Dod o hyd i wybodaeth am bwnc.
- Caiff cymwysterau Mathemateg a Saesneg eu cynnwys yn y rhaglen hefyd.
Ar ôl i chi gwblhau’r cwrs hwn bydd yr hyder, y sgiliau a’r profiad gyda chi er mwyn dewis cwrs yr hoffech ei astudio’n fanylach yn y dyfodol.
Asesir pob uned yn fewnol, gan roi’r cyfle i chi arddangos y sgiliau rydych chi wedi’u datblygu. Ceir ystod o arddulliau asesu sy’n addas ar gyfer eich anghenion unigol a rhoddir gradd i bob uned i annog datblygiad eich sgiliau a’ch perfformiad.
Mae mynediad i’r cwrs yn dibynnu ar ganlyniad cyfweliad dethol. Mae mynediad i fyfyrwyr heb gymwysterau ffurfiol yn ôl disgresiwn y maes cwricwlwm gan ddibynnu ar dystiolaeth ysgrifenedig o astudio neu ddysgu blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol