
Diploma Rhagarweiniol BTEC mewn Astudiaethau Galwedigaethol
- Campws Aberystwyth
Mae’r cwrs rhagarweiniol hwn yn cynnig blas ar gelf, technoleg gwybodaeth, gofal plant, y cyfryngau ac arlwyo gan ganiatáu i’r myfyriwr gael profiad o amrywiol bynciau gyda golwg ar ddatblygu ei ddiddordebau.
Cynigia’r diploma gyfle i ddysgwyr astudio ystod o unedau o wahanol sectorau yn y gyfres, gan gefnogi dilyniant i astudio pellach. Bydd dysgwyr yn ennill sylfaen dda yn y gwahanol feysydd pwnc rydym yn eu cynnig yn y coleg fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus ynghylch yr hyn y maen nhw’n dymuno dilyn yn fanwl y flwyddyn ganlynol.
Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno ennill hyder mewn astudiaeth addysg bellach ac i’r rheiny sy’n ansicr ynghylch yr union faes pwnc y maen nhw am ei astudio’n llawn amser.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae diploma rhagarweiniol lefel un Pearson BTEC mewn astudiaethau galwedigaethol wedi’i gynllunio o gwmpas sgiliau ymarferol a thasgau sy’n rhoi pwyslais ar ddysgwyr yn dangos yr hyn y gallant ei wneud yn hytrach na’r hyn y maent yn ei wybod mewn theori. Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill a datblygu sgiliau generig, trosglwyddadwy a sector-benodol er mwyn cwblhau tasgau a dangos lefel o gyflawniad sy’n eu galluogi i symud ymlaen i ddysgu pellach.
Mae enghreifftiau o unedau yn y prif gymhwyster yn cynnwys:
- Pedair uned graidd orfodol, gan gynnwys Bod yn Drefnus, Datblygu Cynllun Dilyniant Personol, Gweithio gydag Eraill ac Ymchwilio i Bwnc - Byddant yn rhoi cyfle i ddysgwyr ennill y sgiliau y bydd eu hangen arnynt i arddangos eu dealltwriaeth o’r sector.
- Mae unedau sector yn cynnwys Celf, Technoleg Gwybodaeth, Gofal Plant, y Cyfryngau ac Arlwyo. Mae’r unedau sector yn rhoi’r cyfle i ddysgwyr gymryd y sgiliau y maen nhw wedi’u hadeiladu yn yr unedau craidd ac arddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth am eu sector.
- Caiff cymwysterau Mathemateg a Saesneg eu cynnwys yn y rhaglen.
Mae gan y cymhwyster hwn graidd o wybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth, ac ystod o opsiynau i adlewyrchu ehangder y llwybrau o fewn y sector hwn. Gallai dilyniant dysgwyr gynnwys astudio pellach ar gwrs lefel un neu lefel dau, prentisiaeth neu gyflogaeth. Bydd lefel y dilyniant yn dibynnu ar y radd gyffredinol a gyflawnir yn y cymhwyster.
Asesir yr holl unedau’n fewnol, gan roi’r cyfle i ddysgwyr arddangos sgiliau a ddatblygwyd mewn senarios cymhwysol ac mae ystod o arddulliau asesu sy’n addas ar gyfer anghenion unigol. Rhoddir gradd i bob uned i annog datblygiad sgiliau a pherfformiad.
Does dim gofynion mynediad ffurfiol.
Bydd angen i ddysgwyr sy’n symud ymlaen o gwrs yng Ngholeg Ceredigion ddangos eu bod wedi cwblhau ac ymgysylltu’n llwyddiannus ar y rhaglen astudio gyfredol, datblygiad sgiliau profedig, lefelau presenoldeb da a bydd ganddynt eirda cadarnhaol.
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol