
Diploma Lefel 2 mewn Paratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus
- Campws Y Graig
Gall gyrfa mewn gwasanaethau cyhoeddus fod yn eang ac yn amrywiol ond nod yr holl wasanaethau yw gweithio gyda’r gymuned a gall gynnwys rolau megis plismona, cyfiawnder a thrin galwadau brys.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i’ch ysbrydoli ac i ennyn brwdfrydedd ynoch i ystyried gyrfa yn y sector gwasanaethau cyhoeddus.
Trwy gydol y flwyddyn cewch gyfle i ennill gwybodaeth a dealltwriaeth ehangach am y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn ategu ac yn gwella eich sgiliau fel gweithiwr gwasanaethau cyhoeddus uchelgeisiol. Ei nod yw eich paratoi ar gyfer cyfleoedd astudio pellach ac mae’n darparu cam ar y ffordd i gwrs gwasanaethau cyhoeddus lefel tri, antur awyr agored lefel tri neu chwaraeon lefel tri.
Nod y cwrs yw cysylltu addysg â byd gwaith mewn ffyrdd sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac yn ymarferol, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Mae yna lawer o gyfleoedd i gwrdd â phersonél Gwasanaethau Cyhoeddus o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys yr Heddlu, y Fyddin, y Môr-filwyr Brenhinol, y Llu Awyr Brenhinol (RAF) a’r Gwasanaeth Tân ac Achub. Cewch gyfle hefyd i fynychu cystadleuaeth gwasanaethau cyhoeddus flynyddol lle rydych yn cystadlu gyda dysgwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill o bob rhan o’r DU.
Fe’ch anogir i ymgysylltu â’n hacademïau chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae meysydd astudio yn cynnwys iechyd a ffitrwydd, gweithgareddau anturus, gwirfoddoli a chyflogadwyedd. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol trosglwyddadwy fel gweithio gydag eraill, datrys problemau, astudio annibynnol a sgiliau dysgu/meddwl. Bydd myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.
Cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn prosiectau gyda grwpiau cymunedol lleol a phartneriaid y coleg er mwyn cael cipolwg ar gyfleoedd cyflogaeth o fewn y sector. Bydd y cyfle i redeg ac arwain digwyddiadau yn datblygu hyder a sgiliau cyfathrebu.
- Sgiliau Gwasanaethau Cyhoeddus a Chefnogaeth i’r Gymuned
- Gwirfoddoli yn y Gwasanaethau Cyhoeddus
- Chwaraeon a Hamdden yn y Gwasanaethau Cyhoeddus
- Iechyd a Ffitrwydd ar gyfer mynediad i’r Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
- Trosedd a’i Effeithiau ar Gymdeithas
- Gweithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai
- Ymwybyddiaeth Gymunedol a Diwylliannol
- Sgiliau Alldaith a Thirlywio
Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.
Nod y cwrs hwn yw datblygu gwybodaeth greiddiol, sgiliau a dealltwriaeth er mwyn bod yn barod i symud ymlaen i lwybrau helaeth yn y coleg. Gall cyfleoedd dilyniant gynnwys astudio ar lefel bellach neu lwybrau prentisiaethau.
Yn dilyn cymhwyster lefel tri, os yw’r myfyriwr am symud ymlaen yn ei astudiaeth ar ôl y cwrs hwn, gall dysgwyr symud ymlaen i addysg uwch mewn ystod o ddisgyblaethau, er enghraifft:
- BA (Anrh) mewn Troseddeg
- BSc (Anrh) mewn Tân ac Achub
- BA (Anrh) mewn Gwaith Cymdeithasol
- BA (Anrh) mewn Cymdeithaseg
- BA (Anrh) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
- BA (Anrh) mewn Plismona
- LLB (Anrh) yn y Gyfraith.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio’n bennaf i gefnogi dilyniant i gyflogaeth yn dilyn astudiaeth bellach mewn prifysgol. Fodd bynnag, mae hefyd yn cefnogi dysgwyr sy’n symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddysgwyr sydd eu hangen i ymgeisio am ystod o rolau lefel mynediad yn y sector Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai, neu am gyflogaeth fel prentis yn y sector, lle bydd dysgwyr yn cwblhau hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i symud ymlaen yn eu proffesiwn dewisol.
Mae llwybrau dilyniant yn dibynnu ar gyflawniadau ar L2. Disgwylir i ddysgwyr gwblhau gyda phroffil teilyngdod llawn neu uwch a dangos cynnydd mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Mae symud ymlaen yn amodol ar gyfweliad.
Caiff pob uned ei hasesu ar ffurf gwaith cwrs ac arsylwadau ffurfiol yn ystod yr elfennau ymarferol. Ar gyfartaledd, bydd pob uned yn cynnwys dau asesiad ysgrifenedig ac o leiaf un math o asesiad ymarferol.
Pedwar TGAU graddau A* - D gyda dwy radd C, gydag un naill ai yn Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Derbynnir y rheiny sy’n symud ymlaen o gyrsiau lefel un chwaraeon yn ogystal.
Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol ar C neu uwch hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen talu am deithiau a gweithgareddau Awyr Agored. Rhoddir llythyrau i rieni yn dweud wrthynt am y costau hyn.
Oherwydd y gofynion ffitrwydd ar y cwrs, bydd angen cit chwaraeon ar ddysgwyr a hefyd dillad ac esgidiau sy’n addas i’w gwisgo ar alldeithiau.