
Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 1
- Campws Y Graig
Gall gyrfa mewn gwasanaethau cyhoeddus fod yn eang ac yn amrywiol ond nod yr holl wasanaethau yw gweithio gyda’r gymuned a gall gynnwys rolau megis plismona, cyfiawnder a thrin galwadau brys.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi cychwyn i chi ar astudio a dysgu am wasanaethau cyhoeddus ac fe fydd yn cynnig y cyfle, ar gwblhad llwyddiannus, i symud i fyny lefelau dilyniant y cwrs.
Ewch ati i wneud cwrs fydd yn eich cyflwyno i’r sector gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r cwrs blwyddyn hwn wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad i chi i’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn addysg a/neu yrfa yn y sector gwasanaethau cyhoeddus. Ei nod yw meithrin nodweddion ac ymddygiadau yn barod ar gyfer astudio pellach. Ar gwblhau, mae’n bosibl y byddwch yn penderfynu defnyddio’r cwrs hwn fel cam i gwrs gwasanaethau cyhoeddus lefel dau neu chwaraeon lefel dau.
Cewch y cyfle i ymgymryd â gweithgareddau ymarferol ac astudiaeth ddamcaniaethol sy’n benodol i’r pwnc, ochr yn ochr â datblygu sgiliau hanfodol megis llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Bydd y cwrs yn darparu cyfle i chi archwilio sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n cynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, iechyd a ffitrwydd a datrys problemau.
Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar safon ddiwydiannol megis ein neuadd chwaraeon a swît ffitrwydd. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n hacademïau chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae meysydd astudio yn cynnwys gwirfoddoli, iechyd a ffitrwydd, sgiliau alldaith a darllen mapiau. Hefyd byddwch yn datblygu sgiliau mewn trefnu, cynllunio dilyniant personol ac ymchwil ar lefel briodol.
Cewch wahoddiad i ymgysylltu â’r gymuned leol a meithrin perthnasoedd positif gydag arbenigwyr y diwydiant er mwyn cael cipolwg ar opsiynau gyrfa posibl. Mae’r cyfleoedd hyn yn anelu at wella hyder a datblygu dyheadau.
Mae 10 uned yn ffurfio’r cwrs sy’n cynnwys:
- Bod yn Drefnus
- Datblygu Cynllun Dilyniant Personol
- Gweithio Gydag Eraill
- Ymchwilio i Bwnc
- Ymateb i Ddigwyddiad
- Cael Gwybod am y Gwasanaethau Cyhoeddus
- Cymryd Rhan mewn Profi Ffitrwydd
- Cynnal Chwiliadau Diogelwch
- Cymryd Rhan mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Antur
- Cynllunio a Llywio Llwybr
Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys sesiynau datblygu sgiliau a rhaglen diwtorial.
Mae’r cwrs hwn yn darparu cipolwg ar y diwydiant gwasanaethau cyhoeddus ac yn annog dysgwyr i symud ymlaen ymhellach er mwyn cyflawni eu nodau gyrfaol. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen i gyrsiau L1 neu L2 eraill o fewn y maes cwricwlwm.
Mae cyfleoedd dilyniant yn dibynnu ar gyflawniadau myfyrwyr ar L1. Disgwylir i ddysgwyr gwblhau gyda phroffil pas llawn a dangos cynnydd mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol. Mae symud ymlaen yn amodol ar gyfweliad.
Caiff yr holl aseiniadau eu dyfeisio gan diwtoriaid y cwrs, a’u hasesu’n fewnol.
I ennill pas mewn uned a asesir yn fewnol, rhaid i fyfyrwyr fodloni’r holl feini prawf asesu.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Bydd angen o leiaf tri TGAU arnoch ar raddau A*-G, gydag un naill ai yn Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg.
Asesir yr holl fyfyrwyr ar sail unigol a chynigir cyfle iddynt i ddod am gyfweliad
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt wedi cael y graddau angenrheidiol hyd yn hyn yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU, Cymwysterau Agored neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.