
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 BTEC mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
- Campws Aberystwyth
Gall gyrfa yn y gwasanaethau cyhoeddus gynnig llwybr ystyrlon a gwerth chweil sy’n canolbwyntio ar wasanaethu’r gymuned a chael effaith gadarnhaol ar gymdeithas.
Bydd y cwrs yn darparu rhaglen astudio gynhwysfawr a heriol a bydd yn eich helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at yrfa yn cefnogi’r cyhoedd. Byddwch yn dysgu’r sgiliau hanfodol ar gyfer ystod eang o swyddi ar draws y sector gwasanaethau cyhoeddus, o’r gwasanaethau arfog a’r heddlu i rolau mewn awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog. Mae Coleg Ceredigion yn cydweithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys i ysbrydoli a magu brwdfrydedd dysgwyr er mwyn iddynt ystyried gyrfa yn y sector.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwynir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored a chewch gyfle hefyd i ymweld â gweithleoedd a chyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd siaradwyr ymweliadol ac arbenigwyr hefyd yn dod i’r coleg i siarad â chi am yr hyn y maen nhw’n ei wneud yn y gwasanaethau cyhoeddus. Yn ogystal, cewch y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg a diwylliannol.
Byddwch yn dysgu’r sgiliau hanfodol ar gyfer ystod eang o swyddi ar draws y sector gwasanaethau cyhoeddus, o’r gwasanaethau arfog a’r heddlu i rolau mewn awdurdodau lleol a llywodraeth ganolog. Bydd Coleg Ceredigion yn cydweithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys i ysbrydoli a magu brwdfrydedd dysgwyr er mwyn iddynt ystyried gyrfa yn y sector.
Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd y cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus yn darparu rhaglen astudio gynhwysfawr a heriol a fydd yn eich helpu i gymryd eich camau cyntaf tuag at yrfa yn cefnogi’r cyhoedd. Gallai’r cwrs hwn fod yn llwybr mynediad i’r cymhwyster Gwasanaethau Cyhoeddus L3.
Caiff unedau naill ai eu hasesu’n fewnol neu’n allanol. Mae’r coleg yn cynllunio ac yn asesu’r asesiadau mewnol trwy aseiniadau a chyfranogiad gweithredol. Pearson sydd yn gosod ac yn marcio’r asesiadau allanol.
4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pynciau perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25.00 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol