
Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai
- Campws Y Graig
Gall gyrfa mewn gwasanaethau cyhoeddus fod yn eang ac yn amrywiol ond nod yr holl wasanaethau yw gweithio gyda’r gymuned a gall gynnwys rolau megis plismona, cyfiawnder a thrin galwadau brys.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhaglen astudio lawn amser, dwy flynedd ar gyfer dysgwyr sydd am ganolbwyntio ar y sector gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai, gyda’r nod o symud ymlaen i addysg uwch i gwrs gradd cysylltiedig neu ennill cyflogaeth yn y gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai.
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth sy’n ymwneud â’r llywodraeth a’r sector gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai ehangach, yn ogystal â datblygu’r sgiliau pwysig sydd eu hangen i weithio yn y sector hwn, megis disgyblaeth, gwaith tîm, cyfathrebu, gweithio gyda grwpiau amrywiol a’r gallu i weithio ar y cyd.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r sector gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai yn amrywiol ac yn cwmpasu gwasanaethau fel gwasanaeth yr heddlu, y gwasanaeth tân ac achub, y gwasanaethau arfog a’r gwasanaeth carchardai. Mae’r cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar y gwasanaethau amddiffyn mewn lifrai hyn, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt. Bydd yn rhoi’r cyfle i chi nid yn unig i ddysgu am y sector, ond i ryngweithio â phobl sy’n gweithio yn y rolau hyn trwy raglen o siaradwyr gwadd, teithiau, asesiadau ffitrwydd galwedigaethol, sesiynau rhagflas ac efelychiadau sy’n rhan annatod o’r cwrs.
Mae’r cwrs yn cynnwys 13 uned sy’n cwmpasu pynciau fel Dinasyddiaeth ac Amrywiaeth; Ymddygiad a Disgyblaeth yn y Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai; Materion Byd-eang; Paratoi’n Gorfforol, Iechyd a Lles; Gwaith Tîm, Arweinyddiaeth a Chyfathrebu; Y Llywodraeth a’r Gwasanaethau Amddiffyn; Cynllunio ar gyfer Digwyddiadau Brys ac Ymateb iddynt a Throseddeg.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch.
Mae gan y cymhwyster bwyntiau UCAS ac mae’n cael ei gydnabod gan ddarparwyr addysg uwch fel un sy’n cwrdd â gofynion derbyn llawer o gyrsiau perthnasol. Gall dysgwyr symud ymlaen i addysg uwch mewn ystod o ddisgyblaethau, er enghraifft:
- BA (Anrh) mewn Troseddeg
- BSc (Anrh) mewn Tân ac Achub
- BA (Anrh) mewn Gwaith Cymdeithasol
- BA (Anrh) mewn Cymdeithaseg
- BA (Anrh) mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
- BA (Anrh) mewn Plismona
- LLB (Anrh) yn y Gyfraith.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio’n bennaf i gefnogi dilyniant i gyflogaeth yn dilyn astudiaeth bellach mewn prifysgol. Fodd bynnag, mae hefyd yn cefnogi dysgwyr sy’n symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ddysgwyr sydd eu hangen i ymgeisio am ystod o rolau lefel mynediad yn y sector Gwasanaethau Amddiffyn mewn Lifrai, neu am gyflogaeth fel prentis yn y sector, lle bydd dysgwyr yn cwblhau hyfforddiant a chymwysterau ychwanegol i ennill y sgiliau a’r wybodaeth sy’n ofynnol i symud ymlaen yn eu proffesiwn dewisol.
Mae tri phrif fath o asesiad ar y cwrs. Asesir y mwyafrif o unedau yn fewnol, fodd bynnag bydd dwy uned yn cael eu hasesu’n allanol ar ffurf arholiadau ysgrifenedig (un ym mhob blwyddyn o’r cwrs). Bydd asesiad synoptig hefyd ym mlwyddyn 2 a fydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddewis a chymhwyso dysgu o bob rhan o’u rhaglenni yn annibynnol i gwblhau tasg alwedigaethol sy’n cynnwys senarios a gweithgareddau realistig. Disgwylir i bob dysgwr sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac sydd wedi derbyn Addysg cyfrwng Cymraeg cyn mynychu’r Coleg gwblhau 50% o’r cwrs trwy Gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar:
O leiaf pum pwnc TGAU graddau A* - C, rhaid i un o’r rhain fod yn Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf neu fathemateg neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau perthnasol yn llwyddiannus
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt hyd yn hyn y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Bydd angen talu am deithiau a gweithgareddau Awyr Agored. Rhoddir llythyrau i rieni yn dweud wrthynt am y costau hyn.
Oherwydd y gofynion ffitrwydd ar y cwrs, bydd angen cit chwaraeon ar ddysgwyr a hefyd dillad ac esgidiau sy’n addas i’w gwisgo ar alldeithiau.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.