Gwahoddiad Amber i Netflix y DU ar ôl cael ei henwi’n un o’r pump gorau mewn cystadleuaeth bwrdd stori genedlaethol
Mae gwaith myfyrwraig cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei roi ymhlith y pump gorau yng nghystadleuaeth Time to Inspire Into Film: , sydd wedi arwain at wahoddiad i weithio gyda chynhyrchwyr ym mhencadlys Netflix yn Llundain ar gyfer cam nesaf y gystadleuaeth.
Gwnaeth Amber Liles, sy’n 17 oed ac yn astudio diploma achrededig lefel tri mewn cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol ym Mhrifysgol y Celfyddydau, Llundain, gyflwyno bwrdd stori wedi’i luniadu â llaw ar gyfer y gystadleuaeth a oedd yn gofyn am straeon i ysbrydoli plant 5 i 15 mlwydd oed.
Mae stori Amber, sydd wedi’i gosod ychydig ar ôl cyfnod y Canol Oesoedd, yn dechrau gyda chymeriad merch ifanc unig o’r enw Seren, sy’n byw mewn pentref yng Nghymru.
Mae’r golygfeydd agoriadol yn darlunio awyrgylch o anobaith a thristwch ac wrth iddi fynd am dro un diwrnod, mae Seren yn dod ar draws draig goch o’r enw Draig Fach (Little Dragon), sy’n sâl a gwael iawn ac mae hynny oherwydd bod yr iaith Gymraeg yn marw.
Mae Amber yn trio helpu’r ddraig ond caiff ei gwthio bant gan bawb y mae’n ceisio help ganddynt ac mae’n teimlo fel rhoi’r gorau iddi.
Mae yna dro cadarnhaol i’r stori ond mae hefyd yn adlewyrchu taith bersonol Amber a’i neges hi ei hun o beidio â rhoi i fyny, a mynnu cael eich clywed.
Mae ei phrofiad o deithio i Lundain a gweithio ochr yn ochr â chynhyrchwyr a chyfarwyddwyr Netflix yn gwireddu breuddwyd Amber.
Meddai Amber Liles: “Roedd yr ymweliad â Netflix yn eithaf llethol ond yn brofiad hollol syfrdanol ac yn brawf bod breuddwydion yn gallu troi’n realiti.
“Gwnaeth y cwmni fy ngyrru i yno a chefais fy nenu ar unwaith gan yr adeilad nendwr yng nghanol Llundain. Nod yr ymweliad oedd gweithio gyda’r tîm, datblygu fy mwrdd stori a dysgu sut i weithio i gyllideb a dod o hyd i leoliadau ar gyfer ffilmio a chastio.
“Roedd gweld holl wobrau diwydiant-ffilm Netflix ar gyfer llwyddiant cynyrchiadau byd-eang mor ysbrydoledig, ac roedd gweithio mewn ystafelloedd thema Netflix originals megis Squid Game, Stranger things a The Crown yn anhygoel.
“Yn bendant, byddwn i’n dweud, os oes breuddwyd gennych, peidiwch byth â rhoi i fyny.”
Mae cystadleuaeth Into Film yn cynnig cyfle i bobl ifanc 13-19 oed ar draws y DU i droi eu stori’n ffilm fer a bydd yr enillydd yn gweld ei fwrdd stori’n dod yn fyw a chael ei gynnwys mewn gŵyl ffilmiau.