Sut i wneud cais am gwrs
Sut i wneud cais am gwrs
- Mae’n dechrau gydag ychydig o ymchwil - Dewch i noson agored, porwch drwy ein gwefan ac unwaith eich bod wedi dod o hyd i gwrs, cliciwch gwneud cais.
- Cwblhewch eich cais ar-lein - rhowch gipolwg ar ein canllawiau neu cysylltwch â’n tîm derbyn os ydych chi angen help.
- Y cam nesaf yw cyfweliad - Dyma’ch cyfle i ddweud wrthym amdanoch chi, a’n cyfle ni i’ch rhoi chi ar y llwybr iawn.
- Byddwch yn cael cynnig lle drwy e-bost - Derbyniwch e ac mae eich siwrnai yn cychwyn.
- Y cam olaf yw cofrestru - Mae hyn yn digwydd ar ddiwrnod canlyniadau, dewch â’ch graddau i mewn a byddwn ni’n eich arwain drwy’r broses gofrestru.
-
- Dewch o hyd i gwrs ar-lein a chliciwch ar y botwm gwneud cais.
- Cewch eich cymryd i sgrin fewngofnodi.
- Os dyma yw eich tro cyntaf yn gwneud cais, bydd angen i chi greu cyfrif. Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol, ac nid cyfeiriad e-bost ysgol. Pan fyddwch yn creu eich cyfrif, byddwch yn creu eich cwestiwn atgoffa cyfrinair eich hun, ac ateb, rhag ofn y byddwch yn anghofio eich cyfrinair yn y dyfodol.
- Os oes gennych chi gyfrif Prospect yn barod, neu os ydych yn fyfyriwr ar hyn o bryd, gallwch chi ddefnyddio’r manylion hynny i fewngofnodi.
Cam 1
- Cam 1 y cais yw ble rydych chi’n llanw eich manylion personol. Pan ydych chi wedi gorffen, cliciwch parhau.
- Rhaid cwblhau unrhyw flwch sydd â seren (*) neu ni fyddwch yn gallu symud ymlaen.
- Nawr fe welwch chi dudalen Diogelu Data. Gwiriwch y blychau a chliciwch y botwm cyflwyno.
- Rydych chi nawr wedi cwblhau Cam 1 y cais. Byddwn ni’n gwirio eich manylion ac yna’n anfon e-bost atoch fydd yn gofyn i chi gwblhau Cam 2 y cais.
- Gwiriwch eich ffolder sbam/sothach i weld a yw ein e-bost wedi glanio yno. Gallwch chi ychwanegu admissions@colegsirgar.ac.uk i’ch cysylltiadau i stopio hyn rhag digwydd.
Cam 2
- Yng ngham 2 eich cais, byddwch chi’n llanw gweddill eich gwybodaeth i mewn. Dylai gymryd tua 10 munud, ond gallwch chi gadw eich cynnydd os oes angen i chi.
- Adrannau y bydd angen i chi eu llanw:
- Cyfle Cyfartal
- Cymorth a Chefnogaeth
- Eich cymwysterau - gall hyn fod yn raddau disgwyliedig, neu beth rydych chi’n credu y gallech chi ennill
- Diogelu Data
Rydych chi nawr wedi gorffen Cam 2. Os oes slotiau cyfweliad ar gael i’w bwcio, bydd yr opsiwn hwn ar gael nawr. Os na welwch chi opsiwn i wneud bwciad i gael cyfweliad peidiwch â phoeni - byddwch yn derbyn e-bost arall yn eich gwahodd i wneud bwciad nes ymlaen.
-
- Defnyddiwch gyfeiriad e-bost personol, ac nid cyfeiriad e-bost ysgol. Pan fyddwch yn creu eich cyfrif, byddwch yn creu eich cwestiwn atgoffa cyfrinair eich hun, ac ateb, rhag ofn y byddwch yn anghofio eich cyfrinair yn y dyfodol.
- Os oes gennych chi gyfrif Prospect eisoes, ond ni roddwyd mewngofnodiad coleg i chi eto, yna gallwch chi ddefnyddio mewngofnodiad eich cyfrif Prospect (eich e-bost personol fel arfer) a’ch cyfrinair i fewngofnodi.
- Os ydych chi’n fyfyriwr yn y coleg ar hyn o bryd, a rhoddwyd manylion eich cyfrif coleg i chi, ac mae gennych gyfrif Google coleg actif, byddwch yn gallu mewngofnodi i Prospect (system ymgeisio’r coleg), gan ddefnyddio eich e-bost coleg, a chyfrinair eich e-bost coleg, gan ddefnyddio’r ddolen “Cliciwch yma i fewngofnodi gyda’ch cyfrif Google coleg” ar dudalen fewngofnodi Prospect.
-
Beth yw fy Enw Mewngofnodi Prospect?
Dangosir eich mewngofnodiad Prospect ar yr holl gyfathrebiadau a gewch gan y coleg. Fel arfer, hwn fydd y cyfeiriad e-bost personol rydych wedi ei gofrestru gyda ni. Os ydych yn ansicr o hyd, yna gallwch gysylltu â ni yma - admissions@colegsirgar.ac.uk
Sut ydw i’n ailosod fy nghyfrinair Prospect?
Gallwch ailosod eich cyfrinair Prospect yma - https://apply.colegsirgar.ac.uk/ResetPassword.
Dylech roi eich cyfeiriad e-bost personol, ac yna clicio ar cyflwyno. Os deuir o hyd i’r e-bost personol rydych wedi’i roi, yna anfonir e-bost atoch gyda dolen i ailosod eich cyfrinair. Os nad ydych yn derbyn yr e-bost, yna cysylltwch â ni yma - admissions@colegsirgar.ac.uk.
Dolenni Defnyddiol
Canllaw i’ch helpu i benderfynu pa gyrsiau i wneud cais amdanynt.
Gwybodaeth am gofrestru yn y coleg
Yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn dechrau gyda ni yn y coleg