Skip page header and navigation
The group outside an attraction with an oversized giraffe statue

Fel myfyrwraig anabl roedd yn wych i gael y cyfle i deithio dramor i weld rhai o sŵau syfrdanol yr Iseldiroedd. Roedd Sŵ Burgers yn arbennig yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol i ddylunio cynefinoedd. Roedd gallu gweld ysbyty milfeddygol Prifysgol Utrecht yn ddiddorol hefyd, a dysgais i y gallai hwn fod yn rhywle i astudio ar gyfer fy ngradd meistr os af i ar y llwybr hwnnw.” Rebecca Pitts

Mae myfyrwyr gradd yng Ngholeg Sir Gâr sy’n astudio rhaglenni’n gysylltiedig ag anifeiliaid wedi ymweld â’r Iseldiroedd yn ddiweddar ar daith ymchwil addysgol.

Roedd amserlen brysur gan y myfyrwyr ar raglenni gradd y coleg mewn gwyddor anifeiliaid ac ymddygiad a lles anifeiliaid, a oedd yn cynnwys ymweld ag Amgueddfa Artis Groote a phreswylwyr Sŵ Artis gan gynnwys eliffantod Asiaidd a lemyriaid coch torchog.

Hefyd aethant ar daith o gwmpas Sŵ Burgers yn Arnhem, lle caiff cynefinoedd naturiol graddfa fawr eu hail-greu a chynhelir ymchwil sy’n hyrwyddo gwarchod rhywogaethau yn y gwyllt. 

Arhosiad arall a amserlennwyd oedd Prifysgol Utrecht lle cafwyd sgwrs ar ymddygiad a gwybyddiaeth anifeiliaid a thro cyfadran o gwmpas ei hysbyty milfeddygol. 

A bird of prey
Two students in a mock boat outside an attraction
Animals at a local zoo on rocks

Meddai’r myfyriwr Matt Grimwood: “Roedd hwn yn gyfle gwych ac roedd yn wirioneddol fewnweledol i weld sut mae dyluniad llociau a lles anifeiliaid yn gwahaniaethu yn yr Iseldiroedd mewn cymhariaeth â’r DU. Hefyd gwnes i’n bersonol gwir fwynhau cael tro o gwmpas campws milfeddygol y brifysgol, yn enwedig eu casgliad o sbesimenau yn y llyfrgell a oedd yn anhygoel.”

Meddai Rebecca Pitts: “Fel myfyrwraig anabl roedd yn wych i gael y cyfle i deithio dramor i weld rhai o sŵau syfrdanol yr Iseldiroedd. Roedd Sŵ Burgers yn arbennig yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol i ddylunio cynefinoedd. Roedd gallu gweld ysbyty milfeddygol Prifysgol Utrecht yn ddiddorol hefyd, a dysgais i y gallai hwn fod yn rhywle i astudio ar gyfer fy ngradd meistr os af i ar y llwybr hwnnw. Ar y cyfan, roedd y daith yn hwyl ac yn ysbrydoledig hefyd. Des i i adnabod rhai o’m cyd-fyfyrwyr yn well ac fe wnaeth ein darlithwyr Anna a Stephanie ofalu amdanom ni mor dda tra roedden ni i ffwrdd. Diolch iddyn nhw ac i raglen Taith am roi’r cyfle i ni fynd.”

Meddai Meghan Thomas: “Roedd yn syfrdanol i allu cael y cyfle i ymweld â chymaint o leoedd gwahanol ac i gael llun clir go iawn o ba mor wahanol mae lles anifeiliaid yn yr Iseldiroedd. Yn ogystal ag ennill gwybodaeth o ganlyniad i’r daith, roeddwn i’n teimlo hefyd fy mod i wedi dod i adnabod cyd-fyfyrwyr a staff llawer yn fwy a gwnaeth hynny greu’r awyrgylch gorau ar gyfer teithio a’r profiad yn gyffredinol.”

A large paw of a lion showing the pads against a window
A learner sitting in a chair which is an oversized microbia
At the airport next to a Welsh dragon

Ychwanegodd Amanda Price: “Dyna fraint i fod wedi cael y cyfle i deithio gyda grŵp hyfryd o bobl ac archwilio’r addysg a phrofi sŵau yn yr Iseldiroedd. Roeddwn i wrth fy modd gyda chynllun ecosystem sŵ Burgers ac roedd ymroddiad a brwdfrydedd y tywysydd dros les yr anifeiliaid yn wych. Roedd Prifysgol Utrecht, gyda chyfleoedd ymchwil anhygoel, a’r cyfleusterau neilltuol yn ysbyty’r anifeiliaid yn y brifysgol, yn uchafbwynt arbennig. Diolch i’r darlithwyr Anna a Steph am wneud y daith yn bosibl ac i raglen Taith am ei hariannu.”

Yn dilyn y daith, fe wnaeth y myfyrwyr sy’n astudio ar gampws Pibwrlwyd, wneud eu ffordd yn ôl i’r DU, gan deithio o Faes Awyr Amsterdam Schiphol.

Ariannwyd y daith gan Taith, rhaglen gyfnewid dysgu rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

Rhannwch yr eitem newyddion hon