Skip page header and navigation
All the team stood outside lined up under the Academi Steil sign

Mae Academi Steil, salon hyfforddi Coleg Ceredigion yn Aberteifi, wedi cael cydnabyddiaeth gyda Gwobr Profiad y Cleient Phorest 2025, gan ddathlu ei wasanaeth neilltuol a’i adborth cleientiaid sy’n gyson uchel.

Rhoddir y wobr yn unig i salonau sy’n cynnal graddiad ar gyfartaledd gan gleientiaid o bedwar allan o bump neu uwch rhwng Mawrth 2024 a Chwefror 2025. Gydag adolygiadau’n llawn canmoliaeth brwd gan gleientiaid yn clodfori proffesiynoldeb, awyrgylch croesawgar a thriniaethau ansawdd-uchel, mae’r salon wedi ennill ei le gyda balchder ymysg y goreuon.

Meddai Jane Clarke-Evans, darlithydd trin gwallt yng Ngholeg Ceredigion: “Anrhydedd anhygoel i ni, fel tîm yw derbyn y wobr hon am ofal cleientiaid neilltuol. 

“Mae’r gydnabyddiaeth hon yn dystiolaeth wirioneddol i frwdfrydedd angerddol ein staff a myfyrwyr, nid yn unig am steilio gwallt ond am greu profiad croesawgar a chofiadwy i bob person sy’n eistedd yn ein cadair. 

“Rydyn ni’n credu bod gwallt gwych yn dechrau gyda pherthnasoedd gwych, ac rydyn ni mor ddiolchgar am ein cleientiaid syfrdanol sy’n ymddiried ynom â’r ddau. Diolch i chi am y gydnabyddiaeth aruthrol hon.”  

Mae Academi Steil, sydd ar agor i’r cyhoedd, yn cynnig ystod eang o wasanaethau gwallt a harddwch a gyflwynir gan fyfyrwyr dan oruchwyliaeth gweithwyr proffesiynol profiadol. Mae’r wobr yn tynnu sylw at ymrwymiad y coleg i roi gwasanaeth ardderchog i gleientiaid ac ar yr un pryd darparu profiad ymarferol gwerthfawr i fyfyrwyr, mewn amgylchedd gwaith go iawn.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn ychwanegu at enw da cynyddol y coleg am ragoriaeth ac yn ardystio’n gadarn i ansawdd yr hyfforddiant a’r gwasanaeth sydd ar gael yn ei salonau.

Gall cleientiaid wneud bwciadau am apwyntiadau yn Academi Steil ar 01239 622300 neu drwy dudalen Facebook y salon.

Rhannwch yr eitem newyddion hon