
Diploma Estynedig mewn Celfyddydau Cynhyrchu - Lefel 3
- Campws Y Graig
Ydych chi erioed wedi meddwl am sut caiff llwyfannau eu goleuo, sut caiff dylunio ar gyfer y theatr ei greu a sut caiff cerddoriaeth a special FX eu creu ar gyfer theatr, ffilm neu deledu? Neu a ydych yn chwilfrydig ynghylch gyrfa cefn llwyfan?
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn cael profiad ymarferol mewn cynllunio a chynhyrchu’r fath gynnwys.
Bydd y cwrs hwn gan gorff dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn rhoi’r sgiliau ymarferol a’r hyfforddiant technegol i chi i weithio yn y diwydiannau creadigol. Byddwch yn astudio ystod eang o sgiliau mewn dylunio set, gwisgoedd, goleuo a chymysgu sain ynghyd â rheoli llwyfan a chynhyrchu.
Mae myfyrwyr perfformio a chynhyrchu yn rhan o Gwmni Theatr Glo’r coleg sy’n gweithredu fel cwmni theatr proffesiynol. Byddwch yn cydweithio ar brosiectau yn Yr Efail, ein theatr odidog, ac yn cael y cyfle i ddylunio a llwyfannu cynyrchiadau mewn theatrau proffesiynol. Bydd rhan o’ch cwrs yn cynnwys gweithio gyda thîm cynhyrchu PCYDDS a chael gweithdai dwys gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn sector creadigol sy’n ehangu’n gyflym yn y DU.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cwrs dwy flynedd yw hwn sy’n eich galluogi i ddatblygu eich diddordeb a’ch gwybodaeth am ystod o ddisgyblaethau dylunio a thechnegol. Byddwch yn dysgu ymchwilio a myfyrio ar eich gwaith ar lefel uchel a phrofi eich creadigrwydd trwy weithio ar brosiectau perfformio cyffrous.
Mae ein prosiectau diweddar wedi cynnwys gwneud ffilmiau byr gydag It’s my Shout BBC Cymru, yn ogystal â llwyfannu cynyrchiadau wedi’u gwireddu’n llawn yn Theatr y Ffwrnes Llanelli, lle mae 500 o seddi. Byddwch yn dylunio, ymchwilio a chefnogi ein prosiectau perfformio fel rhan o’n cwmni theatr.
- Sesiynau sgiliau - adeiladu eich gwybodaeth a chreadigrwydd mewn ystod o feysydd gan gynnwys set, goleuo, sain, rheoli llwyfan a gwisgoedd)
- Prosiect - Sesiynau ymarferol yn dylunio a chynhyrchu prosiectau perfformio
- Ymchwil a Chyd-destun - Yn seiliedig ar theori lle byddwch yn archwilio hanes theatr, artistiaid cyffrous a datblygiadau yn y diwydiant.
- Sesiynau tiwtorial - olrhain a chefnogi eich cynnydd ar y cwrs.
Mae pob dysgwr hefyd yn cael ei gofrestru ar lwybr sgiliau ar gyfer llythrennedd a rhifedd.
Mae’r cwrs yn galluogi myfyrwyr i archwilio, dylunio a chreu gwaith newydd cyffrous ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Bydd y profiad a gewch drwy’r cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa mewn cynhyrchu cefn llwyfan a dylunio ar gyfer y theatr yn ogystal â Theledu a chynhyrchu.
Cewch eich asesu ar eich aseiniadau ymarferol a theori.
Ar ddiwedd y cwrs dwy flynedd hwn, byddwch yn ennill Diploma Estynedig UAL, Lefel 3 mewn Celfyddydau Cynhyrchu, sy’n gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
5 TGAU gradd A*-C yn cynnwys naill ai mathemateg, Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf).
Fel rhan or broses gyfweld, bydd gofyn i chi gael clyweliad am eich lle ar y cwrs ar gyfer y celfyddydau perfformio a’r celfyddydau cynhyrchu hefyd. Gweler y fanyleb isod.
Ar gyfer y celfyddydau cynhyrchu, bydd gofyn i chi gyflwyno un o'r canlynol:-
- Dyluniad Set / Gwisg / Colur / Goleuadau / Sain ar gyfer sioe o’ch dewis.
- Eitem rydych chi wedi i chreu (Prop, Gwisg ac ati)
- Portffolio neu waith rydych chi wedi’i gwblhau yn y gorffennol – gallai hyn fod yn ddelweddau o gynhyrchiad blaenorol y gwnaethoch chi helpu i’w redeg/dylunio ac ati.
Bydd angen esgidiau/bŵts blaenau dur arnoch.
Bydd gofyn i chi gael crys T du Cwmni Theatr Glo.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.