
Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon
- Campws Y Graig
Mae’r sector chwaraeon yn ddiwydiant sy’n tyfu’n gyflym. Ar hyn o bryd mae’n werth £39 biliwn i’r economi ac mae’n parhau i dyfu bob blwyddyn. Hyfforddi a datblygu chwaraeon yw un o feysydd pwysicaf y diwydiant hwn ar hyn o bryd, gan sicrhau bod iechyd a datblygu sgiliau yn digwydd o lawr gwlad i lefelau perfformiad elit.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno gweithio ym maes hyfforddi chwaraeon, datblygu neu’r sector addysg chwaraeon. Ceir cysylltiad cryf hefyd â’r sector gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Achub, yn ogystal â Lluoedd Arfog y DU.
Fel myfyriwr ar y cwrs cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad. Cewch brofiad uniongyrchol o’n cyfarpar ‘Safon Aur’, sy’n cynnwys ‘Wattbikes’ Brigbŵer, Dadansoddwr Màs y Corff, synwyryddion Smartspeed a dadansoddwr anadl-wrth-anadl Vo2max. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i ymgysylltu ag un o’n Hacademïau Chwaraeon neu ein Rhaglen Perfformiwr Elit, sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn amrywiaeth o chwaraeon.
Yn ystod y cwrs dwy flynedd, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau gymhwyster: Diploma Sylfaen Cenedlaethol Pearson BTEC lefel 3 (540) mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon ym mlwyddyn un, ac yna Diploma Estynedig Cenedlaethol Pearson BTEC lefel 3 (1080) mewn Hyfforddi a Datblygu Chwaraeon ym mlwyddyn dau.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r gyfres hon o gymwysterau yn cynnwys achrediad gan y diwydiant, sy’n caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen yn uniongyrchol i gyflogaeth yn y sector chwaraeon.
Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth mewn meysydd fel technegau hyfforddi uwch, maetheg chwaraeon, dadansoddi chwaraeon, asesu ffitrwydd, tylino chwaraeon ac anatomeg a ffisioleg.
Ochr yn ochr â’ch cymhwyster craidd byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol megis sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol trwy ein Twlcit Sgiliau Hanfodol Cymru ar-lein (WEST).
Mae’r cwrs 12 uned yn cyfuno theori â dulliau dysgu ymarferol. Mae 1080 GLH yn gyfwerth o ran maint â thri phwnc Safon Uwch.
Blwyddyn 1:
- Uned A: Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
- Uned B: Iechyd, Lles a Chwaraeon
- Uned C1: Datblygu Sgiliau Hyfforddi
- Uned 1: Datblygu Chwaraeon
- Uned 2: Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
- Uned 5: Anatomeg a Ffisioleg mewn Chwaraeon
Blwyddyn 2:
- Uned D1: Sgiliau Hyfforddi Cymhwysol
- Uned E: Prosiect Ymchwil mewn Chwaraeon
- Uned 4: Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
- Uned 7: Tylino Chwaraeon Gweithredol
- Uned 8: Profi Ffitrwydd
- Uned 12: Cymhwyso Chwaraeon Ymarferol
Gall cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus arwain at gyfleoedd yn y sector chwaraeon, hamdden ac iechyd gan gynnwys cyflogaeth mewn canolfannau hamdden, campfeydd ffitrwydd, swyddogion hwb chwaraeon ysgolion, adrannau hyfforddi cymunedol lleol a chyrff llywodraethu.
Bydd y cwrs hwn hefyd yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen i gyrsiau addysg uwch yn y brifysgol mewn meysydd fel; Hyfforddi a Pherfformiad Chwaraeon, Therapi Chwaraeon, Maetheg Chwaraeon, Cryfder a Chyflyru, Addysg Gorfforol a/neu Seicoleg Chwaraeon i enwi ond ychydig.
Caiff yr holl waith ei asesu’n fewnol trwy aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, llyfrau log, defnyddio tystiolaeth fideo, profion llyfr agored, taflenni/pamffledi, ac ati. Caiff pob uned ei graddio fel Pas, Teilyngdod neu Ragoriaeth, gyda gradd driphlyg gyffredinol e.e. PPP i Rh*Rh*Rh* yn cael ei dyfarnu ar ôl cwblhau.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
O leiaf pump TGAU graddau A*-C/9-4, gan gynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Mae cael TGAU addysg gorfforol yn fanteisiol, ond nid yn hanfodol.
Mae dilyniannau o lefel dau chwaraeon gyda phroffil TT yn dderbyniol. Mae meddu ar ddiddordeb brwd a chyfranogiad gweithredol mewn chwaraeon hefyd yn fanteisiol. Asesir pob dysgwr ar sail unigol trwy gyfweliad.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a phrynu cit chwaraeon y coleg i’w ddefnyddio mewn gweithgareddau ymarferol a theithiau coleg.