Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol - Lefel 3 Pearson BTEC
- Campws Y Graig
Mae chwaraeon, ffitrwydd a hyfforddiant personol yn yrfa ddelfrydol i helpu ysgogi pobl i ymarfer yn effeithiol a mwynhau’r canlyniad a ddaw yn sgil hyn.
Mae’r Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 Pearson BTEC mewn Chwaraeon, Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol yn gymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant (CIMSPA/REPS). Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar symud ymlaen i gyflogaeth fel hyfforddwr personol ac mae’n cefnogi dysgwyr i sefydlu eu busnes hyfforddiant personol a hyfforddi ymarfer eu hunain.
Caiff dysgwyr hefyd y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddarparu sesiynau hyfforddi a rhaglenni ymarfer i gleientiaid i gyd-fynd â’u hanghenion penodol. Bydd dysgwyr yn ennill gwybodaeth ac arbenigedd ychwanegol sy’n caniatáu iddynt ddarparu gwasanaethau eraill sy’n gysylltiedig â chwaraeon neu ffitrwydd i’r cleientiaid y maent yn eu hyfforddi’n bersonol, megis tylino chwaraeon a phrofion ffitrwydd.
Cewch fynediad i gyfleusterau a chyfarpar o safon y diwydiant megis ein cae chwarae 4G, neuadd chwaraeon, campfa ffitrwydd, swît ddadansoddi a hwb perfformiad. Hefyd fe’ch anogir i ymgysylltu â’n Hacademïau Chwaraeon sy’n anelu at ddatblygu athletwyr a chwaraewyr mewn ystod o chwaraeon.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
-
Nodweddion y Rhaglen
-
Cynnwys y Rhaglen
-
Dilyniant a Chyflogaeth
-
Dull asesu
-
Gofynion Mynediad
-
Costau Ychwanegol
Mae meysydd astudio yn cynnwys Datblygu Sgiliau Ffitrwydd, Datblygu Sgiliau Hyfforddwr Personol, Maetheg ar gyfer Perfformiad Corfforol a Thylino Chwaraeon Gweithredol.
Byddwch yn datblygu’r sgiliau canlynol:
- Sgiliau gwybyddol a datrys problemau: defnyddio meddwl beirniadol, mynd i’r afael â phroblemau anarferol wrth ddefnyddio datrysiadau creadigol.
- Sgiliau rhyngbersonol: cyfathrebu, gweithio ar y cyd, trafod a dylanwadu, hunan-gyflwyniad.
- Sgiliau personol: hunanreolaeth, gallu i addasu a gwytnwch, monitro eich hun a datblygu.
Mae’r cwrs yn cynnwys 12 uned a all gynnwys:
- Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Egnïol
- Iechyd, Lles a Chwaraeon
- Datblygu Sgiliau Ffitrwydd
- Datblygu Sgiliau Hyfforddwr Personol
- Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgareddau Corfforol
- Maeth ar gyfer Perfformiad Corfforol
- Tylino Chwaraeon Gweithredol
- Profi Ffitrwydd
- Gweithrediadau Cyfleusterau Chwaraeon a Hamdden
- Busnes a Thechnoleg mewn Hyfforddiant Personol
Y prif ffocws yw symud ymlaen i gyflogaeth yn y diwydiant ffitrwydd. Yn y flwyddyn gyntaf, y nod cychwynnol yw eich cymhwyso i fod yn Hyfforddwr Campfa. Byddwch yn meistroli hanfodion anatomeg, ffisioleg a diogelwch offer, gan ennill y cymwysterau sydd eu hangen i gael cyflogaeth ar unwaith mewn clybiau iechyd a chanolfannau hamdden.
Mae’r ail flwyddyn yn codi eich arbenigedd i lefel Hyfforddwr Personol. Y tu hwnt i roi presgripsiwn ymarfer corff, mae’r cam hwn yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i lansio eich busnes eich hun. Byddwch yn dysgu’r drefn o ran sefydlu practis hyfforddi personol a rheoli brand hyfforddi ymarfer corff annibynnol.
Gall dysgwyr symud ymlaen o’r cymhwyster hwn i raglenni gradd addysg uwch, fel BA (Anrh) mewn Iechyd a Ffitrwydd, a BSc (Anrh) mewn Diet, Ffitrwydd a Lles neu BSc (Anrh) mewn Cyflyru, Adsefydlu a Thylino Chwaraeon, i enwi ond rhai.
Fel arall, gall dysgwyr symud ymlaen i gymhwyster atgyfeirio meddygol Lefel 4, fel Diploma mewn Atgyfeirio at Ymarfer Corff.
Caiff yr holl asesiadau eu cynllunio a’u hasesu’n fewnol, gyda samplu allanol yn digwydd ar gais.
Asesir pob uned i gyrraedd proffil pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Rhaid i fyfyrwyr fodloni meini prawf asesu penodol er mwyn cyflawni pob marc.
5 TGAU graddau C ac uwch (neu gyfwerth) i gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Iaith a Mathemateg/Rhifedd. Neu Ddiploma lefel 2 mewn pwnc perthynol (gyda phroffil teilyngdod).
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs yn cael ei asesu yn y cyfweliad a thrwy gydol y cyfnod cynefino.
Bydd hi’n ofynnol i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru yn yr academi chwaraeon brynu cit swyddogol yr academi, gyda phrisiau’n dechrau o £60 ac yn codi gan ddibynnu ar yr eitemau a ddewisir.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.