
Cymhwyster Diploma Mynediad Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur
- Campws Pibwrlwyd
Cymhwyster lefel mynediad yw hwn ar gyfer dysgwyr sydd â diddordeb brwd mewn cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur ac sy’n bwriadu cael gwaith yn y diwydiannau peirianneg fodurol neu fecanyddol.
Cynlluniwyd y cymhwyster hwn i fod yn ymarferol, yn ddiddorol ac yn ysgogol, i gynorthwyo dysgwyr i ennill y wybodaeth a’r sgiliau allweddol sydd fel arfer yn ofynnol ar gyfer gyrfaoedd cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau modur.
Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai sy’n cynnwys y cyfarpar a’r offer diweddaraf a ddefnyddir o fewn y sector ffitio cerbydau modur gan gynnwys ystod o gerbydau ysgafn a cheir amrywiol, ar gyfer ymarfer tasgau ffitio cerbydau cyffredin.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
- Cymysg
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cyflwynir y rhaglen gan dîm o ymarferwyr addysgu profiadol, sydd hefyd â chymwysterau galwedigaethol a phrofiad galwedigaethol.
Caiff y cwrs ei gyflwyno mewn cyfleuster pwrpasol, sydd â gweithdai sy’n cynnwys y cyfarpar a’r offer diweddaraf a ddefnyddir o fewn y sector ffitio cerbydau modur
Ceir nifer o gymhorthion addysgu a dysgu er mwyn datblygu sgiliau ymarferol ac ystod o gerbydau ysgafn a cheir amrywiol, ar gyfer ymarfer tasgau ffitio cerbydau cyffredin.
Mae’r cwrs hwn yn brofiad dysgu pleserus gyda phwyslais ar ddatblygu sgiliau ymarferol mewn lleoliad garej efelychiadol a realistig sy’n seiliedig ar waith.
- Cyflwyniad i Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
- Cyflwyniad i Offer a Chyfarpar Cyffredin ar gyfer Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Modur
- Cyflwyniad i Gydrannau a Gweithrediad Injans
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Iro
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Oeri Injan
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Tanio Gwreichionen
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Danwydd Tanio Gwreichionen
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Danwydd Tanio Cywasgol
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Wacáu
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Lywio
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Hongiad
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Frecio
- Cyflwyniad i Adeiladwaith a Chynnal a Chadw Olwynion a Theiars
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Drawsyriant
- Cyflwyniad i Gydrannau a Chynnal a Chadw System Oleuo Cerbyd Modur
Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn cael y cyfle i symud ymlaen ymhellach yn yr amgylchedd modurol.
Gallai dysgwyr sy’n datblygu safon ymarferol dda symud ymlaen i Brentisiaeth Fodurol Lefel 2 neu hyfforddeiaeth pe baent yn sicrhau cyflogaeth.
Fel arall gallai’r dysgwyr symud ymlaen i gwrs Modurol Lefel 1 llawn amser i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ymhellach mewn atgyweirio Cerbydau Modur.
Asesiad Ymarferol ar gyfer pob uned.
1 x Asesiad Iechyd a Diogelwch Ar-lein (Arholiad)
Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cyfweliad ac asesiad o anghenion unigol a rhoddir ystyriaeth iddynt ar sail canlyniadau’r cyfarfodydd hyn.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich Esgidiau ac Oferôls ar gyfer sesiynau gweithdy