Skip page header and navigation

Cyflwyniad i Wneud Gemwaith

  • Campws Ffynnon Job – Ysgol Gelf Caerfyrddin
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

Addas ar gyfer dechreuwyr, bydd y cwrs 10 wythnos hwn yn dysgu hanfodion sgiliau cyflwyniadol mewn gwneud gemwaith i chi, er mwyn eich galluogi i wneud eich darn o emwaith unigol, gwisgadwy eich hun.

O ddatblygu dyluniad i’r darn gorffenedig, cewch eich cyfarwyddo gan eich tiwtor yn ystod dangosiadau wythnosol, gan weithio gyda metalau cyffredin i ymarfer ac archwilio amrywiaeth o brosesau craidd er mwyn dod â’ch syniadau yn fyw. 

Mae hon yn ffordd ddelfrydol i gychwyn ar eich taith greadigol i addurniadau’r corff ac i ddysgu rhai o sgiliau traddodiadol gwneud gemwaith.

Mae maint y dosbarthiadau yn fach gan ganiatáu digon o sylw un-i-un.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Wyneb i Wyneb
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
5.30pm i 8.30pm, 3 awr bob dosbarth, un noson x 10 wythnos = cyfanswm o 30 awr

£100

Programme Description

Yn y dosbarth hwn byddwch chi’n ymarfer sgiliau traddodiadol mewn gwneud gemwaith dan arweiniad y tiwtor er mwyn creu darnau wedi’u dylunio’n bwrpasol yn seiliedig ar syniad a ddatblygwyd gennych chi eich hun. Bydd sgiliau a addysgir yn cynnwys hanfodion allweddol o ddefnyddio llif rwyllo i dorri siapiau metel, gweadu arwyneb metel a sodro, gan alluogi myfyrwyr i arbrofi gyda gwahanol ddyluniadau, o ddarnau bach a chymhleth i rai talpiog a thrawiadol, er mwyn creu darnau gorffenedig.

Cynhelir y cwrs yng ngweithdy gemwaith y coleg yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, sef ysgol gelf bwrpasol, fywiog sy’n addysgu cyrsiau creadigol ar draws holl ddisgyblaethau celf a dylunio.

Os oeddech chi dan 19 oed ar 1af Medi 2025 y gost fydd £25 yn unig.

Caiff deunyddiau sylfaenol eu darparu ond bydd eich tiwtor yn dweud wrthych am unrhyw ddeunyddiau ychwanegol y bydd angen i chi eu prynu eich hunan.

Mae lleoedd yn gyfyngedig ar bob cwrs er mwyn caniatáu digon o hyfforddiant un i un. Os yw cwrs yn llawn pan fyddwch chi’n gwneud cais, byddwch yn cael eich rhoi ar restr wrth gefn a rhoddir gwybod i chi pan ddaw lle ar gael.

Cost y cwrs £106.00

Cysylltwch â susan.hayward@colegsirgar.ac.uk i gael eich ychwanegu at y rhestr.

Mwy o gyrsiau Celf a Dylunio

Chwiliwch am gyrsiau